Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig
Darganfyddwch sut y gall creadigrwydd drawsnewid bywydau. Mae'r radd arloesol hon yn archwilio grym y celfyddydau i gefnogi iechyd, lles a chynhwysiant. Trwy brosiectau ymarferol a phrofiad yn y byd go iawn, byddwch yn datblygu'r sgiliau i gael effaith ystyrlon ar draws cymunedau, diwylliannau a lleoliadau gofal.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Côd UCAS
W190
Dyddiad Cychwyn
Medi 2026
Lleoliad
Pontypridd
Côd y Campws
A
Pwyntiau UCAS
104
Ffioedd
Myfyrwyr cartref: £9,790*
Myfyrwyr rhyngwladol: £17,200*
Côd UCAS
W191
Dyddiad Cychwyn
Medi 2027
Lleoliad
Pontypridd
Côd y Campws
A
Pwyntiau UCAS
104
Côd UCAS
W191
Dyddiad Cychwyn
Medi 2026
Lleoliad
Pontypridd
Côd y Campws
A
Pwyntiau UCAS
104
Ffioedd
Myfyrwyr cartref: £9,790*
Myfyrwyr rhyngwladol: £17,200*
Côd UCAS
W190
Dyddiad Cychwyn
Medi 2027
Lleoliad
Pontypridd
Côd y Campws
A
Pwyntiau UCAS
104
Trosolwg o'r Cwrs
Byddwch yn archwilio ymarfer creadigol ar sail tystiolaeth wrth gwblhau prosiectau gyda gweithwyr proffesiynol profiadol mewn gofal iechyd, addysg ac amgylcheddau cymunedol. O'ch blwyddyn gyntaf, byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol, hyder ac annibyniaeth, gan eich paratoi i weithio gyda grwpiau amrywiol, a chanolbwyntio ar wella lles.
Os ydych yn frwd dros helpu pobl ac eisiau gyrfa a fydd yn defnyddio eich sgiliau artistig, y Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig yw'r cwrs i chi. Bydd y radd ymarferol a chynhwysol hon yn eich helpu i ddeall a defnyddio’r perthnasoedd rhwng creadigrwydd a lles. Mae hon yn gam gwych tuag at yrfa gyflawn mewn celfyddydau, iechyd a lles.
Pam astudio'r cwrs hwn?
Beth fyddwch chi'n ei astudio
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch chi'n archwilio ymarfer creadigol cynhwysol sy'n ymgysylltu'n gymdeithasol.
Trwy brosiectau ymarferol mewn lleoliadau cymunedol, cyhoeddus ac awyr agored, byddwch chi'n datblygu sgiliau artistig, technegau hwyluso, a hyder wrth weithio gyda chyfranogwyr amrywiol.
Byddwch yn archwilio sut y gall celf roi llais i bobl wedi’u tan-gynrychioli, trwy brosiectau creadigol ymarferol. Trwy weithio'n agos gyda chyfranogwyr a gweithredu fel Artist Preswyl, byddwch yn datblygu dulliau celf hyblyg a chynhwysol wrth ddysgu cynrychioli hunaniaeth a phrofiad bywyd gyda gofal a hyder.
Byddwch yn dysgu sut i gynllunio ac arwain gweithdai creadigol diogel a hygyrch sy'n cefnogi anghenion amrywiol. Trwy arsylwi, ymarfer a myfyrio, byddwch yn datblygu eich arddull hwyluso cynhwysol eich hun wedi'i seilio ar ofal, moeseg a lles.
Yn y modiwl hwn, byddwch yn cydweithio i greu celf fyw mewn mannau cyhoeddus, gan archwilio sut y gall creadigrwydd godi ymwybyddiaeth ac ysbrydoli newid. Trwy ymchwil, gwaith tîm ac ymarfer, byddwch yn datblygu prosiectau sy'n ymgysylltu'n gymdeithasol sy'n cefnogi iechyd meddwl a lles, cynhwysiant a chysylltiad cymunedol.
Trwy brosiectau ymarferol, penodol i'r safle mewn amgylcheddau naturiol, byddwch yn archwilio sut mae creadigrwydd yn cefnogi lles ac ymwybyddiaeth amgylcheddol. Gan weithio gyda phlant a chymunedau lleol, byddwch yn datblygu sgiliau cydweithredol a hyder mewn ymarfer creadigol cynaliadwy yn yr awyr agored.
Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn ehangu eich ymarfer creadigol a phroffesiynol.
Drwy leoliad unigol, prosiect celfyddydau mewn iechyd, ac archwilio stiwdio, byddwch yn mireinio eich llais artistig, yn datblygu sgiliau hwyluso, ac yn gwerthuso eich effaith yn feirniadol.
Trwy waith stiwdio arbrofol ac ymchwil greadigol, byddwch yn archwilio technegau newydd, yn cymryd risgiau artistig ac yn mireinio'ch arddull bersonol. Gan weithio ar y cyd a pharatoi arddangosfa gyhoeddus, byddwch yn meithrin hyder, ymwybyddiaeth feirniadol a mewnwelediad proffesiynol i ymarfer celf gyfoes.
Ymgysylltwch â maes celfyddydau sy'n tyfu mewn gofal iechyd, trwy ddylunio a chyflwyno sesiynau creadigol a gwaith celf sy'n cefnogi cleifion, staff ac ymwelwyr. Trwy brosiectau byd go iawn, byddwch yn archwilio ymarfer tosturiol, sy'n canolbwyntio ar y person, wrth ddatblygu'ch llais artistig mewn lleoliadau iechyd proffesiynol.
Camwch i leoliad proffesiynol lle byddwch yn dylunio a chyflwyno prosiectau celfyddydau creadigol mewn lleoliadau gofal iechyd, addysg neu gymunedol. Byddwch yn datblygu sgiliau hwyluso, ymarfer moesegol a hyder wrth greu effaith wirioneddol ac adeiladu portffolio o waith ystyrlon.
Parhewch â'ch lleoliad wrth fyfyrio'n feirniadol ar eich ymarfer creadigol. Byddwch yn dysgu sut i asesu effaith, dadansoddi canlyniadau'n foesegol, a chyfleu canfyddiadau, gan ddatblygu sgiliau gwerthuso proffesiynol sy'n eich paratoi ar gyfer ymarfer neu ymchwil yn y dyfodol.
Gan adeiladu ar yr hyn rydych wedi'i ddysgu, mae eich blwyddyn olaf yn canolbwyntio ar ymarfer proffesiynol ac effaith.
Drwy ymchwil, prosiectau creadigol hygyrch, a llwybr celf cymunedol, byddwch yn rhoi eich sgiliau ar waith ac yn paratoi ar gyfer gyrfa greadigol gynaliadwy.
Byddwch yn archwilio sut y gall celf wneud mannau diwylliannol yn fwy cynhwysol, gan ddylunio arddangosfeydd ac adnoddau hygyrch. Trwy weithdai ymarferol a chydweithio, byddwch yn datblygu strategaethau creadigol sy'n dileu rhwystrau, yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn cefnogi lles.
Byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil beirniadol trwy archwilio a dadansoddi tystiolaeth mewn iechyd creadigol. Trwy adolygu llenyddiaeth, myfyrio, a dulliau arloesol, byddwch yn cryfhau eich llais academaidd ac yn adeiladu sylfaen gadarn ar gyfer ymarfer neu ymchwil yn y dyfodol.
Yn y modiwl hwn, byddwch yn archwilio sut i adeiladu gyrfa greadigol gynaliadwy. Byddwch yn datblygu sgiliau proffesiynol, yn cyflwyno gweithdai annibynnol, ac yn diffinio eich hunaniaeth artistig i gamu'n hyderus i'r sectorau celfyddydau, iechyd, neu les.
Yn y modiwl hwn, byddwch yn creu llwybr celf cymunedol, gan gyfuno eich ymarfer artistig, ymchwil, a sgiliau proffesiynol. Byddwch yn ymgysylltu â chynulleidfaoedd go iawn, yn cydweithio â rhanddeiliaid, ac yn datblygu profiad rheoli prosiectau ac arddangosfeydd.
Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd i gadw i fyny â sgiliau newidiol ac anghenion cyflogwyr. Os bydd adolygiad yn arwain at newidiadau sylweddol, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio beth sy'n newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Addysgu ac Asesu
Byddwch chi'n dysgu drwy wneud - drwy waith ymarferol, ar sail prosiectau sy'n cyfuno celf, ymarfer proffesiynol, a damcaniaeth lles. Mae cydweithio yn allweddol, gyda phrosiectau byd go iawn, partneriaid cymunedol, a gwaith penodol i safle yn dod â'ch dysgu yn fyw.
Byddwch chi'n gweithio mewn stiwdios, mannau awyr agored, orielau, ac ardaloedd addysgu pwrpasol, tra bod gweithdai ac adborth gan gymheiriaid yn eich helpu i feddwl yn feirniadol ac i fyfyrio. Bob blwyddyn, mae prosiectau'n tyfu mewn annibyniaeth, gan arwain at lwybr celf sy'n wynebu'r cyhoedd. Bydd addysgu cynhwysol a chefnogol yn eich helpu i ddatblygu creadigrwydd, hyder, a'r sgiliau i wneud gwir effaith.
Mae asesu yn gwbl seiliedig ar waith cwrs, heb arholiadau. Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfuniad o ymarfer creadigol, gwaith ysgrifenedig ac aseiniadau adfyfyriol fydd yn archwilio sut mae celf yn helpu llesiant pobl. Bydd hyn yn cynnwys portffolios, cyflwyniadau, gweithdai a gwaith prosiect, yn ogystal ag asesiadau mewn lleoliadau cymunedol, iechyd neu addysg. Byddwch yn cael eich annog i adfyfyrio ar eich datblygiad personol a'ch ymarfer proffesiynol trwy gydol y cwrs. Bydd y dysgu’n digwydd trwy gyfrwng gweithdai, seminarau a gweithgareddau grŵp, gydag adborth rheolaidd i gefnogi eich cynnydd. Wrth i chi symud yn eich blaen, byddwch yn ymgymryd â phrosiectau yn fwy annibynnol ac â ffocws dyfnach ar y cymdeithasol, gan eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd mewn rolau creadigol, therapiwtig a chymunedol.
Mae lleoliadau yn rhan bwysig o'r radd hon, a byddwch yn graddio gyda CV yn llawn profiad perthnasol o ystod amrywiol o leoliadau. Byddwch yn cael y cyfle i weithio gyda mwy na 50 o sefydliadau partner yn y sector cymunedol a chelfyddydau creadigol, a chael mynediad atynt trwy brosiectau, lleoliadau grŵp ac unigol.
Mae'r rhan fwyaf o'r addysgu yn digwydd yn ein mannau hyblyg, amlbwrpas, sy'n berffaith ar gyfer arbrofi a gweithdai blêr. Bydd gennych hefyd fynediad i stiwdios pwrpasol, ystafelloedd tiwtorial, a'r Ganolfan Arloesi ar gyfer gwaith prosiect â ffocws. Mae'r cwrs hefyd yn cynnwys lleoliadau ar y safle ac yn y gymuned, gyda chefnogaeth Swyddogion Lleoliadau PDC. Mae'r mannau a'r partneriaethau hyn yn rhoi'r rhyddid i chi archwilio, arbrofi a defnyddio'ch dysgu mewn lleoliadau byd go iawn, wrth ddatblygu sgiliau proffesiynol mewn amgylcheddau ysbrydoledig.
Arweinydd y Cwrs
Heloise Godfrey-Talbot
Heloise Godfrey-Talbot yw Arweinydd Cwrs BA (Anrh) y Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig. Yn addysgwr, ymchwilydd, gwneuthurydd ffilmiau ac artist profiadol, mae Heloise yn angerddol dros greadigrwydd, cymuned a lles. Gydag arbenigedd mewn theori therapiwtig gymhwysol ac ymchwil yn seiliedig ar y celfyddydau, mae'n creu amgylcheddau dysgu cefnogol sy'n helpu myfyrwyr i ffynnu trwy ymarfer creadigol.
Mae gan Heloise dros 20 mlynedd o brofiad yn hwyluso gweithdai creadigol gyda phobl o bob oed, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Ffocws ei hymchwil a'i hymarfer cydweithredol yw chwyddo lleisiau sydd wedi'u tangynrychioli, a rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio dulliau arloesol o ymwneud â chreadigrwydd, lles, a'r profiad dynol.
Gofynion mynediad
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Sut i wneud caisDatganiad Derbyniadau Cyd-destunolGofynnwch gwestiwn i ni104 Pwyntiau UCAS neu'n uwch
Gofynion cymhwyster nodweddiadol
Lefel A:
BCC i eithrio Astudiaethau Cyffredinol ac fel rheol i gynnwys Celf Lefel A, Diploma Sylfaen Celf a Dylunio neu gefndir perthnasol.
Bagloriaeth Cymru:
Bagloriaeth Uwch Sgiliau Cymru Gradd C/B a BC - CC ar gyfer Lefel A, i eithrio Astudiaethau Cyffredinol, ac fel arfer yn cynnwys Lefel A Celf, Diploma Sylfaen Celf a Dylunio neu gefndir perthnasol.
BTEC:
Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod ac fel arfer yn cynnwys pwnc Celf neu Ddiploma Sylfaen Celf a Dylunio neu gefndir perthnasol
Mynediad i AU:
Pasio'r Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 104 pwynt tariff UCAS mewn Mynediad sy'n gysylltiedig â Chelf neu feddu ar Ddiploma Sylfaen Celf a Dylunio neu gefndir perthnasol.
Safon T:
Pasio (C ac uwch)
Gofynion Ychwanegol
Gofynion ychwanegol
TGAU: Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Bydd gofyn i chi gynhyrchu o waith, a ddylai fod yn ddim llai nag 20 tudalen, sy’n dangos eich ymarfer celf. Os nad ydych wedi astudio celf o'r blaen mewn lleoliad addysg ffurfiol, argymhellir eich bod yn ystyried cymryd dosbarthiadau celf, ysgol nos a/neu ymarfer stiwdio annibynnol i gryfhau eich portffolio a'ch cais.
Mae angen gwiriad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar Restr y Gweithlu Plant ac Oedolion a Gwahardd Plant a thanysgrifiad i Wasanaeth Diweddaru’r DBS. (Mae angen cyfwerth o dramor ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn dod o'r DU).
Ffioedd a Chyllid
Fesul blwyddyn
Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).
*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.
Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol. Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Cit (gwisg a chyfarpar)
Deunyddiau celf ar gyfer prosiectau. Mae’r gost yn amrywio yn dibynnu ar brosiectau unigol.
Cost: £250 - £1000
Teithiau Maes
O bryd i'w gilydd, bydd myfyrwyr yn mynd ar deithiau i orielau rhanbarthol a lleoliadau iechyd creadigol a bydd angen talu costau teithio bach.
Cost: Amrywiol
Asesiadau ychwanegol neu dâl aelodaeth: Asesiadau anabledd
Lle bo angen, mae rhai grantiau ar gael drwy’r Brifysgol a gellir gwneud cais i’r Gronfa Caledi.
Cost: £300 - £350
Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a'r Gwasanaeth Diweddaru*
Mae angen gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae'r gwasanaeth diweddaru yn cael ei argymell.
Cost: £64.74 y flwyddyn ar gyfer DBS uwch a £16 am y gwasanaeth diweddaru.
Portffolio
Ar gyfer arddangosfa graddedigion
Cost: £80 - £100
Lleoliad
Efallai y bydd angen i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â lleoliad fel rhan o fodiwlau ymarfer proffesiynol dalu costau sy'n gysylltiedig â theithio i leoliad a chyfrifoldebau lleoliad e.e. deunyddiau ac adnoddau.
Cost: Amrywiol
Ymarfer stiwdio
Bydd myfyrwyr yn cyrraedd gyda rhai cyflenwadau celf sylfaenol ar gyfer eu hastudiaethau. Wrth iddynt ddilyn eu diddordeb arbenigol eu hunain, efallai y bydd angen deunyddiau penodol arnynt ar gyfer darlithoedd allanol. Mae'r cwrs yn addysgu ac yn annog arferion celf darbodus a chynaliadwy gan ddefnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu a'u hailbwrpasu.
Cost: Amrywiol
Llawlyfrau celf/argraffu/ffeiliau lleoliad
Bydd angen i chi dalu am eich llyfrau gwaith a’ch costau argraffu eich hun.
Cost: £25 - £100
Llawlyfr SignAlong
Os ydych yn dymuno prynu llawlyfr i gyd-fynd â'ch astudiaeth o'r cwrs achrededig SignAlong.
Cost: £16 - £24
Ymweliadau safle*
Ymweliadau â lleoliadau cymunedol, a gynhelir fel rhan o’r modiwlau a addysgir, lle mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau prosiect a asesir.
Cost: £10 - £30
Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus (cost yn bosibl)
Bydd darparwyr rhai lleoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr unigol gael Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus.

Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS.
Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
-
Apply direct
Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig
-
Gyda Blwyddyn Ryngosod, 4 blynedd
-
Medi
-
Pontypridd
-
-
Apply direct
Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig
-
Llawn Amser, 3 blynedd
-
Medi
-
Pontypridd
-
-
Apply direct
Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig
-
Gyda Blwyddyn Ryngosod, 4 blynedd
-
Medi
-
Pontypridd
-
-
Apply direct
Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig
-
Llawn Amser, 3 blynedd
-
Medi
-
Pontypridd
-
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.