Ymarfer Celf (Celfyddydau, Iechyd a Lles)
Mae’r MA Ymarfer Celf (Celfyddydau, Iechyd a Lles) yn gwrs rhan-amser, 18 mis sy'n canolbwyntio ar ddefnyddio'r celfyddydau i feithrin newid cadarnhaol. Byddwch chi’n cynhyrchu prosiectau creadigol sy'n codi ymwybyddiaeth ac yn ennyn diddordeb cymunedau. Mae'r cwrs yn cynnwys gweithdai deinamig sy'n archwilio lles, a syniadau o'r ymchwil ddiweddaraf i feithrin sgiliau proffesiynol.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/art/ma-arts-practice.jpg)
Manylion Cwrs Allweddol
Ydych chi'n barod i gyfuno eich cariad at y celfyddydau ag angerdd am wella iechyd a lles? Defnyddiwch eich creadigrwydd i sbarduno newid cadarnhaol a chael effaith wirioneddol.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Mae'r MA Ymarfer Celf (Celfyddydau, Iechyd a Lles) yn ddelfrydol i artistiaid, gweithwyr proffesiynol creadigol, therapyddion, gweithwyr cymunedol, athrawon, ac eraill sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa ym maes y celfyddydau, iechyd a lles. Mae'n cefnogi'r rhai sy'n awyddus i ddatblygu eu hymarfer proffesiynol a chael effaith gadarnhaol yn y maes hwn.
Llwybrau Gyrfa
- Ymarferydd Celfyddydau Llawrydd
- Cydlynydd Celfyddydau mewn Iechyd
- Swyddog Datblygu'r Celfyddydau
- Sylfaenydd eich busnes eich hun
- Rheolwr Prosiect
Sgiliau a ddysgir
- Archwilio a Myfyrio Creadigol
- Cyfathrebu a Chyflwyno
- Cynllunio cydweithredol
- Dylunio a Gwerthuso Prosiect
- Rhwydweithio Proffesiynol
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r MA Ymarfer Celf (Celfyddydau, Iechyd a Lles) yn ymchwilio i bŵer trawsnewidiol y celfyddydau i gefnogi ein cymunedau mewn ffordd ystyrlon. Trwy gydol y daith 18 mis hon, byddwch chi'n meithrin eich llais creadigol, yn ymgysylltu â ffurfiau celf amrywiol, yn mireinio eich ymarfer, ac yn meithrin eich twf proffesiynol.
Ymchwil a Datblygu Ymarfer Creadigol
Byddwch chi’n archwilio ymarfer, rhwydweithiau, ymchwil a dulliau gwerthuso ym maes y celfyddydau, iechyd a lles. Byddwch chi’n datblygu adolygiad llenyddiaeth am bwnc o ddiddordeb i chi. Byddwch chi’n dysgu am ymarfer myfyriol a methodolegau perthnasol ar gyfer eich disgyblaeth.
Ymarfer Celf 1 – Adolygu a Datblygu
Mae'r modiwl hwn yn eich helpu i ymgysylltu â'ch prosiect cyntaf i ddyfnhau eich ymarfer artistig ac ail-fframio eich gwaith o fewn iechyd a lles. Mae'n rhedeg ochr yn ochr â'r modiwl Ymchwil, gan gysylltu dysgu damcaniaethol â'ch datblygiad ymarferol.
Ymarfer Proffesiynol o fewn y Celfyddydau, Iechyd a Lles
Byddwch chi’n canolbwyntio ar gyfathrebu eich ymarfer trwy gyfryngau digidol a ffisegol. Byddwch chi’n ennill sgiliau cyflogadwyedd trwy ddysgu am fframweithiau gwerthuso ac ansawdd o fewn cyd-destunau’r celfyddydau, iechyd a lles.
Ymarfer Celf 2 – Cynnydd a Lleoli
Gan adeiladu ar Ymarfer Celf 1, mae'r modiwl hwn yn eich helpu i leoli eich gwaith yn hyderus yn y maes. Byddwch chi’n llunio cynnig prosiect hunangyfeiriedig, ac yn archwilio dyluniad prosiect yn fanylach.
Mae ail flwyddyn y cwrs yn dechrau ym mis Hydref ac yn gorffen yn y mis Mawrth canlynol. Yn ystod chwe mis olaf y cwrs, byddwch yn cwblhau'r modiwl 60 credyd sy'n weddill ar gyfer yr MA.
Ymarfer Celf 3 – Mireinio a Phenderfynu
Yn eich modiwl terfynol, byddwch chi’n dylunio ac yn rheoli prosiect celfyddydol mawr, uchelgeisiol ac yn ymgymryd â phrosesau casglu a dadansoddi data, ymchwil yn seiliedig ar y celfyddydau, a gwerthusiad beirniadol o'ch gwaith.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Dulliau Dysgu
Byddwch chi’n dysgu trwy gymysgedd o sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein ar y cwrs MA Ymarfer Celf (Celfyddydau, Iechyd a Lles). Byddwch chi’n mynychu sesiynau penwythnos yn cynnwys gweithdai a siaradwyr gwadd. Rhyngddynt, byddwch chi’n cymryd rhan mewn tiwtorialau ar-lein sy'n cyd-fynd â'ch modiwlau, a fydd yn cynnig arweiniad a chefnogaeth ychwanegol i chi. Bydd eich cynnydd yn cael ei asesu trwy brosiectau ymarferol, ffolios ymchwil, a chynigion, gan roi’r cyfle i chi gymhwyso'ch dysgu i sefyllfaoedd go iawn. Byddwch chi hefyd yn gwerthuso ac yn gwella eich gwaith yn rheolaidd, gydag adborth parhaus gan diwtoriaid a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant i gefnogi eich datblygiad.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/art/Will-James-MA-AHW.png)
Staff addysgu
Mae ein staff MA Ymarfer Celf yn cymryd rhan weithredol mewn ymchwil ac yn dod â chyfoeth o wybodaeth, arbenigedd a phrofiad proffesiynol ar draws arferion celfyddydol amrywiol. Byddwch chi’n elwa o addysgu rhyngddisgyblaethol gan dîm sydd â phrofiad helaeth ar draws y celfyddydau gweledol, perfformio, addysg gelfyddydol, rheoli prosiectau, ac ymarfer o fewn y GIG a chyd-destunau cyhoeddus a chymunedol. Yn ogystal, bydd siaradwyr gwadd profiadol yn rhoi syniadau gwerthfawr i chi trwy gydol y cwrs.
Dr Thania Acarón – Arweinydd Cwrs – (seicotherapydd symudiad dawns, arbenigwr ac ymchwilydd yn y celfyddydau mewn iechyd)
Heather Parnell – Darlithydd – (artist gweledol, arbenigwr mewn celf gyhoeddus, ymarfer cydweithredol a chelf mewn cyd-destunau gofal iechyd)
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/15-newport-facilities/usw-therapy-art-psychotherapy.jpg)
Prosiectau
Mae gan yr MA Ymarfer Celf (Celfyddydau, Iechyd a Lles) draddodiad cryf o gydweithio ag ystod amrywiol o bartneriaid, gan adlewyrchu dyheadau a diddordebau proffesiynol ein myfyrwyr. Byddwch chi’n cael cyfle i drefnu eich prosiectau eich hun, gydag arweiniad a chefnogaeth gan ein tîm addysgu profiadol. Yn denu myfyrwyr o bob cwr o'r DU, mae llawer o brosiectau a lleoliadau wedi'u teilwra i'ch ardal leol, gan eich galluogi i gael effaith ystyrlon yn eich cymuned wrth ddatblygu eich ymarfer.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/art/Sophia-Warner-MA-AHW.png)
Cyfleusterau
Mae ein campws yng Nghaerdydd yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch i ddod â'ch syniadau yn fyw, o ystafelloedd tywyll ffotograffig ac argraffwyr proffesiynol i stiwdios cynhyrchu fideo a sain. Ar ôl sesiwn sefydlu, gallwch chi fenthyg ystod lawn o offer, gan gynnwys camerâu, meicroffonau, a goleuadau. Mae ein llyfrgell arbenigol yn cynnwys dewis eang o werslyfrau, cyfnodolion ymchwil ac adnoddau ar-lein, ynghyd â gwasanaeth benthyca rhwng llyfrgelloedd sy’n rhoi mynediad i chi at hyd yn oed mwy o ddeunyddiau.
Mae rhai o'n graddedigion wedi sicrhau lle yn y Stiwdio Sefydlu, uned hybu PDC ar gyfer artistiaid llawrydd a busnesau newydd.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/art/Ruth-Flanagan-MA-AHW.png)
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Mae'r cwrs hwn wedi'i anelu at raddedigion sydd â gradd anrhydedd 2:2 neu brofiad cyfwerth eithriadol a hoffai ehangu eu gwybodaeth bresennol ac agor llwybr gyrfa newydd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr o amrywiaeth eang o bynciau.
Mae angen ymarfer celfyddydol cyfredol a pharhaus ar gyfer y cwrs. Gall hyn fod mewn unrhyw gyfrwng celf (celf weledol, crefftau, dawns, cerddoriaeth, perfformio, theatr, ffilm, ysgrifennu creadigol neu osod, celfyddydau arbrofol ac eraill).
Ar gyfer eich cais:
Mae gofyn i chi gyflwyno portffolio gyda 5 llun neu fideo 2 funud o hyd sy'n dangos enghreifftiau o'ch ymarfer gorau.
Anfonwch ddatganiad personol â ffocws: – rhaid i chi ymateb i'r cwestiynau canlynol:
- Dywedwch fwy wrthym am eich ymarfer celfyddydol?
- Pam mae gennych ddiddordeb yn y celfyddydau, iechyd a lles?
- Sut mae eich profiad, sgiliau ac addysg wedi eich paratoi ar gyfer y cwrs hyd yn hyn?
Ar gau i ymgeiswyr rhyngwladol
Yn anffodus, nid yw'r cwrs hwn yn agored i ymgeiswyr rhyngwladol ar hyn o bryd, ewch i'n tudalennau cwrs lle gallwch ddod o hyd i ddewis arall o gyrsiau.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.