Y Cyfryngau, Diwylliant a Newyddiaduraeth
Mae’r radd cyfryngau, diwylliant a newyddiaduraeth hon yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng y cyfryngau, cymdeithas a diwylliant, a’u rôl o ran deall pwy ydyn ni.
Sut i wneud cais Gwneud Cais trwy UCAS Mynd i Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda niManylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Caerdydd
-
Côd y Campws
B
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£TBC*
Myfyrwyr rhyngwladol
£TBC*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Côd UCAS
PP35
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Caerdydd
-
Côd y Campws
B
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,250*
Myfyrwyr rhyngwladol
£15,850*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Gan gymysgu theori â'r cyfle i ddatblygu sgiliau ymarferol penodol cryf, byddwn yn rhoi darlun clir i chi o sut mae'r cyfryngau yn gweithio.
Cynlluniwyd Ar Gyfer
Llwybrau Gyrfaol
- Darlledwyr teledu a ffilm mawr
- Dosbarthwyr
- Sefydliadau addysg
- Ymchwilydd
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Ym mlwyddyn gyntaf y cwrs gradd Cyfryngau, Diwylliant a Newyddiaduraeth, cyflwynir themâu allweddol am y cyfryngau, diwylliant a newyddiaduraeth drwy astudiaeth fanwl o arferion a theori papurau newydd, sinema, teledu, y rhyngrwyd, cerddoriaeth boblogaidd a ffurfiau eraill o'r cyfryngau. Byddwch yn cymryd rhan mewn trafodaethau a gweithdai, ac yn astudio modiwl sy’n eich cyflwyno i sgiliau allweddol Arfer Newyddiaduraeth.
- Cyflwyniad i Newyddiaduraeth Ymarferol
- Pam mae Newyddiaduraeth yn Bwysig
- Teledu Poblogaidd Cyfoes
- Deall Cyfathrebu yn y Diwydiannau Creadigol
- Ailfeddwl Theori Cyfryngau
- Diwylliannau Clywedol-Sain
Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn archwilio’n fanwl y berthynas rhwng y cyfryngau a chynulleidfaoedd, grym sefydliadau'r cyfryngau, cyrhaeddiad cyfryngau rhyngwladol a phwysigrwydd cyfryngau digidol. Mae hyfforddiant arbenigol mewn sgiliau ymchwil cyfryngau ar gael a gallwch ddewis rhwng modiwlau dewisol mewn newyddiaduraeth neu brofiad gwaith.
- Newyddiaduraeth a Chymdeithas
- Newyddiaduraeth Ymarferol a Sgiliau Cyfathrebu
- Ymchwilio i'r Cyfryngau, Diwylliant a Chyfathrebu
- Cynulleidfaoedd a Dilynwyr y Cyfryngau
- Cyfryngau Digidol a Chyfryngau Cymdeithasol
- Profiad Gwaith Cyfryngau, Diwylliant a Newyddiaduraeth
Yn y flwyddyn olaf byddwch yn cwblhau traethawd hir gorfodol ar bwnc o'ch dewis ac yn dewis nifer o fodiwlau sy'n adlewyrchu'r diddordebau a'r arbenigedd rydych chi wedi'u datblygu.
- Traethawd Hir ar y Cyfryngau, Diwylliant, a Newyddiaduraeth
- Cyfryngau Rhyngwladol
- Rhywedd, Cyfryngau, a Diwylliant
- Drama Deledu
- Trawsgyfrwng a Chydgyfeiriant Cyfryngau
- Arfer Proffesiynol y Cyfryngau, Diwylliant a Newyddiaduraeth
GOFYNION MYNEDIAD
Pwyntiau UCAS: 104 (neu uwch)
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: BCC (mae hyn yn cyfateb i 104 pwynt tariff UCAS).
- Bagloriaeth Cymru: Pasio Diploma Bagloriaeth Uwch Cymru gyda Gradd C / B yn y Dystysgrif Her Sgiliau a BC - CC ar Lefel A (mae hyn yn cyfateb i 104 pwynt tariff UCAS).
- BTEC: Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod (mae hyn yn cyfateb i 112 pwynt tariff UCAS).
- Mynediad i AU: Pasio Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 104 pwynt tariff UCAS
Gofynion Ychwanegol:
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,250
fesul blwyddyn*£15,850
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
Efallai y bydd angen i fyfyrwyr dalu am deithio ar deithiau maes dewisol.
Cost: Amrywiol
Efallai y bydd gofyn i fyfyrwyr deithio i gyfleoedd profiad gwaith a/neu efallai y bydd angen gwisg addas arnynt ar gyfer y gweithle.
Cost: Amrywiol
Benthyca Offer Cyfryngau
Gallwch logi amrywiaeth o offer, ar gyfer eich aseiniadau a’ch gwaith ymarferol, am ddim o’n cyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau.
Benthyca Offer CyfryngauSicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut byddwch chi’n dysgu
Byddwch yn dysgu drwy ddarlithoedd, seminarau a gweithdai, gyda deunyddiau cymorth ychwanegol ar-lein. Cwrs damcaniaethol yw hwn yn bennaf, er bod elfennau ymarferol integredig. Bydd disgwyl i chi dreulio amser yn darllen ac yn ymchwilio i ddatblygu eich gwybodaeth bynciol. Mae nifer o brosiectau grŵp yn rhoi cyfle i chi ddatblygu ac arddangos eich sgiliau gweithio mewn tîm.
Asesir y cwrs drwy gyflwyniadau gwaith cwrs rheolaidd, sy'n cynnwys traethodau, posteri academaidd, cyflwyniadau unigol a grŵp, blogiau, portffolios, cyfweliadau, podlediadau, ac ati.
Staff addysgu
- Dr. Peter Jachimiak, Arweinydd y Cwrs
- Steve Johnson
- Dr. James Rendell
- Dr. Rebecca Williams, Athro Cyswllt
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.