Ein Gwasanaethau
Mae gennym dîm o dri dylunydd profiadol, sydd yn greadigol, yn frwdfrydig ac yn angerddol am eu gwaith.
Mae’r tîm yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau eu bod yn deall anghenion ein cleientiaid, gan ddarparu darluniadau unigryw yn unol â dyddiadau cau.
Yn ogystal â'n cleientiaid PDC mewnol, mae gennym nifer cynyddol o gleientiaid allanol sydd yn dychwelyd tro ar ôl tro, o ganlyniad i berthynas waith ardderchog. Er ein bod yn stiwdio fach, mae gennym syniadau mawr, ac rydym yn dylunio brandiau ystyrlon a chofiadwy, gan sicrhau ymateb cadarnhaol gan ddefnyddwyr mewnol ac allanol.
Beth ydyn ni'n ei wneud?
Hunaniaeth gorfforaethol | Taflenni | Llyfrynnau | Posteri | Graffigau arddangos | Deunydd ysgrifennu ar gyfer priodasau | Gwahoddiadau
Mae’r galw am raffigau arddangos yn cynyddu
O ganlyniad i’r cynnydd, mae Argraffu a Dylunio PDC wedi buddsoddi yn yr ardal hon, ac maent bellach yn medru cynnig amrywiaeth o ddeunyddiau. Enghreifftiau o’r deunyddiau yma yw baneri codi, baneri awyr agored, graffigau ffenest a wal, sticeri a phapur wal. Gall ein staff profiadol eich helpu a’ch cynghori ar sut i hyrwyddo eich busnes.
Baneri codi
Mae baneri codi ar gyfer hysbysebu neu arddangosfeydd ar gael mewn gwahanol feintiau ac ansoddau. Mae ein baneri codi o ansawdd uchel yn 2220x800mm, tra bod y faner safonol yn 2050x800mm.
Mae’r ddau yn hawdd i'w gosod, ac maent yn dod gyda chas cario. Rydym hefyd yn cynnig baner bwrdd A3.
Baneri finyl
Baneri finyl ar gyfer defnydd awyr agored neu dan do. Gellir eu hargraffu i wahanol hydau ac i un metr o uchder, ac maent i gyd yn dod gyda thyllau er mwyn eu hongian yn hawdd.
Graffigau finyl ffenestr/wal a phapur wal
Graffigau finyl ffenestr/wal a phapur wal. Rydym yn cynnig gwasanaeth dylunio a gosod finyl wedi ei dorri, a phapur wal, a graffigau ffenestr wedi’u hargraffu’n ddigidol.
Trowch waliau gwag yn ganolbwynt trawiadol gyda graffigau neu eiriau. Mae hyn yn ddelfrydol ar gyfer cyfleu neges ysgogol yn eich gweithle. Beth bynnag yw eich anghenion a’ch gofynion unigol, gallwn eich helpu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni.
Mae ein tîm argraffu yn cynnwys pedwar aelod profiadol, sydd yn canolbwyntio ar y cwsmer.
Rydym yma i’ch helpu a’ch cynghori ar unrhyw anghenion argraffu. Ein nod yw sicrhau ansawdd cyson ar draws ein holl waith argraffu - mae hyn wrth wraidd yr hyn a wnawn.
Cynigiwn gopïo digidol lliw a du a gwyn, ar faint A4 ac A3. Mae’r ddwy safon argraffu, sef safonol ac ansawdd uchel, ar gael ar bapurau a chardiau o wahanol fathau a phwysau.
Mae gwasanaeth argraffu llyfrynnau hefyd ar gael, o A3 wedi ei blygu i A4, lawr at A6 wedi ei blygu i A7 ac unrhyw feintiau rhwng y rhain. Gallwn hefyd gynhyrchu llyfrynnau mewn maint sydd wedi’i addasu i’ch gofynion. Peidiwch ag oedi cyn gofyn i aelod o’n tîm am gymorth.
Gwnewch eich achlysur yn arbennig gydag un o’n hanrhegion personol; syniad gwych ar gyfer teulu neu ffrindiau
Mae'r holl eitemau wedi’u prisio’n gystadleuol a gallent gael cael eu creu o fewn 2-3 diwrnod gwaith. Mae gennym ystod eang o gynhyrchion, gan gynnwys; Cwpanau, Matiau Diodydd, Crysau-T, Bagiau Cario, Matiau Llygoden a Chelf ar Gynfas .
Gallwch ddarparu'r cynllun/dyluniad i ni fel pdf, jpeg neu eps, neu mae hefyd gennych yr opsiwn i ofyn i ni ei ddylunio ar eich cyfer. Mae Cynfasau Celf ar gael mewn gwahanol feintiau; 20”x20”, 20”x15”, 20”x12”, 15”x15”, 15”x12” a 12”x12”.
Gallwn argraffu posteri o A2 hyd at A0, a gallwn hefyd argraffu meintiau penodol wedi'u haddasu i'ch gofynion unigol.
Mae stoc di-sglein a sgleiniog ar gael. Os nad ydych chi erioed wedi paratoi poster ar gyfer cyflwyniad, mae yna rhai awgrymiadau defnyddiol isod i roi arweiniad i chi.
Diagramau a lluniau
Os ydych chi’n defnyddio diagram neu ffotograff ar eich poster, dylech sicrhau ei fod o ansawdd da ac wedi ei arbed yn y fformat cywir. Dylai fod yn ffeil 'jpeg' neu ‘tiff’ 300dpi gyda gosodiadau lliw’r ffeil wedi eu harbed fel CMYK ac nid RGB.
Gosodiad
Ar gyfer posteri ar ffurf portread, dylid gosod testun mewn o leiaf dwy golofn. Ar gyfer posteri sy’n fwy nag A2 (A1 neu A0), gall tair colofn fod yn fwy addas. Wrth greu poster A2 ar ffurf tirwedd, dylech ddefnyddio o leiaf tair colofn, a phedair colofn os ydych yn defnyddio papur A1 neu A0. Os ydych chi’n defnyddio cefndir lliw neu batrymog, dylech ystyried lliw golau.
Ffontiau
Dylech bob tro ddewis ffont sy'n syml ac yn hawdd ei ddarllen, mae ffontiau fel Arial, Helvetica a Times yn enghreifftiau addas. Mae maint y ffont yn bwysig wrth greu posteri fformat mawr, ac mae’r maint isaf y ffont y dylech ei ddefnyddio yn dibynnu ar faint eich poster. Defnyddiwch y canllaw isod i’ch helpu. Dylai posteri bob amser gynnwys prif bennawd mawr ac is-bennawd ar gyfer pob adran.
A2: Teitl 35pt | is-bennawd 20pt | testun y corff 16pt
A1: Teitl 50pt | is-bennawd 26pt | testun y corff 20pt
A0: Teitl 60pt | is-bennawd 35pt | testun y corff 25pt
Yn ogystal â'n gwasanaethau argraffu, mae gennym ystod o ddewisiadau rhwymo a gorffeniadau.
Beth bynnag yw eich gofynion rhwymo/gwaith gorffenedig, gallwn helpu. O dorri tyllau, rhwymo, pwytho cyfrwy a styffylu. Os ydych yn ansicr o’r opsiwn mwyaf addas, gofynnwch i aelod o’r tîm argraffu, sydd yno i’ch helpu.
Mae gennym bum opsiwn rhwymo ar gyfer gwaith traethawd hir / ymchwil a phrosiectau. Mae opsiynau rhwymo premiwm yn wasanaeth 24 neu 48 awr.
Mae Argraffu a Dylunio PDC yn cynnig gwasanaeth ‘wrth i chi aros’ ar gyfer rhwymo gwifrau, crib, neu dâp yn unig. Mae’r holl opsiynau rhwymo sydd ar gael wedi eu prisio'n gystadleuol. Gweler yr opsiynau rhwymo isod.
Brandiwch eich dillad gwaith, gwisg clwb neu hyd yn oed eitemau wedi'u personoli gyda brodwaith o ansawdd uchel, gan greu ymddangosiad hynod o broffesiynol sy’n parhau.
Mae gennym ddetholiad eang o eitemau dillad ar gael mewn dewis mawr o liwiau, wedi'u teilwra i ddiwallu'ch anghenion. Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth brodwaith wedi'i deilwra sy'n caniatáu i'n cleientiaid ddarparu eu dillad eu hunain.
Heb unrhyw isafswm archebu, rydym yn darparu gwasanaeth pwrpasol, gan hwyluso’r cyffyrddiad personol hwnnw.
Mae’r siop ar Gampws Trefforest yn cynnig dewis eang o ddeunydd ysgrifennu, perifferolion cyfrifiadur a deunyddiau celf.
Galwch mewn ac edrychwch ar ein hamrywiaeth o gynnyrch, o ysgrifbinnau, pensiliau, cofion pin USB, cardiau cyfarch, paent acrylig ac olew, papur, cerdyn, llyfrau nodiadau a phortffolios a llawer mwy.