Heddiw yn y DU, mae teuluoedd yn cael trafferth rhoi bwyd ar y bwrdd. I bobl ar incwm isel, gall argyfwng sydyn fel colli swydd neu oedi mewn taliadau budd-dal olygu bod teulu'n llwglyd.

Mae banciau bwyd y DU yn gweithio gyda sefydliadau gwirfoddol lleol i ddarparu bwyd a chymorth brys i bobl mewn argyfwng.

Dyma sut mae’n gweithio: mae pobl yn rhoi bwyd nad yw'n ddarfodus i'w banc bwyd lleol.  Mae gwirfoddolwyr yn ei drefnu a’i bacio i mewn i barseli brys.  Yna, mae gweithwyr gofal proffesiynol fel meddygon, gweithwyr cymdeithasol ac ati yn gallu rhoi taleb i bobl mewn argyfwng fel y gallant fynd i'r banc bwyd a chael digon o fwyd i bara o leiaf dri diwrnod.  Ar yr un pryd, mae’r bobl yn y banc bwyd yn gwrando arnynt ac yn eu helpu os oes angen mwy o gymorth hirdymor arnynt.

Mae’r Gaplaniaeth yn cefnogi'r banc bwyd a reolir gan bobl leol yn Rhydyfelin. Gofynnir i fyfyrwyr a staff roi, yn rheolaidd, fwydydd nad ydynt yn ddarfodus megis:

  • bwyd tun (cig, pysgod, llysiau, ffrwythau, pwdinau ac ati)
  • hylifau oes hir (llaeth UHT, sudd ffrwythau ac ati
  • bwyd sych (bagiau te, siwgr, grawnfwydydd, pasta, reis ac ati)

Gallwch ddod â'ch rhoddion i’r Tŷ Cwrdd ar gampws Trefforest neu i'r Swyddfa Derbyniadau yn adeilad Aneurin Bevan ar gampws Glyn-taf, ystafell GT582.


Mae grŵp y Tŷ  Cwrdd yn barod i dderbyn eich rhodd bwyd nawr.  Os ydych yn fyfyriwr, mae croeso hefyd i chi ymuno â Grŵp y Tŷ Cwrdd.