Sefydlu Dilysu Aml-Ffactor (MFA)
Sefydlu Dilysu Aml-Ffactor (MFA)
Ychwanegwch rif ffôn/e-bost arall fel y gallwch ailosod eich cyfrinair os byddwch yn ei anghofio 24 awr y dydd heb orfod cysylltu â'r Ddesg Gymorth. I ddefnyddio'r gwasanaeth hwn yn gyntaf mae angen i chi ychwanegu rhif ffôn symudol neu gyfeiriad e-bost personol, neu'r ddau, at wasanaeth ailosod cyfrinair Microsoft.
Sut i sefydlu eich Cyfrif TGOs byddwch yn anghofio eich cyfrinair yn y dyfodol, gallwch glicio ar ddolen Methu cael mynediad i'ch cyfrif? ar y dudalen mewngofnodi i ailosod eich cyfrinair. Bydd hyn yn anfon cod naill ai trwy neges destun neu e-bost i chi gadarnhau pwy ydych a chreu cyfrinair newydd.
Gellir cwblhau'r gosodiad ar unrhyw ddyfais ond y dull a argymhellir gennym ar gyfer MFA yw ap Microsoft Authentication or ap Google Authenticator, sydd i'w gael yn eich siop apiau symudol.
Mae eich rhif ffôn a'ch e-bost yn cael eu cadw gan Microsoft i ganiatáu ar gyfer ailosod cyfrinair yn unig. Ni chaiff ei ddefnyddio gan Microsoft na'r Brifysgol at unrhyw ddiben arall.
Ni fydd unrhyw dâl am dderbyn codau testun neu os ydych yn defnyddio'r ap trwy gyswllt di-wifr, fodd bynnag, efallai y bydd yr ap yn defnyddio ychydig o'ch data symudol os nad ydych yn defnyddio cyswllt di-wifr. Os ydych chi am osgoi hyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn newid gosodiad eich ap i beidio â chaniatáu defnyddio data symudol neu pan fyddwch yn cael eich annog i ddilysu ar eich cyfrifiadur - dewiswch opsiwn arall a dewiswch derbyn neges destun neu rhoi cod dilysu o'r ap.
Diweddaru eich Dilysiad Aml-Ffactor
Gallwch chi ddiweddaru'ch opsiynau MFA unrhyw bryd. Bydd angen i chi wneud hyn os byddwch yn newid eich ffôn symudol, rydym yn cynghori ap Microsoft Authenticator yn gryf. Mae'n darparu diogelwch ychwanegol.
Diweddaru eich gosodiadau MFACyn cael gwared ar eich hen ffôn, bydd angen i chi ei ddefnyddio i ddilysu mynediad i'ch tudalen ddiogelwch Microsoft.
Ychwanegu Ap Microsoft Authenticator ar eich Ffôn