Pan fyddwch yn derbyn e-bost annisgwyl yn gofyn am unrhyw fath o wybodaeth bersonol neu sensitif amdanoch chi neu eich cyfrifon, rydym yn argymell eich bod yn dilyn y camau isod i wirio bod yr e-bost yn ddilys.

Gwiriwch y cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd i anfon y neges.

Bydd llawer o e-byst sgam yn dod o gyfeiriad a fydd yn edrych yn ddilys ar yr olwg gyntaf. Bydd e-byst gan dimau cymorth Prifysgol De Cymru, er enghraifft, yn dod o gyfeiriadau @southwales.ac.uk neu @decymru.ac.uk yn unig.

Gwiriwch y dolenni a gynhwysir yn yr e-bost.

Mae’n hawdd iawn i rai hacwyr greu dolen i edrych fel ei bod yn eich cyfeirio at rywle arall ar yr olwg gyntaf, a gallai dolen sy’n edrych fel un i www.southwales.ac.uk neu www.decymru.ac.uk er enghraifft, eich cyfeirio at wefan ffug. Os byddwch yn hofran y llygoden dros y ddolen, bydd yn dweud wrthych yn union lle mae’r ddolen yn mynd. Os nad ydych yn adnabod y wefan, peidiwch â chlicio ar y ddolen.

Dysgwch sut i adnabod atodiadau peryglus.

Bydd sbamwyr hefyd yn ceisio eich twyllo i agor atodiadau ffug a allai gynnwys feirysau. Er mwyn gwneud hyn, byddant yn atodi ffeiliau a enwir fel math arall o ffeil. Er enghraifft, efallai byddant yn enwi ffeil “document.pdf.exe”. Mewn rhai cleientiaid e-bost bydd enw’r ffeil yn ymddangos fel pe bai’r ffeil yn ddogfen PDF, er mai rhaglen ydyw mewn gwirionedd. Fodd bynnag, byddwch mwy na thebyg yn gweld bod yr eicon ar gyfer y ddogfen yn edrych yn gwbl wahanol i’r eicon y byddech yn ei disgwyl ar gyfer y math hwnnw o ddogfen.

Ac yn olaf, os yw’n edrych yn amheus, mae’n debygol o fod yn amheus.

Os ydych chi'n poeni am gynnwys e-bost yr ydych wedi'i dderbyn, bydd y tîm Cymorth Gwasanaethau TG yn hapus i’ch helpu chi i benderfynu a yw e-bost yn ddilys neu a ellir ei ddileu fel sbam.

Cysylltwch â ni ar est 82882 neu trwy’r Tîm Cymorth TG.