Cwestiynau Cyffredin
Mae rhstr o gwestiynau cyffredin ar gyfer Gwasanaethau TG ar gael yma. Os ydych yn teimlo na allwch ddod o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdano, cysylltwch â Cymorth TG.
Yn y brifysgol hon, mae gennych gyfle i lawrlwytho Office 365 i'ch dyfeisiau personol.
Ewch i wefan Office 365 Portal PDC am fwy o wybodaeth a mynediad hawdd at hyfforddiant a deunyddiau ategol.
Pan fyddwch yn derbyn neges e-bost annisgwyl yn gofyn am unrhyw fath o wybodaeth bersonol neu sensitif amdanoch chi neu eich cyfrifon, rydym yn argymell eich bod yn dilyn y camau isod i wirio bod y neges e-bost yn un ddilys.
Gwiriwch y cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd i anfon y neges.
Bydd llawer o negeseuon e-bost yn dod o gyfeiriad a fydd yn edrych yn ddilys ar yr olwg gyntaf. Bydd negeseuon e-bost gan dimau cymorth Prifysgol De Cymru, er enghraifft, yn dod o gyfeiriadau @decymru.ac.uk yn unig.
Gwiriwch y dolenni a gynhwysir yn yr e-bost.
Mae’n hawdd iawn i rai hacwyr greu dolen i edrych fel ei bod yn eich cyfeirio at rywle arall ar yr olwg gyntaf, a gallai dolen sy’n edrych fel un i www.decymru.ac.uk er enghraifft, eich cyfeirio at wefan ffug. Os byddwch yn rhoi’r llygoden dros y ddolen, bydd yn dweud wrthych yn union lle mae’r ddolen yn mynd. Os na fyddwch yn adnabod y wefan, peidiwch â chlicio ar y ddolen.
Dysgwch sut i adnabod atodiadau peryglus.
Bydd sbamwyr hefyd yn ceisio eich twyllo i agor atodiadau ffug a allai gynnwys feirysau. Er mwyn gwneud hyn, byddant yn atodi ffeiliau a enwir fel math arall o ffeil. Er enghraifft, efallai byddant yn enwi ffeil “document.pdf.exe”. Mewn rhai negeseuon e-bost bydd enw’r ffeil yn ymddangos fel pe bai’r ffeil yn ddogfen PDF, er ei bod mewn gwirionedd yn rhaglen. Fodd bynnag, bydd yr eicon ar gyfer y ddogfen fel arfer yn edrych fel y byddech yn disgwyl i ddogfen o’r fath edrych.
Ac yn olaf, os yw’n edrych yn amheus, mae’n debygol o fod yn amheus.
Os ydych chi'n poeni am gynnwys e-bost yr ydych wedi'i dderbyn, bydd y tîm Cymorth Gwasanaethau TG yn hapus i helpu chi i benderfynu a yw e-bost yn ddilys neu a ellir ei ddileu fel sbam.
Pan fyddwch yn defnyddio cyfrifiaduron y Brifysgol, rydych yn gyfrifol am bopeth sy’n digwydd tra byddwch wedi mewngofnodi. Mae hynny’n golygu na ddylech adael cyfrifiadur personol pan fyddwch wedi mewngofnodi arno. Mae hefyd yn golygu bod yn rhaid i chi ddewis cyfrineiriau diogel a’u newid yn rheolaidd.
Dyma rywfaint o gyngor da ar beth ddylech chi ei wneud a beth na ddylech ei wneud wrth ddewis cyfrineiriau.
Dylech
- Ddewis cyfrineiriau sydd ag deuddeg nod neu fwy
- Dewis cyfrineiriau sy’n cynnwys cymysgedd o lythrennau mawr a bach, rhifau a nodau arbennig, fel atalnodau
- Argymhellir eich bod yn defnyddio ymadroddion mnemonig i’ch helpu i gofio eich cyfrinair. Er enghraifft, mae “Enw morwyn fy mam yw Zebedee, mae hi’n 91” yn cynhyrchu “MmfmyZ,mh91” (Noder: Mae’r cyfrinair penodol hwn wedi cael ei wahardd ar systemau’r Brifysgol)
- Argymhellir eich bod yn defnyddio o leiaf ddau rif mewn cyfrinair
- Pan fyddwch yn newid eich cyfrinair, cydnabyddir efallai eich bod yn gwneud hyn ar frys gan arwain at ddewis cyfrineiriau anniogel. Awgrymir eich bod yn defnyddio ymadrodd mnemonig gyda rhifau am fod hyn yn eich galluogi i addasu un elfen e.e. y rhif, gan gadw gweddill y cyfrinair yr un fath er mwyn ei wneud yn haws ei gofio. Dylech nodi bod y dull hwn ychydig yn llai diogel na dewis ymadrodd mnemonig hollol wahanol.
Ni ddylech
- Ni ddylech ddewis cyfrinair sydd â llai nag wyth o nodau
- Ni ddylech ddefnyddio geiriau o eiriadur
- Ni ddylech ddefnyddio cyfnewidiadau o eiriau geiriadur a rhifau
- Ni ddylech ddefnyddio enwau sy’n gysylltiedig â’ch amgylchiadau
- Ni ddylech ysgrifennu eich cyfrinair ar bapur
- Ni ddylech ddewis ymadroddion adnabyddus ar gyfer eich mnemonig
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar y VPN a’r RDP (gwasanaeth bwrdd gwaith o bell) yma.
Mae dulliau amrywiol o storio data ar gael i staff yn y Brifysgol.
Storfa wrth gefn
Mae’r brifysgol yn darparu storfa rhwydwaith ar gyfer eich holl ffeiliau data a dogfennau.
Cyfeirir at y rhain fel ‘gyriant: N neu gyriant: S’ ac maent yn hygyrch fel strwythur ffeil/ffolder bersonol a dim ond chi fydd yn gallu cael mynediad iddynt.
Mae’r brifysgol hefyd yn darparu dulliau eraill o rannu ar draws y rhwydwaith, yn ogystal â systemau storio ffeiliau, fel SharePoint.
Caiff y gyriannau a rennir ar draws y rhwydwaith eu cefnogi yn rheolaidd, er mwyn sicrhau bod eich data a’ch dogfennaeth wedi’u diogelu ac y gellid eu hadfer pe bai eich cyfrifiadur yn methu.
Ni wneir copi wrth gefno’ch data neu ddogfennau a gedwir ar y cyfrifiadur bwrdd gwaith neu ar eich gyriant C:, oni bai eich bod wedi gwneud eich trefniadau eich hunan.
Sicrhewch eich bod wedi cadw eich holl ddata a dogfennau i’ch rhwydwaith a rennir, SharePoint, neu eich bod wedi gwneud copi ar yriant caled allanol.
Pan fyddwch yn gadael Prifysgol De Cymru, bydd eich cyfrif TG PDC yn cael ei ddadactifadu.
Os ydych yn gadael oherwydd eich bod yn graddio, bydd eich cyfrif yn cael ei ddadactifadu 120 diwrnod ar ôl dyddiad gorffen eich cwrs. Os byddwch yn gadael am unrhyw reswm arall, efallai y bydd eich cyfrif yn cael ei ddadactifadu'n gynt neu'n syth.
Er mwyn lleihau problemau posibl, ystyriwch yn ofalus eich defnydd o'ch cyfrif TG PDC cyn iddo gau, a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol tra bod gennych fynediad i'ch cyfrif o hyd.