Llyfrgell Glyn-taf
Sut i ddod o hyd i ni
Lleolir y llyfrgell yng Nglyn-taf Isaf gerllaw adeilad Elaine Morgan.
Library and Student Centre
Cemetry Road
Glyn-taf
Pontypridd
CF37 4BD
Mannau Astudio
Mae gan Lyfrgell Glyn-taf wahanol fathau o ofodau astudio i weddu i'ch anghenion. Nid oes angen archebu dim ond galw i mewn.
- Ystafell astudio ddistaw
- Desgiau astudio grŵp
- PCs
- Parcio
Mae lleoedd parcio i'r anabl yn agos at fynedfa flaen y llyfrgell.
Rhoddir trwyddedau parcio i'r anabl yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr sydd â bathodyn glas (y mae'n rhaid darparu copi ohono) i'w galluogi i barcio ar y campws. Am fwy o wybodaeth ewch i Parcio i Fyfyrwyr.
- Mynediad cyffredinol
Mae gan y llyfrgell fynedfa ar y llawr gwaelod.
- Mynediad drwy ddefnyddio lifft
Mae lifft mewnol ar gyfer mynediad i'r llawr cyntaf.
- Byrddau addasadwy
Cyfrifiaduron a desgiau y gellir addasu eu huchder.
- Gwacáu mewn achos o Dân
Mae cadeiriau achub ar gael ar gyfer defnyddwyr â chyfyngiadau symudedd ac mae llwybrau allanfa amgen ar gael o bob rhan o'r adeiladau mewn argyfwng.
- Toiledau
Mae dau doiled gyda mynediad i'r anabl ar y llawr gwaelod.