Celeste Ingrams

Dod o hyd i’m lle yn y gymuned celfyddydau, iechyd a lles

Celf a Llesiant Creadigol
features-celeste-ingrams.jpg

Rhoddodd y cwrs y rhyddid i mi gymryd risgiau a thorri tir newydd wrth adeiladu sylfeini cadarn iawn trwy ddefnydd ymarferol, adnoddau a phrofiad uniongyrchol.


Tyfu trwy'r profiad MA

Roedd gwneud yr MA Celfyddydau, Iechyd a Lles ym Mhrifysgol De Cymru yn gyfle anhygoel a thrawsnewidiol i neilltuo amser i'm hymarfer a thyfu fel ymarferydd. Roedd yn cynnig amgylchedd unigryw a chefnogol lle gallwn i ddod â gwahanol elfennau o’m gwaith at ei gilydd mewn ffyrdd cyffrous a newydd, gan wthio fy hun i wneud pethau newydd a chreu llwybrau newydd o ddealltwriaeth. Rhoddodd y rhyddid i mi gymryd risgiau a thorri tir newydd wrth adeiladu sylfeini cadarn iawn trwy ddefnydd ymarferol, adnoddau a phrofiad uniongyrchol. Gwnaeth fy helpu i ddeall fy ymarfer ym maes y Celfyddydau, Iechyd a Lles a rhoi mwy o gyd-destun i mi ar gyfer fy ngwaith.

Mae'r cwrs yn croesawu ac yn darparu ar gyfer ystod mor eang o arferion a dulliau gweithredu ym maes y Celfyddydau, Iechyd a Lles, sy’n golygu bod cyfoeth ac amrywiaeth wirioneddol o safbwyntiau, sgiliau creadigol a phrofiadau gan y myfyrwyr eraill, a wnaeth wella a chefnogi'r dysgu ochr yn ochr â'i gilydd. Roedd maint y garfan a phrofiad helaeth y tiwtoriaid, ynghyd ag ymweliadau gan artistiaid, yn amhrisiadwy wrth hwyluso trafodaeth, archwiliadau a chymuned ddysgu wych.

Roedd strwythur rhan-amser y cwrs yn wych ar gyfer cydbwyso ymrwymiadau gwaith eraill, gyda'i sesiynau misol dwys ar benwythnosau a thiwtorialau ar-lein yn ei wneud yn hygyrch ochr yn ochr ag agweddau eraill ar fy mywyd.

Dewch o hyd i'ch cwrs

ROEDD YN CYNNIG AMGYLCHEDD UNIGRYW A CHEFNOGOL LLE GALLWN I DDOD Â GWAHANOL ELFENNAU O’M GWAITH AT EI GILYDD MEWN FFYRDD CYFFROUS A NEWYDD.

Celeste Ingrams

Graddedig Celfyddydau, Iechyd a Lles

Edrych ymlaen a pharhau i dyfu

Er bod dychwelyd i addysg wedi bod yn heriol, yn enwedig addasu i ofynion academaidd, roedd y daith 18 mis yn hynod werth chweil. Roedd hi’n wych cael tyfu a datblygu sgiliau newydd, ac mae wedi fy mharatoi ar gyfer cam nesaf fy ngyrfa yn y Celfyddydau ac Iechyd.

Ers cwblhau'r cwrs, rydw i wedi dod o hyd i gyfleoedd newydd o fewn y Celfyddydau, Iechyd a Lles na fyddwn i wedi’u cael fel arall, ac mae'r adnoddau a'r wybodaeth a gefais yn parhau i'm cefnogi a'm hysbrydoli yn fy ngwaith. Mae cyswllt a chefnogaeth barhaus y garfan a'r gymuned wedi helpu i gynnal fy nysgu a'm datblygiad, ac rwy'n gyffrous ac yn llawn cymhelliant i barhau yn y maes hwn.

Wrth edrych yn ôl, rydw i mor falch fy mod i wedi gwneud y cwrs - mae wedi trawsnewid fy ymarfer ac yn parhau i'm helpu i dyfu ac esblygu.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Diddordeb mewn Celf a Llesiant Creadigol?

O serameg a gwneud printiau, i gerflunio i beintio, gallwch ddarganfod ffyrdd newydd o fynegi'ch hun a'ch syniadau artistig.