Sut i greu portffolio cryf ar gyfer y celfyddydau creadigol a therapiwtig

Wedi i chi gyflwyno eich cais, byddwch yn cael gwahoddiad i gyflwyno portffolio digidol. Bydd angen iddo gynnwys hyd at 20 o ddelweddau’n arddangos eich sgiliau artistig a'ch diddordebau. Gellir cyflwyno portffolios ar ffurf gwefan, cyflwyniad digidol neu ddogfen yn cynnwys delweddau. 
Mae eich portffolio yn gyfle i arddangos eich creadigrwydd, eich diddordebau artistig a'ch potensial, felly mae'n bwysig dewis gwaith sy'n adlewyrchu pwy ydych chi fel artist.

Adeiladu eich portffolio

Rydyn ni am ddod i adnabod eich hunaniaeth artistig a'r hyn sy'n eich ysbrydoli'n greadigol. Nid oes angen i'ch portffolio gynnwys ddim ond gwaith wedi’i greu ar gyfer ennill cymwysterau penodol. Gallwch gynnwys prosiectau personol, darnau sydd wedi’u harddangos, gwaith arbrofol, neu waith celf wedi’i greu yn syml am eich bod chi'n mwynhau ei wneud.

Peidiwch â chyfyngu eich hun i un cyfrwng. Rydyn ni’n croesawu amrywiaeth eang o waith creadigol, gan gynnwys:

  • Lluniadau a phaentiadau
  • Printiau
  • Ffotograffiaeth
  • Cerfluniau a gwaith 3D arall
  • Tecstilau
  • Gosodweithiau
  • Ffilm a delweddau symudol
  • Cyfrwng cymysg
  • Ymarfer celf cyfranogol 
  • Crefftau

Meddyliwch am sut mae eich portffolio yn adrodd eich stori. Trefnwch eich gwaith mewn trefn resymegol sy'n mynd â'r gwyliwr ar daith greadigol ac ystyriwch sut mae pob darn yn berthnasol i'r nesaf. Gallwch anodi'r portffolio i helpu i adrodd eich stori.

Mae eich proses greadigol yr un mor bwysig i ni â’r gwaith gorffenedig. Mae cynnwys brasluniau, arbrofion, drafftiau a gwaith datblygiadol yn ein helpu i ddeall sut mae eich syniadau yn esblygu. 

Does dim angen i'ch portffolio fod yn berffaith. Rydyn ni eisiau gweld eich chwilfrydedd, eich creadigrwydd a'ch brwdfrydedd dros wneud celf. Dewiswch waith rydych chi'n falch ohono sy'n rhannu eich taith greadigol gyda ni.