Pan fyddwch yn gadael Prifysgol De Cymru, bydd eich cyfrif TG PDC yn cael ei ddad-ysgogi.

Os ydych yn gadael oherwydd eich bod yn graddio, bydd eich cyfrif yn cael ei ddad-ysgogi 120 diwrnod ar ôl dyddiad gorffen eich cwrs. Os byddwch yn gadael am unrhyw reswm arall, mae’n bosib y bydd eich cyfrif yn cael ei ddad-ysgogi'n gynt neu'n syth.

Bydd hyn yn effeithio ar eich gallu i gael mynediad at lawer o wasanaethau PDC a gall hefyd arwain at ganlyniadau sy'n cynnwys gwasanaethau trydydd parti. Er mwyn lleihau problemau posibl, ystyriwch yn ofalus eich defnydd o'ch cyfrif TG PDC cyn iddo gau, a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol tra bod gennych fynediad i'ch cyfrif o hyd.

Beth fyddaf yn colli mynediad i?

Pan fydd eich cyfrif myfyriwr PDC yn cael ei ddad-ysgogi, byddwch yn colli mynediad i'r rhan fwyaf o systemau a gwasanaethau PDC. Gweler isod am ragor o fanylion, a rhai camau y gallwch eu cymryd i osgoi problemau.

Cwestiynau Cyffredin

Os ydych yn defnyddio eich cyfrif TG PDC i fewngofnodi i’r Ardal Gynghori Ar-lein, fel y mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn ei wneud, byddwch yn colli mynediad i’r Ardal Gynghori Ar-lein pan fydd eich cyfrif TG yn cau.

Mae hyn yn golygu na fyddwch yn gallu defnyddio’r Ardal Gynghori Ar-lein i ofyn cwestiynau newydd neu drefnu apwyntiadau, ac ni fyddwch yn gallu cael mynediad at gofnodion o gwestiynau blaenorol, apwyntiadau ac ati.

E-bostiwch [email protected] am help.

Blackboard yw Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) PDC. Gwnewch yn siŵr bod gennych gopïau o unrhyw waith neu wybodaeth arall yr hoffech ei chadw wedi'i storio yn rhywle arall

Bydd y ffordd rydych chi'n cyrchu CareersConnect yn newid. Sut i gael mynediad at wasanaethau gyrfaoedd ar ôl i chi orffen eich cwrs.


E-bostiwch [email protected] am fwy o wybodaeth.

Am ymholiadau yn ymwneud â’r llyfrgell, cysylltwch â Gwasanaeth Llyfrgell PDC.

Mae Microsoft 365 (a elwid gynt yn Office 365) yn gyfres o apiau a gwasanaethau a ddatblygwyd ac a gyflenwir gan Microsoft Corporation. Mae gennych fynediad i sawl rhan o Microsoft 365 fel rhan o'ch cyfrif TG PDC.

Mae Microsoft 365 yn cynnwys apiau fel Outlook (e-bost a chalendr), ac OneDrive (storio ffeiliau) sydd wedi'u rhestru'n unigol ar y dudalen hon, ond hefyd sawl ap a gwasanaeth arall y gallech fod yn eu defnyddio.

Mae OneDrive yn system storio cwmwl, sy'n rhan o Microsoft 365, a ddarperir fel rhan o'ch cyfrif TG PDC.

Os oes gennych ffeiliau yma rydych chi am eu cadw, cadwch nhw yn rhywle arall hefyd.

Os ydych chi'n defnyddio Calendr Outlook i reoli eich amserlen, dylech drosglwyddo i gyfrif neu wasanaeth calendr arall.

Pan fyddwch yn colli mynediad i'ch cyfrif e-bost PDC:

  • Ni fyddwch yn gallu anfon, derbyn na gweld hen e-byst sy'n gysylltiedig â'r cyfrif.
  • Bydd unrhyw e-byst rydych chi wedi'i sefydlu i’w hanfon ymlaen o'r cyfrif hwn yn stopio gweithio.
  • Gall gwasanaethau trydydd parti, tanysgrifiadau, gwefannau neu apiau rydych wedi defnyddio eich cyfeiriad e-bost PDC i gofrestru ar eu cyfer, ddod yn anhygyrch, naill ai ar unwaith, neu pan fydd angen i chi ailddilysu.

Rydym yn argymell eich bod yn cymryd y camau canlynol:

  • Anfon unrhyw negeseuon e-bost rydych chi am eu cadw i gyfeiriad e-bost arall y mae gennych fynediad iddo, neu storio eu cynnwys rhywle arall e.e. eu lawrlwytho a'u cadw i'ch cyfrifiadur.
  • Newid y cyfeiriad e-bost rydych chi wedi'i gofrestru gyda'r holl wasanaethau, tanysgrifiadau, gwefannau ac apiau, i gyfeiriad e-bost y byddwch chi'n parhau i gael mynediad iddo yn yr hir dymor.
student-25

Cael help

Os yw'ch cyfrif eisoes wedi'i gau, ni fyddwch yn gallu defnyddio cymorth ar-lein, a bydd angen i chi gysylltu â chymorth TG dros y ffôn neu'n bersonol