Myfyrwyr

Tra byddwch yn astudio yn PDC bydd gennych gyfeiriad e-bost myfyriwr yn y fformat [email protected]

Mae eich enw defnyddiwr yn rhif 8 digid y gallwch chi ddod o hyd iddo ar eich cerdyn adnabod myfyriwr.

Mae angen i chi actifadu eich cyfrif cyn y gallwch gael mynediad i unrhyw wasanaethau ar-lein.

Staff

Tra byddwch yn gweithio yn PDC bydd gennych gyfeiriad e-bost staff sydd fel arfer yn y fformat [email protected]

Os yw eich enw yr un fath ag aelod arall o staff, efallai y bydd gennych rif yn eich e-bost er enghraifft enwcyntaf.enwolaf5

Manteision

Mae eich e-bost yn gyfrif Office365 sy'n rhoi mynediad i chi at wasanaethau fel Teams ar gyfer cydweithredu ac offer Office Windows.

Sefydlu Outlook ar eich dyfais

Rydym yn argymell defnyddio Microsoft Outlook i gyrchu eich e-byst yn uniongyrchol, i roi mynediad i chi at y nodweddion gorau ar gyfer eich cyfrif e-bost tra'n sicrhau bod gennych yr amddiffyniad gorau posibl ar gyfer eich cyfrifon.

Dylai defnyddwyr offer a reolir gan y Brifysgol ganfod bod Outlook eisoes wedi'i osod ar eu dyfais. Ar gyfer defnyddwyr bwrdd gwaith/gliniadur cartref, gellir lawrlwytho ap Microsoft Office, ynghyd â gweddill cyfres rhaglenni Office 365, trwy fewngofnodi i Office.com gyda'ch cyfrif Prifysgol.

Unwaith y byddwch wedi ffurfweddu Outlook ar eich dyfais, gan ddilyn y canllawiau isod, cofiwch ddileu unrhyw ffurfweddiadau a rhaglenni blaenorol y gallech fod wedi'u defnyddio i gael mynediad i'ch cyfrifon i gadw'ch cyfrifon mor ddiogel â phosibl.

Gall defnyddwyr symudol lawrlwytho Microsoft Outlook o Google Play neu’r App Store gan ddefnyddio'r dolenni isod:

Get It On Google Play

Download On The App Store

Agorwch raglen Outlook ar eich cyfrifiadur personol, gliniadur neu gyfrifiadur Mac.

Rhowch eich cyfeiriad e-bost, pan ofynnir i chi, i ddechrau mewngofnodi i'ch cyfrif:

Efallai y bydd defnyddwyr Windows yn cael eu hysbysu nesaf y bydd Outlook yn defnyddio gwasanaethau adnabod defnyddwyr Windows Hello i helpu i ddiogelu'ch cyfrif. Cliciwch OK os gofynnir i chi wneud hynny, i fwrw ymlaen.

a dyna ni, rydych chi wedi gorffen. Cliciwch Done i gwblhau'r broses sefydlu, ac ewch ymlaen i'ch cyfrif.

Agorwch ap Outlook ar eich dyfais.

Os nad ydych wedi defnyddio Outlook ar eich dyfais o'r blaen, fe'ch anogir i ychwanegu neu greu cyfrif - cliciwch "Add account" i barhau.

Nesaf, rhowch eich cyfeiriad e-bost Prifysgol a chliciwch next.

Yna rhowch cyfrinair eich cyfrif

a'r cod dilysu

Nesaf bydd angen i Outlook wirio'r gosodiadau diogelwch ar eich dyfais, er mwyn sicrhau ei bod yn ddiogel i chi gael mynediad i'ch cyfrif gan ddefnyddio'r ddyfais hon.

Cliciwch "Activate" pan ofynnir i chi, i ganiatáu i Outlook gwblhau'r gwiriad hwn.

Os nad oes gennych gyfrinair neu PIN wedi'i osod ar eich dyfais yn barod, fe'ch anogir nesaf i sefydlu un.

Dewiswch yr opsiwn sydd fwyaf cyfleus i chi, a dilynwch yr awgrymiadau ar y sgrin i osod eich cyfrinair neu PIN.

Unwaith y bydd yn ddiogel, bydd Outlook yn gofyn ichi sut rydych chi am dderbyn hysbysiadau o'r ap. Er y byddem yn argymell dewis Cuddio Cynnwys Sensitif, dewiswch yr opsiwn sydd fwyaf addas i chi.

A dyna ni. Gallwch nawr ddewis ychwanegu cyfrif e-bost arall, neu glicio Maybe Later i fynd yn syth i'ch blwch post.

Agorwch ap Outlook ar eich dyfais.

Bydd Outlook yn sganio'ch dyfais yn gyntaf i bennu a oes unrhyw gyfrifon wedi'u mewngofnodi eisoes y gall ei defnyddio. Os yw eich cyfrif Prifysgol wedi'i restru, dewiswch ef, fel arall, cliciwch Add Accounts i symud ymlaen.

esaf, rhowch eich cyfeiriad e-bost Prifysgol a chliciwch next.

Yna rhowch cyfrinair eich cyfrif pan ofynnir i chi, ac yna eich cod dilysu:

Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi, bydd angen i chi ailgychwyn Outlook i'w alluogi i ddiogelu'ch cyfrifon ar y ddyfais hon:

Unwaith y bydd Outlook wedi ailgychwyn, bydd yn gofyn a ydych am alluogi Face ID er mwyn diogelu eich cyfrifon ymhellach.

Dewiswch yr opsiwn sydd orau gennych er mwyn parhau.

Nesaf, bydd Outlook yn gofyn ichi sut rydych chi am dderbyn hysbysiadau o'r ap, dewiswch yr opsiwn sydd fwyaf addas i chi.

A dyna ni. Dylech nawr gael mynediad i'ch blwch post.