PGDip

Rheoli Poen

Mae gan y Diploma ar-lein mewn Rheoli Poen ffocws unigryw ar ddulliau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol o reoli poen a darparu gwasanaethau.

Sut i wneud cais

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Mawrth

  • Lleoliad

    Ar-lein

Ffioedd

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Ar-lein

Ffioedd

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Ar-lein

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £TBC*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £TBC*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Ar ôl cwblhau'r Diploma Rheoli Poen, byddwch yn gallu dangos dealltwriaeth systematig o ofal cleifion ym maes Rheoli Poen; gwerthuso ymchwil gyfredol yn feirniadol ym maes Rheoli Poen rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Mae'r Diploma Ôl-raddedig ar-lein mewn Rheoli Poen yn cael ei gyflwyno gyda'r pwrpas penodol o hyrwyddo a gwella sgiliau a gwybodaeth broffesiynol ymhlith ei fyfyrwyr.

Mewn partneriaeth â

  • Learna | Diploma MSc

Llwybrau Gyrfa

  • Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol

Sgiliau a addysgir

  • Ymchwil 
  • Gwerthuso 
  • Datrys problemau 
  • Arweinyddiaeth

Trosolwg o'r Modiwl

Mecanweithiau Poen 
Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth a gwybodaeth ddatblygedig o achosion sylfaenol a phrofiadau cysylltiedig â phoen. 

Mathau o Boen 
Bydd y modiwl hwn yn gwella gwybodaeth a dealltwriaeth o wahanol fathau o boen gyda phwyslais ar bwysigrwydd clinigol. 

Egwyddorion Asesu a Rheoli Poen 
Yn ystod y modiwl hwn, byddwch yn datblygu gwybodaeth feirniadol o egwyddorion ac arfer clinigol asesu a rheoli poen. 

Dulliau Amlddisgyblaethol o Reoli Poen 

Nod y modiwl yw datblygu dealltwriaeth o wahanol ddulliau triniaeth ar gyfer poen yng nghyd-destun dull cyffredinol o reoli poen. 

Poen mewn Poblogaethau Arbenigol 

Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o boen gydol oes a phrofiad. 

Darpariaeth Gwasanaeth Rhyngddisgyblaethol 

Bydd y modiwl hwn yn manteisio ar wybodaeth a dealltwriaeth o fodiwlau blaenorol i werthuso datblygiad gwasanaethau poen rhyngddisgyblaethol yn feirniadol. 

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Cyflwynir y cwrs Rheoli Poen ar-lein ac mae gan bob modiwl yr un fformat. Gan ddefnyddio platfform ar-lein ac un tiwtor fesul 10-15 myfyriwr, mae'r dysgu o bell hunangyfeiriedig yn cael ei arwain gan drafodaeth wedi'i hysgogi gan diwtor yn seiliedig ar senario achos sy'n gyfoethog yn glinigol. Cyflawnir prosiectau grŵp ochr yn ochr â phrosiectau annibynnol. Cofnodir ymarfer myfyriol mewn portffolio myfyriol i helpu myfyrwyr i ystyried sut y gellir trosi'r dysgu’n waith ac ymarfer bob dydd.

Mae'r cwrs Rheoli Poen yn rhoi asesu wrth wraidd dysgu drwy ddefnyddio senarios clinigol i hwyluso datrys problemau, dadansoddi beirniadol a gofal seiliedig ar dystiolaeth.

Cyfleusterau

Fel rhan o'ch astudiaethau ar-lein, bydd gennych fynediad at ddeunyddiau'r Ganolfan Adnoddau Dysgu ym Mhrifysgol De Cymru. FINDit yw porth y Brifysgol sy'n eich galluogi i chwilio am dros 13,000 o erthyglau cyfnodolion testun llawn, erthyglau newyddion, trafodion cynhadledd a thua 160 o gronfeydd data. Mae modiwlau sgiliau astudio rhyngweithiol ar gael i'w hastudio drwy Blackboard i'ch galluogi i ddefnyddio'r gwasanaethau llyfrgell yn llawn.

Mewn partneriaeth â

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Cymorth gyrfaoedd

GOFYNION MYNEDIAD

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Mae mynediad i'r cwrs fel arfer trwy'r cymwysterau canlynol:

  • Gradd gyntaf neu gyfwerth (gan gynnwys cymwysterau rhyngwladol).
  • Cymwysterau gofal iechyd proffesiynol perthnasol (ee meddyg, nyrs).

Bydd y rhai heb gymwysterau cydnabyddedig yn cael eu hystyried yn unigol a gellir ystyried ystod eang o brofiad blaenorol.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

Sut i wneud cais

Os ydych chi'n barod i wneud cais am y cwrs hwn, y cam nesaf yw cwblhau eich cais drwy ein partner cyflwyno, Learna Ltd. Er bod y cwrs hwn wedi'i ddilysu gan Brifysgol De Cymru, caiff pob cais ei brosesu'n uniongyrchol gan Learna. Ewch i wefan Learna, lle byddwch yn dod o hyd i gyfarwyddiadau manwl ar sut i wneud cais, gan gynnwys y dogfennau gofynnol a dyddiadau cau allweddol. Drwy wneud cais drwy Learna, byddwch yn cymryd y cam cyntaf tuag at ymuno â phrofiad dysgu hyblyg o ansawdd uchel wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau.

Gwefan Learna

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.