Arholiadau a Ramadan
Beth yw Ramadan?
Ramadan yw nawfed mis y calendr Islamaidd, ac adeg pan fydd Mwslimiaid ar draws y byd yn ymprydio yn ystod oriau golau dydd. Ramadan yw’r pedwerydd o bum piler Islam. Mae Mwslimiaid yn credu y datgelwyd y Qur'an gyntaf i'r Proffwyd Muhammad yn ystod y mis hwn.
Beth mae Mwslimiaid yn ei wneud yn ystod Ramadan?
Ymprydio o'r wawr i'r machlud, mae adrodd y Qur'an a'r weddi yn elfennau pwysig iawn o arsylwi Ramadan. Fel arfer, bydd Mwslimiaid sy'n ymarfer yn mynychu'r cyfleuster gweddïo yn fwy aml yn ystod y cyfnod hwn, a chaiff gweddïau ychwanegol 'Tarawih' eu perfformio bob nos. Mae bod yn elusennol hefyd yn elfen bwysig o Ramadan.
Cefnogaeth y Brifysgol i fyfyrwyr Mwslimaidd sy'n sefyll arholiadau yn ystod Ramadan
Er ei bod yn debygol y bydd Ramadan yn cyd-daro â'r prif gyfnodau arholi yn 2020, nid yw'n bosibl newid dyddiadau'r cyfnodau arholi gan y byddai hyn yn cael effaith sylweddol ar y flwyddyn academaidd.
Er bod y Brifysgol yn cydnabod pwysigrwydd ymprydio crefyddol, yn unol â rheoliadau Amgylchiadau Esgusodol y Brifysgol ni fyddai'n cael ei ystyried yn rheswm dros hawlio amgylchiadau esgusodol. Fodd bynnag, mae'r Brifysgol wedi ystyried yn ofalus pa addasiadau y gall fod yn gallu eu gwneud yn ystod y cyfnod arholi i gefnogi myfyrwyr sy'n ymprydio.
Addasiadau Rhesymol – Arholiadau
Gan weithio o fewn y cyfyngiadau presennol ar amserlennu, lle mae'n bosibl bydd y Gofrestrfa Academaidd yn amserlennu prif arholiadau ac arholiadau ailsefyll* wrth wneud pob ymdrech i ystyried y canlynol:
Lle y bo'n ymarferol:
Dylai myfyrwyr lenwi'r ffurflen sydd ar gael ar wefan y Gofrestrfa Academaidd a'i chyflwyno i'r Gofrestrfa Academaidd a fydd yn rhoi gwybod iddynt am yr opsiynau sydd ar gael.
- Bydd arholiadau tair awr yn cael eu hamserlennu yn y bore;
- Ni fydd unrhyw fyfyriwr yn cael dau arholiad mewn un diwrnod;
- Ni fydd arholiadau sydd â myfyrwyr Mwslimaidd wedi'u cofrestru i'w hastudio yn cael eu hamserlennu ar brynhawn Gwener (bydd hyn yn seiliedig ar y datganiad o gred grefyddol myfyrwyr a wnaed adeg cofrestru).
*(Nodwch nid yw’r arholiadau a safwyd ym Mhrifysgol De Cymru ac a archwiliwyd gan gyrff proffesiynol/allanol wedi'u hamserlennu gan y Gofrestrfa Academaidd ac felly nid ydynt wedi'u cynnwys yn y pwyntiau uchod.)
Cymorth ychwanegol
Bydd cyfleusterau gweddïo ar gael ac yn cael cyhoeddusrwydd ar bob campws yn ystod Ramadan.
- Cynigir dau amser gweddi yn ystafell weddi Islamaidd Trefforest ar ddydd Gwener fel bod y rhai y mae eu harholiadau yn cyd-daro â'r amser gweddi cyntaf yn gallu mynychu'r ail.
- Cyhoeddir canllawiau i fyfyrwyr Mwslimaidd ar sut i ymarfer eu ffydd tra'u bod yn y Brifysgol a rheoli eu hiechyd, astudio a'r cyfnod arholi yn ystod mis Ramadan ar wefan y Gaplaniaeth ac ar UniLife.
- Mae cymorth a chyngor gan y Gaplaniaeth ar gael i staff a myfyrwyr ar bob agwedd ar ymarfer eich ffydd tra eich bod yn y Brifysgol.
Dyddiad cau a phroses
Cynghorir staff a myfyrwyr yn gryf i godi unrhyw bryderon gyda’r Brifysgol cyn gynted â phosibl ond heb fod yn hwyrach na diwrnod cyntaf mis Mawrth fel y gall y Brifysgol archwilio addasiadau rhesymol posibl.
Mae'n bwysig nodi nad yw cred ac arferion crefyddol yn rhesymau dros amgylchiadau esgusodol o dan Reoliadau Amgylchiadau Esgusodol y Brifysgol.
Cysylltiadau:
Michelle Romaniw, Pennaeth Gwasanaethau Caplaniaeth
[email protected]
01443654060
Tîm Arholiadau, Ardystio a Graddio, Cofrestrfa Academaidd
[email protected]
01443 482015
- Rhaid i fyfyrwyr Mwslimaidd wneud cais yn uniongyrchol i'r Gofrestrfa Academaidd i ofyn am addasiad.
- Dylid gwneud ceisiadau ar ddechrau'r flwyddyn academaidd, a dim hwyrach na diwrnod cyntaf mis Mawrth ym mhob blwyddyn academaidd.
- Mae’r ffurflen gais ar gael ar wefan y Gofrestrfa Academaidd.