Anna Coviello

O fyfyriwr i berchennog busnes

Celf
anna coviello sitting in an art studio surrounded by art work

Roeddwn i’n teimlo’n eithaf coll ar ôl gorffen yn yr ysgol, roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau gwneud rhywbeth ystyrlon ond roeddwn i eisiau ymchwilio i fyd celf o hyd.


Agor drysau yn y Brifysgol

“Roeddwn i’n teimlo’n eithaf coll ar ôl gorffen yn yr ysgol, roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau gwneud rhywbeth ystyrlon ond roeddwn i eisiau ymchwilio i fyd celf o hyd. 

Pan ddarllenais y disgrifiad ar gyfer y radd BA Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig, roeddwn i eisiau darganfod mwy - fe wnaeth fy nghyffroi! 

Mae’r cwrs BA Anrhydedd yn y Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig yn tanio nwydau nad oeddech chi’n gwybod oedd gennych chi, tra hefyd yn caniatáu ichi archwilio agweddau ohonoch chi’ch hun fel artist, bod dynol ac ymarferwr. 

Mae'r cwrs hwn yn gwthio pob myfyriwr i archwilio'r posibiliadau o ddysgu, rhyngweithio ag eraill trwy broses greadigol a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed."

Dod o hyd i'ch cwrs

PAN DDARLLENAIS Y DISGRIFIAD AR GYFER Y RADD BA CELFYDDYDAU CREADIGOL A THERAPIWTIG, ROEDDWN I EISIAU DARGANFOD MWY - FE WNAETH FY NGHYFFROI!

Anna Coviello

Myfyriwr Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig

Camu i'r llwyfan yn TEDX PDC

"Roeddwn hefyd yn siaradwr ar gyfer TEDX cyntaf PDC eleni, yn siarad am yr angen i fod yn greadigol. Mae hyn wedi fy arwain at fod yn rhan o dîm gwirfoddolwyr TedX ar gyfer sioe PDC eleni a TedX Casnewydd yng Ngholeg Penybont, lle rwy’n gobeithio helpu i ysbrydoli ac annog y profiad anhygoel hwn i ddigwydd i rywun arall. 

Rwy'n rhan o PDC ac mae PDC yn rhan ohonof i!" 

Diddordeb mewn Celf a Llesiant Creadigol?

O serameg a gwneud printiau, i gerflunio i beintio, gallwch ddarganfod ffyrdd newydd o fynegi'ch hun a'ch syniadau artistig.