Meistr mewn Gweinyddu Busnes Byd-eang (Marchnata)
Ewch ati i wella eich cyflogadwyedd rhyngwladol ac agor drysau i rolau rheoli lefel uchel, drwy gwblhau ein rhaglen MBA Byd-eang gyda ffocws arbenigol ar Farchnata.
Sut i wneud cais Sgwrsio â Ni
Manylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Casnewydd
-
Côd y Campws
C
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£15,500*
Myfyrwyr rhyngwladol
£18,970*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Datblygwch y sgiliau strategol, creadigol a seiliedig ar ddata sydd eu hangen i arwain marchnata modern mewn economi ddigidol. Mae'r MBA Byd-eang (Marchnata) yn paratoi gweithwyr proffesiynol uchelgeisiol i yrru twf trwy fewnwelediad, arloesedd a gwerth i gwsmeriaid.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Pobl sydd â chymhelliant i feithrin eu sgiliau arwain, datblygu'n broffesiynol, a deall busnes a marchnata o safbwynt byd-eang. Mae'r cwrs hefyd wedi'i achredu gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig ar gyfer myfyrwyr sydd wedi astudio 180 credyd yn PDC.
Llwybrau Gyrfa
- Gweithredwr Marchnata
- Gweithredwr Marchnata Digidol
- Gweithredwr Brand / Rheolwr Brand Cynorthwyol
- Dadansoddwr Marchnata
- Gweithredwr Cyfryngau Cymdeithasol a Chynnwys
Sgiliau a addysgir
- Dadansoddi marchnata sy'n seiliedig ar ddata
- Mewnwelediad a segmentu cwsmeriaid
- Strategaeth a lleoli brand
- Cynllunio ac optimeiddio ymgyrchoedd digidol
- Datrys problemau creadigol mewn marchnadoedd cystadleuol
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Adeiladwch sylfeini cryf mewn arweinyddiaeth, strategaeth ac arloesedd wrth ddatblygu ffocws arbenigol mewn rheoli cadwyn gyflenwi. Trwy fodiwlau craidd a dewisol, byddwch yn datblygu'r sgiliau, yr hyder a'r mewnwelediad i ffynnu mewn busnes byd-eang.
Arweinyddiaeth a Thrawsnewid Sefydliadol
Archwiliwch sut i arwain sefydliadau trwy newid, tarfu a thrawsnewid digidol. Datblygwch sgiliau arweinyddiaeth moesegol, cynhwysol i adeiladu timau gwydn ac arwain sefydliadau trwy amgylcheddau busnes cymhleth sy'n esblygu.
Strategaeth a Chreu Gwerth
Datblygwch sgiliau strategol i greu a chynnal gwerth sefydliadol mewn marchnadoedd byd-eang sy'n newid yn gyflym. Byddwch yn archwilio cystadleuaeth, mewnwelediad cwsmeriaid, tarfu digidol a gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar ddata, i ddylunio strategaethau busnes cyfrifol, cynaliadwy ac effeithiol yn fasnachol.
Arloesedd, Cynaliadwyedd a'r Economi yn y Dyfodol
Dysgwch sut i ddylunio arloesiadau cynaliadwy, moesegol gyfrifol ar gyfer economi sy'n esblygu'n gyflym. Archwiliwch ddeallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, meddwl drwy ddata a systemau i greu modelau busnes sy'n barod ar gyfer y dyfodol a chyflwyno atebion ymarferol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Deallusrwydd Artiffisial, Dadansoddeg ac Ymgyrchoedd Clyfar
Archwiliwch sut mae deallusrwydd artiffisial a data yn llunio strategaeth farchnata. Enillwch sgiliau ymarferol mewn dadansoddeg, mewnwelediadau rhagfynegol ac awtomeiddio wrth ddylunio ymgyrchoedd moesegol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sy'n gwella ymgysylltiad cwsmeriaid a pherfformiad busnes.
Strategaeth Werthu a Gwerth i Gwsmeriaid
Dysgwch sut i greu a chyflawni gwerth i gwsmeriaid mewn marchnadoedd cymhleth sy'n cael eu gyrru gan dechnoleg. Rhowch offer strategaeth, gwerthu a deallusrwydd artiffisial ar waith wrth ddylunio dulliau moesegol, sy'n seiliedig ar ddata, sy'n sbarduno twf cynaliadwy a mantais gystadleuol.
Rhowch eich dysgu ar waith yn y byd go iawn trwy interniaeth a Phrosiect Copa’r Labordy Arloesi. Byddwch yn mynd i'r afael â heriau busnes byw, yn dyfnhau'ch arbenigedd ac yn graddio'n barod i arwain newid ystyrlon.
Interniaeth yn y Gweithle
Enillwch brofiad ymarferol gyda chwmni allanol, gan roi eich sgiliau ar waith mewn prosiectau ystyrlon. Gyda chefnogaeth ein partneriaid yn y diwydiant, byddwch yn datblygu mewnwelediad a phrofiad ymarferol sy'n eich paratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
Interniaeth gwaith yn seiliedig ar brosiect
Gweithiwch ar brosiect â ffocws gyda chwmni allanol, gan roi eich sgiliau ar waith mewn heriau busnes go iawn ac ennill profiad ymarferol o gyflawni canlyniadau pendant, proffesiynol.
Y Labordy Arloesi – 'Prosiect Copa' MBA Byd-eang
Gweithiwch mewn timau ar heriau byd go iawn a ddarperir gan bartneriaid yn y diwydiant. Rhowch eich sgiliau ar waith, profwch atebion arloesol, ac enillwch brofiad ymarferol o greu strategaethau gydag effaith fusnes go iawn.
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut byddwch chi'n dysgu
Gallwch chi gwblhau'r MBA Byd-eang (Marchnata) mewn blwyddyn neu ddewis llwybr dwy flynedd sy'n cynnwys interniaeth i ennill profiad marchnata ymarferol. Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch chi'n astudio modiwlau craidd strategaeth a chreu gwerth ochr yn ochr ag opsiynau sy'n canolbwyntio ar farchnata fel strategaeth ddigidol, mewnwelediad cwsmeriaid ac arloesi brand.
Mae dysgu'n ymarferol ac yn cael ei arwain gan y diwydiant, gyda briffiau byw, efelychiadau, a dadansoddeg marchnata wedi'i galluogi gan ddeallusrwydd artiffisial, gan arwain at y Labordy Arloesi lle rydych chi'n datblygu ateb sy'n seiliedig ar ddata i her fusnes go iawn.
Sut y byddwch chi'n cael eich asesu
Mae asesiad ar yr MBA Byd-eang wedi'i gynllunio i adlewyrchu arfer busnes go iawn. Byddwch chi'n gweithio ar heriau sy'n gysylltiedig â'r diwydiant drwy gydol eich modiwlau, gan ddatblygu eich syniadau dros amser a rhoi’r hyn a ddysgwch ar waith mewn senarios busnes ymarferol.
Byddwch yn cwblhau cymysgedd o asesiadau grŵp ac unigol, gan gynnwys prosiectau ymgynghori, cyflwyniadau, adroddiadau a gwaith myfyriol. Mae'r rhain yn eich helpu i feithrin sgiliau gwaith tîm, arweinyddiaeth a meddwl strategol wrth ddangos eich datblygiad proffesiynol eich hun.
Byddwch yn defnyddio deallusrwydd artiffisial ac offer digidol i gefnogi ymchwil, cynllunio ac arloesi. Cewch eich annog i ddefnyddio'r technolegau hyn yn gyfrifol, gan werthuso eu hallbynnau'n feirniadol a deall eu heffaith foesegol ac ymarferol ar wneud penderfyniadau busnes.
Interniaethau
Gall myfyrwyr MBA Byd-eang gwblhau naill ai ‘interniaeth gweithle’ neu ‘interniaeth sy’n seiliedig ar brosiectau’, gan gynnig cyfle iddynt gymhwyso gwybodaeth ystafell ddosbarth mewn lleoliadau busnes byd go iawn a datblygu sgiliau sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr. Mae interniaethau yn rhoi cipolwg buddiol ar sut mae sefydliadau'n gweithredu a'r heriau y maent yn eu hwynebu - profiad a fydd yn eich helpu i sefyll allan yn ystod cyfweliadau a chryfhau eich CV. Gydag interniaeth yn y gweithle byddwch yn rhan annatod o gyflogwr, ac mae'n debygol y bydd gennych ystod o wahanol gyfrifoldebau. Gyda'n interniaethau sy’n seiliedig ar brosiectau, byddwch yn gweithio ar brosiect ffocysedig i'r cyflogwr. Yn ystod eich astudiaethau, byddai gennych yr opsiwn i gwblhau dau o'r interniaethau hyn sy’n seiliedig ar brosiectau, gan roi gwerth ychwanegol i'ch CV. Mae llwybrau interniaeth yn dibynnu ar argaeledd a bydd myfyrwyr yn gwneud dewisiadau gyda chymorth tîm y cwrs.
Cyfleusterau
Mae'r MBA Byd-eang wedi'i leoli yn ein campws yng Nghasnewydd, yng nghanol y ddinas ac ar lannau Afon Wysg - dim ond ychydig funudau ar droed o ganolbwynt manwerthu'r ddinas, ac mae ganddo gysylltiadau da â chyflogwyr mawr. Ar y campws, gall myfyrwyr elwa o gyfleusterau gan gynnwys ein llyfrgell ac Undeb y Myfyrwyr, yn ogystal â'n Canolfan Ymchwil Hydra drawiadol, lle mae myfyrwyr yn ymgymryd â dysgu efelychiedig ac asesiadau, a gynlluniwyd i'w paratoi ar gyfer heriau busnes yn y byd go iawn. Mae myfyrwyr yn derbyn mynediad am ddim i LinkedIn Learning, gyda ffocws penodol ar Drawsnewid Digidol, Deallusrwydd Artiffisial, a Thechnolegau sy'n Dod i'r Amlwg. Mae tystysgrifau cwblhau cyrsiau LinkedIn Learning, ochr yn ochr â sylwebaeth fyfyriol 1,000 o eiriau, yn ffurfio elfen asesedig o’r portffolio Copa.
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Gradd anrhydedd ail ddosbarth o leiaf yn y DU neu gymhwyster cyfwerth rhyngwladol cydnabyddedig.
Mae profiad rheoli perthnasol yn ddelfrydol a byddai pob ymgeisydd yn cael ei ystyried yn unigol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£15,500
fesul blwyddyn*£15,500
fesul blwyddyn*£18,970
fesul blwyddyn*£18,970
fesul blwyddyn*COSTAU YCHWANEGOL
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
Wedi iddynt gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, gall myfyrwyr sydd wedi pasio’r modiwlau gofynnol wneud cais i ennill Diploma Lefel 7 CMI mewn Rheolaeth Strategol ac Arweinyddiaeth. Codir £360 ar fyfyrwyr sy’n dymuno gwneud hyn (y pris yn gywir adeg ysgrifennu).
Cost: £360
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Astudio yn PDC
Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.