ILM Lefel 5
Dyma gyfle i ddatgloi eich potensial fel hyfforddwr neu fentor gyda'n Tystysgrif ILM Lefel 5 mewn Hyfforddi a Mentora Effeithiol. Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio i'ch arfogi â’r sgiliau, y wybodaeth a'r ymddygiadau hanfodol sydd eu hangen i ragori mewn hyfforddi a mentora mewn cyd-destun sefydliadol
Cysyllta â ni Archebwch lle nawr
Am y Cwrs
Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch yn gallu:
- Asesu eich sgiliau, gwybodaeth ac ymddygiadau fel hyfforddwr neu fentor.
- Rheoli'r broses hyfforddi neu fentora o fewn cyd-destun sefydliadol.
- Deall sut mae'r cyd-destun sefydliadol yn effeithio ar hyfforddiant neu fentora.
- Cynllunio, cyflwyno, ac adolygu sesiynau hyfforddi neu fentora.
- Cynllunio eich datblygiad yn y dyfodol mewn hyfforddiant neu fentora.
- Cysyniadau Craidd: Deall y gwahaniaethau rhwng hyfforddi a mentora, a'r egwyddorion a'r amodau ar gyfer hyfforddi effeithiol.
- Datblygu Sgiliau: Gwella eich sgiliau cyfathrebu, dysgu modelau hyfforddi sydd â ffocws ar gyflawni nodau, ac ymarfer sgiliau bod yn bresennol a gwrando. Datblygu technegau fel cwestiynu Socratig a chynnig adborth adeiladol.
- Rheoli Prosesau: Dysgu sut i reoli prosesau hyfforddi a mentora, gan gynnwys contractio, sesiynau cynllunio, ac ymarfer adfyfyriol.
- Technegau Datblygedig: Archwilio seicoleg gadarnhaol, hyfforddi'n seiliedig ar gryfderau, cyfweld ysgogol, hyfforddi ymddygiad gwybyddol, a rhoi niwrowyddoniaeth ar waith wrth hyfforddi.
- Cyd-destun Sefydliadol: Creu diwylliant hyfforddi, cynyddu ymddiriedaeth, deall gwerthoedd a chymhelliant, a mesur effaith hyfforddi.
- Datblygiad Personol: Datblygu strategaethau ar gyfer gwytnwch, eich rheoli eich hun fel hyfforddwr, a chreu cynllun datblygu personol a phroffil hyfforddi.
Mae'r ILM Lefel 5 wedi'i gynllunio ar gyfer rhai sydd â chyfrifoldebau hyfforddi yn y gweithle neu sy'n dymuno integreiddio hyfforddi i'w rôl reoli, gyda ffocws ar sgiliau hyfforddi ymarferol a deall y cyd-destun sefydliadol. Bydd yr hyfforddeion o gefndir rheolwyr lefel ganol neu is.
Mae ein model dysgu yn cynnwys 7 gweithdy ystafell ddosbarth rithwir byw dros 7 mis gyda dysgu hunan-arweiniol rhwng sesiynau. Bydd eich cynnydd yn cael ei asesu trwy aseiniad ysgrifenedig, Portffolio Tystiolaeth yn dangos 18 awr o ymarfer hyfforddi (2 neu 3 hyfforddai), a Chyfnodolyn Adfyfyriol.
Trwy archebu lle, rydych chi’n ymrwymo i wneud y canlynol:
- Mynychu a chymryd rhan weithredol ym mhob un o'r saith sesiwn a addysgir, fydd yn cydamseru gyda hwylusydd yn ein gofod ystafell ddosbarth MS Teams
- Cyflwyno recordiad fideo o sesiwn hyfforddi i gael adborth ysgrifenedig
- Cymryd rhan mewn 1 awr o oruchwyliaeth hyfforddi
- Cymryd rhan mewn grwpiau triad hyfforddi cymheiriaid
- Ategu eich presenoldeb gyda darllen, ymchwil a gweithio ychwanegol ar gyflwyno eich aseiniad
- Byddwch yn cael mynediad i'n platfform dysgu rhithwir a deunyddiau cwrs cynhwysfawr
Nid oes proses ymgeisio ffurfiol, ond mae angen i ni sicrhau bod pob dysgwr yn ymwybodol o'r ymrwymiad sylweddol i'r rhaglen a'ch bod yn cofrestru ar gyfer y cymhwyster â’r lefel fwyaf addas.
Cyfanswm yr ymrwymiad yw blwyddyn, sy'n cynnwys dyddiadau cau yr aseiniadau.
Rydyn ni wrth ein bodd yn siarad felly mae croeso mawr i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau.
ILM Lefel 5 Hyfforddi a Mentora: 8 Hydref (Addysg), 15 Hydref, 10 Tachwedd, 10 Rhagfyr, 12 Ionawr, 9 Chwefror, 9 Mawrth, 13 Ebrill, 10 Mehefin (Grŵp Goruchwylio).
Mae Hyfforddwyr yn Grymuso Arweinwyr i Archwilio Beth sy’n Bosibl
Drwy’n rhaglenni Hyfforddiant ILM, gallwch ddatblygu’ch gwybodaeth, hyder, cymhwysedd a’ch effeithiolrwydd fel hyfforddwr a mentor. Rydym wedi creu’r cwrs ar gyfer unigolion sy’n hyfforddi ar hyn o bryd ar lefel canol neu sydd â mynediad i reolwyr a arweinwyr canol.
Holi NawrMANTEISION CYFRIFYDD HYFFORDDIANT ILM