Pethau y byddwch yn eu darganfod mewn Noson Agored Ôl-raddedig

Mae mynychu noson agored yn ffordd gyfeillgar ac anffurfiol o gael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud penderfyniad am eich addysg a'ch gyrfa yn y dyfodol.

Neilltuwch eich lle mewn Noson Agored
A member of staff is smiling and chatting with an open evening visitor.

Dyma pam y dylech fynychu noson agored ôl-raddedig.


Cwrdd â’r Academyddion

Byddwch yn gallu siarad ag academyddion un-i-un i ddarganfod mwy am eich cwrs dewisol. Mae hwn yn gyfle gwych i ddarganfod beth mae'r cwrs yn ei gynnwys, megis a yw'n cael ei addysgu neu ei asesu trwy ymchwil, a oes gwaith cwrs neu arholiadau, yn ogystal â'r modiwlau neu'r pynciau y byddwch yn eu cwmpasu. 

Archwiliwch yr Ardal

Byddwch yn cael archwilio ein campysau a'r ardal leol. Gallwch ymgyfarwyddo â lle y gallech fod yn astudio ac edmygu’r amgylchoedd prydferth Cymreig, boed hynny ar ein campysau bywiog yng Nghaerdydd neu Ddinas Casnewydd neu’n swatio yng nghefn gwlad De Cymru ym Mhontypridd.

Sgwrsio â Myfyrwyr Presennol

Byddwch yn cael cyfle i siarad â myfyrwyr ôl-raddedig presennol i gael gwybod am eu profiadau. Byddwch hefyd yn gallu cael dealltwriaeth o sut beth yw diwrnod arferol fel myfyriwr ôl-raddedig, p'un a ydych yn dilyn cwrs a addysgir neu radd ymchwil.

Trafodwch Cymorth sydd ar gael

Manteisiwch ar y cyfle i sgwrsio â’n gwasanaethau cymorth i wneud yn siŵr eich bod yn cael yr holl gymorth y bydd ei angen arnoch yn ystod eich astudiaethau, yn ogystal ag unrhyw gyngor sydd ei angen arnoch ynghylch cyllid, y broses ymgeisio, lles, ac anabledd.

Cynlluniwch eich gyrfa

Byddwch hyd yn oed yn cael cyfle i ddarganfod mwy am y cyfleoedd gyrfa y gall PDC eich helpu gyda nhw. Bydd ein tîm Gyrfaoedd cyfeillgar wrth law yn y digwyddiad i ateb eich holl gwestiynau ac ymholiadau am leoliadau gwaith, cymorth cyfweliad, gweithdai CV, a sut y gall eich cwrs eich helpu yn eich gyrfa yn y dyfodol.

Gweler Cyfleusterau Gwych

Y ffordd orau o roi hwb i'ch sgiliau a gwella'ch rhagolygon gyrfa yw astudio gan ddefnyddio'r un cyfleusterau, meddalwedd a thechnegau ag y byddwch yn eu defnyddio yn eich gyrfa. Mae ein holl gyfleusterau wedi’u hadeiladu’n bwrpasol ac o safon diwydiant, gan roi profiadau ymarferol o safon uchel i’n myfyrwyr a gallwch gael cipolwg da arnynt mewn noson agored.