Eduroam
Rhwydwaith Wi-Fi rhyngwladol a ddefnyddir gan sefydliadau academaidd ac ymchwil yw eduroam. Mae hyn yn golygu y gallwch ymweld â phrifysgolion eraill a chael cysylltiad â’r rhyngrwyd, heb orfod newid eich manylion mewngofnodi. Os byddwch yn newid eich cyfrinair, cofiwch y bydd yn rhaid i chi ddiweddaru eich gosodiadau eduroam hefyd.
EduroamMae'r rhan fwyaf o broblemau cysylltu ag eduroam yn aml o ganlyniad i osodiadau dyfais neu wall defnyddiwr. Y prif reswm dros docynnau yn "methu cysylltu ag eduroam" yw defnyddio fformat e-bost anghywir. Gweler isod rai awgrymiadau defnyddiol ar gyfer cysylltu:
Dilyswch eich enw defnyddiwr/cyfeiriad e-bost a chyfrinair
Mae eich enw defnyddiwr ar gyfer eduroam yn y fformat [email protected] (ar gyfer staff y fformat mewngofnodi fydd [email protected], nid eich cyfeiriad e-bost llawn).
Gwnewch yn siŵr eich bod yn ceisio cysylltu ag eduroam
Sicrhewch eich bod yn ceisio cysylltu ag "eduroam", ac nid un o'r rhwydweithiau Wi-Fi eraill sydd ar gael ar y campws, fel unrhyw un o'r rhwydweithiau sy'n dechrau gyda USW (mae USW a USW-CE ar gyfer dyfeisiau Prifysgol De Cymru yn unig ac ni fyddant yn caniatáu i ddyfeisiau personol gysylltu, defnyddir USW-Guest a USW-Openday ar gyfer cysylltiad tymor byr ac nid yw'n cael ei argymell i fyfyrwyr gysylltu â nhw).
Ceisiwch gael gwared ar eduroam a'i ail-ychwanegu ar eich dyfais
Os oes gennych eduroam eisoes ond nad ydyw’n cysylltu, anghofiwch (neu dilëwch) ef ac ailgysylltu gan ddilyn ein cyfarwyddiadau a ddarparwyd gan Wasanaethau TG Prifysgol De Cymru (gweler uchod).
Ailgychwyn eich dyfais
Gall ailgychwyn yn aml ddatrys llawer o faterion cysylltedd. Os yw'ch dyfais yn sownd ar y sgrin gysylltu ar gyfer eduroam, gall ei droi i ffwrdd ac yna yn ôl ymlaen ailosod y cysylltiad, gan ganiatáu ichi gysylltu'n llwyddiannus unwaith y bydd eich dyfais yn ôl ymlaen.
Trowch eich gosodiad Wi-Fi i ffwrdd ac yn ôl ymlaen
Ceisiwch ddiffodd eich Wi-Fi a’i roi ymlaen eto, bydd hyn yn adnewyddu'r cysylltiad a cheisiwch gysylltu eto.
Sicrhewch fod eich dyfais wedi’i ddiweddaru
Gwiriwch eich dyfais am ddiweddariadau i'ch OS (ni chaniateir i ddyfeisiau sydd wedi dyddio gysylltu ag eduroam er diogelwch)
Problemau mewn lleoliad
Os yw'ch cysylltiad eduroam yn gweithio'n iawn ym mhobman arall ond na allwch gysylltu mewn man penodol, rhowch wybod i Ddesg Gwasanaeth TG PDC am y broblem. Bydd angen i ni wybod ble roeddech chi, faint o'r gloch, a pha wefan roeddech chi'n ceisio mynd arni.
eduroam yn segur o bosibl
Mae bob tro’n bosibl bod problem gydag eduroam. Edrychwch ar dudalen Statws Gwasanaeth TG Prifysgol De Cymru i gael adroddiadau am gyfnodau segur yma.
Nid yw rhai dyfeisiau'n gallu cysylltu â rhwydwaith Wi-Fi Eduroam, gan gynnwys:
- Dyfeisiau nad ydynt yn cefnogi dilysu Wi-Fi 802.1x
- Dyfeisiau nad ydynt yn cefnogi TLS 1.2 ar gyfer dilysu Wi-Fi 802.1x
- Rhai dyfeisiau enghreifftiol na allant gysylltu ag Eduroam; Amazon Alexa, Nintendo Switch, Dyfeisiau IoT
Nid yw dyfeisiau heb gefnogaeth gwneuthurwr bellach yn cael eu cefnogi ar eduroam. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Fersiynau Windows cyn Windows 10 21H2 (e.g. XP, 7, 8.0, 8.1, 10.1507 hyd at 10.21H1)
- Fersiynau Apple OSX cyn 11.7 (Big Sur)
- Ffôn Windows (pob fersiwn)
- Fersiynau Apple iPhone/iPad cyn iOS 15.7.9 (ac eithrio iOS 12.5.7, sy’n cael ei gefnogi)
- Fersiynau Android cyn 11.0
Os ydych chi wedi gwahodd ymwelydd neu westai i'r campws a fydd angen mynediad Wi-Fi arnynt ac nad ydynt yn aelod o sefydliad sydd eisoes â mynediad Eduroam, cysylltwch â Chydlynydd TG adrannol a all drefnu mynediad iddynt.
Mae rhestr o Gydlynwyr TG ar gael o dan y tab Gwybodaeth ar hafan Cyswllt: Cydlynwyr TG