Mae’r Gaplaniaeth yn y Tŷ Cwrdd yn bartneriaeth rhwng yr eglwysi a Phrifysgol De Cymru.  Mae'n wasanaeth agored a chynhwysol i'r holl staff a myfyrwyr beth bynnag fo'u crefydd.  Rydym yn credu ein bod yn chwarae rhan bwysig ym mywydau myfyrwyr a staff, felly bydd eich gwaith gyda ni yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Mae’r Gaplaniaeth yn gweithio fel teulu ac fel gwirfoddolwr bydd amrywiaeth eang o ffyrdd y gallwch ddod yn rhan o'n tîm.  Rydym yn ceisio cynnig cyfleoedd cyffrous a hwyliog i chi ddod yn rhan o’n gwaith yn gyson.

Mae'r dudalen hon yn esbonio rhai o'r ffyrdd y gallwch chi gael profiadau gwerthfawr ond rydym hefyd yn croesawu unrhyw syniadau eraill, felly mae croeso i chi gysylltu â ni a rhoi gwybod i ni beth rydych chi'n ei feddwl.

Rydym yn ddiolchgar iawn am eich parodrwydd i helpu i greu awyrgylch croesawgar a chefnogi ein gwaith yn Y Tŷ Cwrdd.

 

Rolau gwirfoddoli

Rheolwyr ar ddyletswydd

Fel Rheolwr ar Ddyletswydd, byddwch yn gyfrifol am ddiogelwch yr adeilad a'r defnyddwyr sydd wedi archebu ystafelloedd ymlaen llaw.

 

Swyddogion ar Ddyletswydd
Fel Swyddog ar Ddyletswydd, byddwch yn gyfrifol am holl ddyletswyddau'r dderbynfa.  Yn ogystal â hyn, bydd yn ofynnol i chi ddarparu lluniaeth yn y lolfa ac ar gyfer unrhyw grwpiau sydd wedi archebu lle i ddefnyddio ystafell yn y Tŷ Cwrdd ac sydd wedi gofyn am luniaeth.

Efallai y bydd adegau pan fydd eich rôl yn newid i un Rheolwr ar Ddyletswydd oherwydd gall amgylchiadau godi pan fyddwch yn cael eich gadael yng ngofal yr adeilad tra bydd aelod o staff wedi cael ei alw i ffwrdd.

 

Cynorthwywyr y Gaplaniaeth
Fel Cynorthwyydd y Gaplaniaeth bydd angen i chi gynorthwyo'r Rheolwr ar Ddyletswydd/Aelod Staff sydd ar ddyletswydd.  Efallai y bydd angen i chi helpu gydag amrywiaeth eang o dasgau ond mae cyfrifoldeb cyffredinol yr adeilad a'i ddefnyddwyr yn parhau'n gyfrifoldeb i'r Rheolwr ar Ddyletswydd.

 

Meysydd profiad gwaith

Dyletswyddau'r dderbynfa    

  • Ymholiadau ffôn    
  • Cyfarfod a Chyfarch

 

Gweinyddiaeth

  • Cofnodi data cronfa ddata    
  • Archebu ystafelloedd    
  • Blogio    
  • Storio a choladu ffotograffau    
  • Llungopïo    
  • Gweinyddu'r rhaglen wirfoddoli

 

Marchnata a Digwyddiadau

  • Trefnu digwyddiadau i fyfyrwyr
  • Cefnogi digwyddiadau a drefnir gan eraill    
  • Creu deunyddiau cyhoeddusrwydd ar gyfer digwyddiadau
  • Creu posteri/taflenni
  • Digwyddiadau ffotograff 

 

Lletygarwch

  • Cyfarfod a Chyfarch
  • Gosod a gweini lluniaeth

 

Rhwydweithio Cymdeithasol

  • Gweinyddu Facebook
  • Trydar

 

Y Wefan

  • Golygu a diweddaru presenoldeb y Gaplaniaeth ar y we.


Dangosydd Onelan

  • Creu cyflwyniadau ar gyfer sgriniau mewnol y Gaplaniaeth.