Ymuno â'r llyfrgell

  • Myfyrwyr israddedig, ôl-raddedig ac ymchwil  - Gall myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd defnyddio'r llyfrgell y diwrnod ar ôl iddynt gofrestru. Eich cerdyn adnabod myfyriwr yw eich cerdyn llyfrgell, y mae angen hwn arnoch i fenthyg adnoddau neu argraffu.
  • Mae'n ofynnol i staff lenwi ffurflen aelodaeth y llyfrgell.
  • Aelodaeth allanol o'r llyfrgell - Rhaid i unrhyw un sy'n dymuno cymryd aelodaeth allanol lenwi 'r ffurflen gais hon a darparu ffotograff ar gyfer cerdyn adnabod. Anfonwch eich llun at [email protected] gyda'r llinell pwnc 'Llun ar gyfer aelodaeth allanol'.  Byddwn yn cysylltu â chi pan fydd eich cerdyn llyfrgell ar gael i'w gasglu.  Nid yw cronfeydd data electronig ar gael i'w defnyddio gan aelodau allanol oherwydd cyfyngiadau trwydded.
    • Cyn-fyfyrwyr ac aelodaeth gymunedol - Gall cyn-fyfyrwyr ac aelodau o'r gymuned leol ymuno â Llyfrgell PDC am ddim. Bydd hyn yn rhoi'r hawl i chi fenthyg 2 eitem.
    • Mynediad i SCONUL - Cyfeiriwch at eich sefydliad eich hun i gael rhagor o wybodaeth am y cynllun hwn.
    • Cynllun benthyca cyfatebol - yn gweithredu rhwng PDC a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC), Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Gall staff a myfyrwyr fenthyg 25 eitem gan PDC. Gall israddedigion ac ôl-raddedigion fenthyg hyd at 5 eitem o Ferthyr Tudful gyda staff ac ymchwilwyr yn cael hyd at 10.  Gall cyn-fyfyrwyr ac aelodau o'r gymuned fenthyg 2 eitem. Mae Mynediad SCONUL [band A-C] yn eich galluogi i fenthyg 6 eitem.

Gellir dychwelyd adnoddau’n bersonol neu drwy'r post. Mae llyfrgelloedd Trefforest a Glyn-taf yn cynnig bocs gollwng llyfrau 24/7 y tu allan i'r llyfrgelloedd. Mae eitemau wedi’u benthyg yn adnewyddu yn awtomatig, ar yr amod nad oes gofyn amdanynt ac nad oes gennych ddirwyon heb eu talu. Yn ogystal, gallwch ddychwelyd drwy’r post, am fwy o wybodaeth, ewch i'r dudalen Gwasanaeth Benthyciad drwy’r Post a Sganio a Chyflenwi.

Gellir gwneud ceisiadau ar FINDit ar gyfer eitemau y gellir eu benthyg o unrhyw un o'n llyfrgelloedd campws neu ar gyfer eitemau sydd allan ar fenthyg.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer myfyrwyr PDC sydd am ofyn am lyfr PDC drwy'r post neu, i ofyn am sgan digidol o gopi print yn unig o erthygl cyfnodolyn PDC neu bennod llyfr i'ch e-bost. Am ragor o wybodaeth, ewch i'r dudalen Gwasanaeth Benthyciad drwy’r Post a Sganio a Chyflenwi.

Oni bai bod rhywun arall yn gofyn am eich eitemau, bydd eich eitemau'n cael eu hadnewyddu'n awtomatig, felly ni fyddwch yn cronni dirwyon os byddwch yn anghofio adnewyddu.

Os bydd rhywun arall yn gofyn am eitem sydd gennych ar fenthyg, cewch eich hysbysu drwy eich e-bost myfyriwr a bydd disgwyl i chi ddychwelyd yr eitem erbyn y dyddiad dyledus. Bydd methu â dychwelyd yn arwain at gronni dirwyon ac ni fydd yr eitem yn adnewyddu mwyach. Yn y pen draw, efallai y bydd eich cyfrif yn cael ei effeithio os na chaiff eitem a alwyd yn ôl ei dychwelyd. Felly, mae'n bwysig iawn eich bod yn darllen e-byst oddi wrthym ni a'ch bod yn gwirio Fy Nghyfrif yn rheolaidd i sicrhau nad oes angen eich llyfrau ar eraill, neu eu bod wedi cyrraedd eu dyddiad hwyaf. Gellir dod o hyd i holl fanylion eich benthyciadau ar eich cyfrif llyfrgell.

Dirwyon a thaliadau:

Dirwyon Prifysgol De Cymru £1.00 y dydd / rhan o ddiwrnod hyd at uchafswm o £20.00 yr eitem
Dirwyon Coleg Merthyr Os yw un o'ch eitemau wedi dod o Goleg Merthyr, y ddirwy yw 15c y dydd fesul eitem, hyd at uchafswm o £10.00 yr eitem.* Sylwch fod gwahanol bolisïau ailadnewyddu ar gyfer eitemau Prifysgol De Cymru a Choleg Merthyr a allai effeithio ar y gyfradd dirwyon. Mae manylion pellach ar gael ar ein tudalen adnewyddu.
Ceisiadau Benthyciad Rhyng-lyfrgellol gan fyfyrwyr a addysgir Mae'r pum cais cyntaf am ddim ym mhob blwyddyn academaidd, ar ôl hynny, £3.00 yr eitem ar gyfer ceisiadaua fodlonir.
Tâl am fenthyciadau Rhyng-lyfrgellol coll, heb eu dychwelyd. £182.80 yr eitem (o bosibl yn uwch os yw'n gostus i amnewid deunydd). Mae hwn yn dâl a orfodir gan y Llyfrgell Brydeinig.
Costau newydd ar gyfer llfrau na chawsant eu dychwelyd, eu colli neu eu difrodi. Mae isafswm tâl safonol o £25.00 yr eitem ar gyfer eitemau sydd allan o brint. Ar gyfer pob un arall, codir y lleiafswm safonol o £25.00 neu werth llawn yr eitem, pa un bynnag yw'r mwyaf, fel rhan o'n proses adennill dyledion.
Dirwyon benthyg gliniaduron £1.00 yr awr hyd at uchafswm o £10.00 y diwrnod. Uchafswm tâl o £100.00 yr eitem.
Dirwyon benthyg offer cyfryngau Dirwyon o £10.00 y dydd neu ran ohono, yn amodol ar uchafswm tâl o £100.00 yr eitem.

Sut i dalu am ddirwyon a thaliadau?

Gellir talu fel a ganlyn:

  • Trwy ddefnyddio'r siop ar-lein. Nid oes isafswm taliad. Cewch dderbynneb drwy e-bost ar ôl i chi dalu.

Sylwer:
Cyn rhoi dirwyon, anfonir nifer o hysbysiadau i'ch e-bost Prifysgol De Cymru i roi gwybod i chi na allwch adnewyddu benthyciad eitemau penodol:

  • Pan fydd defnyddiwr arall yn gwneud cais, anfonir hysbysiad drwy e-bost i ddweud na ellir adnewyddu'r eitem a bydd angen ei dychwelyd erbyn y dyddiad dyledus.
  • Dau ddiwrnod cyn y dyddiad dyledus anfonir hysbysiad cwrteisi.
  • Ar y diwrnod y disgwylir yr eitem yn ôl caiff hysbysiad ei e-bostio i ddweud bod yr eitem yn ddyledus heddiw. 
  • Anfonir hysbysiadau hwyr 7 diwrnod a 14 diwrnod ar ôl y diwrnod dyledus i atgoffa nad ydych wedi dychwelyd y llyfr a bod dirwyon yn cael eu cronni.
  • Os byddwch yn methu ag ymateb byddwn yn codi isafswm o £25.00 arnoch neu werth llawn yr eitem, pa un bynnag yw'r mwyaf fel rhan o'n proses adennill dyledion.

Os ydych chi'n cael trafferth dychwelyd eitemau mewn pryd, cysylltwch â'r Llyfrgell cyn gynted â phosibl.

Dogfennau Polisi Llyfrgell

Mae'r Gwasanaeth Llyfrgell yn aelod o nifer o gynlluniau llyfrgell cydweithredol. Mae hyn yn rhoi mynediad i lyfrgelloedd addysg uwch, addysg bellach, cenedlaethol a chyhoeddus yn y Deyrnas Unedig.

Books4U - Mae hwn yn gynllun benthyca rhwng llyfrgelloedd cyhoeddus, addysg bellach ac addysg uwch sy'n cymryd rhan. Gall unrhyw fyfyriwr PDC ymuno â'r cynllun trwy ei lyfrgell gyhoeddus leol, cyn belled â bod y llyfrgell honno'n aelod cyfrannog o Books4U. Gallwch ofyn am 2 lyfr o unrhyw un o'r llyfrgelloedd a restrir, gan gynnwys PDC, a fyddai'n cael eu casglu o'ch llyfrgell gyhoeddus a'u dychwelyd iddynt.

Diweddariad: Digwyddiad seiber y Llyfrgell Brydeinig

Os oes arnoch angen eitemau nad ydynt ar gael o'n casgliadau, gallwch eu defnyddio drwy'r gwasanaeth cais am fenthyciadau rhyng-lyfrgellol (ILL) sy'n cael ei weinyddu drwy'r Llyfrgell Brydeinig.

Cyn cyflwyno cais, gwiriwch FINDit gan na allwch gyflwyno ILL os oes gennym yr eitemau yn ein casgliadau.

Oherwydd cyfyngiadau hawlfraint ni allwn gael e-lyfr cyfan ond gallwn wneud cais am gopïau ffisegol o lyfrau.

Sut ydw i'n gwneud cais am Fenthyciad Rhyng-lyfrgellol?

 

Gellir gwneud ceisiadau trwy lenwi ffurflen gais y Llyfrgell Brydeinig ar FINDit.  Sicrhewch eich bod wedi llofnodi i mewn i gael mynediad i'r ffurflen.

Pwy all gael mynediad i'r gwasanaeth?

  • Myfyrwyr: hyd at 5 cais yr wythnos.
  • Staff a myfyrwyr ymchwil: hyd at 10 cais yr wythnos.

    Dilynwch eich ceisiadau ILL trwy Fy Nghyfrif ar FINDit. Pan fydd cais ar gael i'w gasglu, byddwch yn derbyn hysbysiad trwy eich cyfrif e-bost Prifysgol.

A oes cost i'r gwasanaeth?

Gall myfyrwyr ofyn am hyd at 5 cais am ddim fesul blwyddyn academaidd. Ar ôl hyn, codir tâl o £3.00 am bob cais wedi'i gwblhau. Nid yw hyn yn adlewyrchu cyfanswm cost y trafodiad (£17.55), a bydd y gweddill yn cael ei dalu gan y Llyfrgell. Bydd rhaid i chi dalu hyd yn oed os nad ydych yn casglu eich ILL (ar yr amod bod y cais yn cael ei fodloni o fewn ein safon o 10 diwrnod gwaith). Ychwanegir y tâl at eich cyfrif llyfrgell a dylid ei dalu cyn gynted â phosibl trwy'r siop ar-lein. Sylwer bod unrhyw un sydd â dirwyon / taliadau o £10.00 neu uwch yn cael ei rwystro'n awtomatig rhag defnyddio'r gwasanaeth hwn.

Mae'r gwasanaeth ILL yn rhad ac am ddim i staff Prifysgol De Cymru a myfyrwyr ymchwil.

Dosbarthu Electronig Diogel (DED)

Gall staff, ymchwilwyr a myfyrwyr y Brifysgol gael gafael ar erthyglau o gasgliadau cyfoethog y Llyfrgell Brydeinig gan ddefnyddio'r Dull Dosbarthu Electronig Diogel (DED). Mae ceisiadau a gyflwynwyd yn cael eu danfon i'ch bwrdd gwaith, a gellir cael mynediad iddynt yn unrhyw le sydd â chysylltiad rhyngrwyd. Mae dosbarthu electronig yn dileu oedi drwy'r post ac yn cynnig gwasanaeth cyflym ac effeithlon i chi. Darganfyddwch sut i gael mynediad i'r gwasanaeth DED.

Gofyn am draethodau ymchwil

Gellir gofyn am draethodau ymchwil yn uniongyrchol trwy ETHOS y Llyfrgell Brydeinig - Gwasanaeth Traethodau Ar-lein Electronig (cyswllt allanol). Mae traethodau ymchwil gan sefydliadau sy'n cymryd rhan ar gael i'w lawrlwytho fel testun-llawn neu gellir gofyn iddynt gael eu digideiddio cyn eu cyflenwi. Mae mwyafrif y sefydliadau sy'n cymryd rhan yn EThOS wedi cytuno i dalu am ddigideiddio eu traethodau ymchwil. Fodd bynnag, efallai na fydd gan rai sefydliadau'r gyllideb i ariannu'r digideiddio. Weithiau, gofynnir i ddefnyddwyr EThOS ariannu digideiddio traethodau ymchwil o'r sefydliadau hyn eu hunain.

Adnoddau Ar-lein Am Ddim

Gallwch hefyd gyrchu cynnwys mynediad agored cyfreithiol am ddim, darperir gwybodaeth gan y Llyfrgell Brydeinig

Cysylltu â ni

Benthyciadau rhyng-lyfrgellol

Tel: 01443 482638

e-bost: [email protected] neu [email protected]