Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer myfyrwyr PDC sydd am ofyn am lyfr PDC trwy'r post neu, i ofyn am sgan digidol o gopi print-yn-unig o erthygl cyfnodolyn PDC neu bennod llyfr i'ch e-bost. Os oes gennych ymholiad am y gwasanaeth yna e-bostiwch [email protected]

Y ffordd gyflymaf o fenthyg llyfrau yw dod o hyd iddynt ar y silffoedd neu wneud cais i'w casglu mewn llyfrgell campws. Fodd bynnag, os na allwch ymweld â'r campws, gallwch ofyn am eitemau drwy'r post. 

Gall myfyrwyr PDC ofyn am bostio llyfrau o'n casgliadau print i gyfeiriad a enwebwyd yn y DU gan ddefnyddio'r nodwedd "Gosod Cais" yn FindIt. (Gall cyfyngiadau fod yn berthnasol, gan gynnwys terfynau ar nifer neu bwysau eitemau).  

Ar ôl i'ch eitem gael ei hanfon, caniatewch hyd at 10 diwrnod gwaith i dderbyn.

Mae'r gwasanaeth benthyciadau post ar gael i fyfyrwyr PDC sy'n astudio cyrsiau ar y campws, dysgu cymysg neu gyrsiau o bell. Nid yw ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio cyrsiau ar-lein yn llawn neu sy'n astudio mewn colegau partner.

Gellir gwneud cais am gopïau digidol o erthygl brint mewn cyfnodolyn PDC trwy lenwi’r ffurflen ar-lein. Bydd yr erthygl cyfnodolyn wedi'i sganio yn cael ei hanfon at eich cyfrif e-bost PDC. Os nad yw'r erthygl ar gael, gallwch ofyn amdani gan wasanaeth Ceisiadau'r Llyfrgell Brydeinig ar FINDit. 
Sylwch: nid yw ein trwydded hawlfraint yn cynnwys unrhyw un sy'n byw y tu allan i'r DU.

Gellir gofyn am gopïau digidol o bennod llyfr print PDC trwy lenwi’r ffurflen ar-lein. Bydd y bennod yn cael ei hanfon at eich cyfrif e-bost PDC o fewn 2 ddiwrnod gwaith os nad yw’r llyfr ar fenthyg.