Diweddariad: Digwyddiad seiber y Llyfrgell Brydeinig

Os oes arnoch angen eitemau nad ydynt ar gael o'n casgliadau, gallwch eu defnyddio drwy'r gwasanaeth cais am fenthyciadau rhyng-lyfrgellol (ILL) sy'n cael ei weinyddu drwy'r Llyfrgell Brydeinig.

Cyn cyflwyno cais, gwiriwch FINDit gan na allwch gyflwyno ILL os oes gennym yr eitemau yn ein casgliadau.

Oherwydd cyfyngiadau hawlfraint ni allwn gael e-lyfr cyfan ond gallwn wneud cais am gopïau ffisegol o lyfrau.

Gellir gwneud ceisiadau trwy lenwi ffurflen gais y Llyfrgell Brydeinig ar FINDit. Sicrhewch eich bod wedi arwyddo i FINDit i gael mynediad i'r ffurflen.

  • Myfyrwyr: hyd at 5 cais yr wythnos.
  • Staff a myfyrwyr ymchwil: hyd at 10 cais yr wythnos.

Dilynwch eich ceisiadau ILL trwy Fy Nghyfrif ar FINDit. Pan fydd cais ar gael i'w gasglu, byddwch yn derbyn hysbysiad trwy eich cyfrif e-bost Prifysgol.

Gall myfyrwyr ofyn am hyd at 5 cais am ddim fesul blwyddyn academaidd. Ar ôl hyn, codir tâl o £3.00 am bob cais wedi'i gwblhau. Nid yw hyn yn adlewyrchu cyfanswm cost y trafodiad (£17.55), a bydd y gweddill yn cael ei dalu gan y Llyfrgell. Bydd rhaid i chi dalu hyd yn oed os nad ydych yn casglu eich ILL (ar yr amod bod y cais yn cael ei fodloni o fewn ein safon o 10 diwrnod gwaith). Ychwanegir y tâl at eich cyfrif llyfrgell a dylid ei dalu cyn gynted â phosibl trwy'r siop ar-lein. Sylwer bod unrhyw un sydd â dirwyon / taliadau o £10.00 neu uwch yn cael ei rwystro'n awtomatig rhag defnyddio'r gwasanaeth hwn.

Mae'r gwasanaeth ILL yn rhad ac am ddim i staff Prifysgol De Cymru a myfyrwyr ymchwil.

Gall staff, ymchwilwyr a myfyrwyr y Brifysgol gael gafael ar erthyglau o gasgliadau cyfoethog y Llyfrgell Brydeinig gan ddefnyddio'r Dull Dosbarthu Electronig Diogel (DED). Mae ceisiadau a gyflwynwyd yn cael eu danfon i'ch bwrdd gwaith, a gellir cael mynediad iddynt yn unrhyw le sydd â chysylltiad rhyngrwyd. Mae dosbarthu electronig yn dileu oedi drwy'r post ac yn cynnig gwasanaeth cyflym ac effeithlon i chi.

Gellir gofyn am draethodau ymchwil yn uniongyrchol trwy ETHOS y Llyfrgell Brydeinig - Gwasanaeth Traethodau Ar-lein Electronig (cyswllt allanol). Mae traethodau ymchwil gan sefydliadau sy'n cymryd rhan ar gael i'w lawrlwytho fel testun-llawn neu gellir gofyn iddynt gael eu digideiddio cyn eu cyflenwi. Mae mwyafrif y sefydliadau sy'n cymryd rhan yn EThOS wedi cytuno i dalu am ddigideiddio eu traethodau ymchwil. Fodd bynnag, efallai na fydd gan rai sefydliadau'r gyllideb i ariannu'r digideiddio. Weithiau, gofynnir i ddefnyddwyr EThOS ariannu digideiddio traethodau ymchwil o'r sefydliadau hyn eu hunain.

Gallwch hefyd gyrchu cynnwys mynediad agored cyfreithiol am ddim, darperir gwybodaeth gan y Llyfrgell Brydeinig.

Cysylltu â ni

Benthyciadau rhyng-lyfrgellol
Tel: 01443 482638
e-bost: [email protected]or [email protected]