Y Tŷ Cwrdd
Pwy bynnag ydych chi ac o ble bynnag yr ydych yn dod mae croeso i chi yn Y Tŷ Cwrdd.
Mae’r Tŷ Cwrdd yn fan lle gallwch ymlacio, anghofio pwysau bywyd Prifysgol am ychydig, a mwynhau bod gyda phobl eraill, neu os yw'n well gennych, eistedd yn dawel ar eich pen eich hun. Darllenwch ein cylchlythyr i ddysgu mwy am y Gaplaniaeth yn Y Tŷ Cwrdd.
Ble ydyn ni?
Mae’r Tŷ Cwrdd ar gampws Trefforest. Yr ydym ar ffin ogleddol y campws, ychydig i fyny'r allt o adeilad Ferndale a gât Brook Street. Rydym ar agor o 9am tan 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod y tymor, ac o 11am tan 3pm yn ystod y gwyliau. Mae’r Tŷ hefyd ar agor gyda'r nos ar gyfer digwyddiadau arbennig ac archebion rheolaidd ar gyfer grwpiau. Mae croeso cynnes yn eich aros.
Beth allwch chi ei ganfod yma?
Yma rydym yn cynnig y traddodiad Cymreig o gynhesrwydd, lletygarwch a chroeso i gymuned gyfan y Brifysgol. Mae'n fan lle y gall pobl o bob cenedl, diwylliant, ffydd a ffordd o fyw ymlacio, sgwrsio, dadlau neu weddïo gyda'i gilydd, dysgu parch tuag at y naill a'r llall, a thyfu: yn syml, lle i gyfarfod.
Nid yw’r Tŷ Cwrdd yn lle niwtral lle y mae'n rhaid i bobl adael eu credoau a'u hunigoliaeth wrth y drws, ond yn lle cydfuddiannol lle gall pobl ddod fel nhw eu hunain i ddod ar draws eraill fel nhw eu hunain.
Gall cwrdd â phobl o ddiwylliant neu set o gredoau cwbl wahanol fod yn heriol ac yn anghyfforddus, ond gall fod yn gyffrous ac yn hwyl hefyd. Mae'n rhan bwysig o'r hyn yw addysg.
Mae’r Tŷ Cwrdd yn cynnig:
- lolfa lle gallwch alw heibio ac ymlacio, a'ch helpu eich hun i de, coffi neu ddiod oer
- ystafelloedd tawel ar gyfer gwaith, gweddïo, myfyrio neu sgwrs breifat
- cyfle i siarad â Chaplan
- ystafelloedd y gellir eu harchebu ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau eraill
- mynediad WiFi.
O bryd i'w gilydd mae’r Tŷ Cwrdd yn gartref i arddangosfeydd celf myfyrwyr. Dewch i alw heibio a chael golwg.