Archebu Ystafell yn y Ty Cwrdd
Yn y Tŷ Cwrdd (Canolfan Caplaniaeth Campws Trefforest) mae gennym gyfleuster i ganiatáu i fyfyrwyr Brifysgol De Cymru archebu ystafelloedd at ddefnydd cymdeithasol a phenodol. Mae ystafelloedd hefyd ar gael i staff ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol. Mae gennym nifer o ystafelloedd o wahanol faint y gallwch eu defnyddio a gallwn hefyd ddarparu offer sain/fideo sylfaenol a lluniaeth ysgafn.
I ddefnyddio cyfleusterau’r Gaplaniaeth at y diben hwn, bydd angen i chi gysylltu â’r Caplan ynghylch archebu’r ystafell. Gellir archebu ystafelloedd ar y ddealltwriaeth y byddwch, drwy ddefnyddio cyfleusterau’r Gaplaniaeth, yn parchu ethos y ganolfan.
I archebu ystafell, gallwch naill ai alw heibio i'r Tŷ Cwrdd, ein ffonio ar 01443 654060 neu anfon e-bost at y gaplaniaeth yn uniongyrchol gan roi manylion llawn: [email protected].