Mae cynllun benthyca cyfatebol yn gweithredu rhwng PDC a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC), Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Sut i wneud cais

Myfyrwyr Israddedig PDC

Bydd israddedigion yn gallu benthyg hyd at 2 eitem. Bydd angen i chi gysylltu â Llyfrgell PDC i ofyn am e-bost i gadarnhau eich statws. Bydd angen i chi gynnwys yr e-bost hwn yn eich cais i'r brifysgol o'ch dewis.

Gwiriwch fanylion y sefydliad rydych yn dymuno cael benthyg ohono. Byddwch yn gallu benthyg hyd at 2 eitem o dan y cynllun hwn.

Myfyrwyr ôl-raddedig a staff PDC

Gwnewch gais drwy Mynediad SCONUL os gwelwch yn dda. Hawl benthyca: 6 eitem.

Israddedigion o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Gall israddedigion o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ymuno â Llyfrgell PDC o dan gynllun cyfatebol. O dan y cynllun, gallwch:

  • Ymuno â'r llyfrgell am ddim ar gyfer y flwyddyn academaidd (gellir adnewyddu hyn)
  • Benthyca hyd at ddwy eitem ar unrhyw adeg o'n casgliadau benthyciad 1 wythnos.
  • Cael mynediad i'r gwasanaeth diwifr eduroam
  • Llenwch ein ffurflen aelodaeth ar-lein i ymuno â'n llyfrgelloedd.

Mae angen i chi hefyd anfon y canlynol at [email protected]i gwblhau eich cais aelodaeth:

  • E-bost cadarnhad gan lyfrgell eich sefydliad cartref bod gennych hanes benthyca da a dim materion llyfrgell sy'n weddill.
  • Sgan neu lun o'ch cerdyn adnabod neu gerdyn llyfrgell o'ch sefydliad cartref
  • Llun maint pasbort (ar gyfer eich cerdyn llyfrgell Prifysgol De Cymru)