Mae Prifysgol De Cymru yn gartref i amrywiaeth eang o ddiwylliannau a grwpiau ffydd ac mae'r Gaplaniaeth yn annog pawb i ymarfer eu crefyddau wrth weithio neu astudio yma.

Gall y Gaplaniaeth yn y Tŷ Cwrdd ddarparu cymorth, cyfleusterau gweddïo a chyngor ar faterion crefyddol i bawb sy'n chwilio amdano.

Mae Prifysgol De Cymru hefyd yn darparu canllawiau ar Grefydd a Chred ar gyfer myfyrwyr ac aelodau staff. Os teimlwch eich bod yn cael unrhyw drafferthion sy’n ymwneud â'r ffordd y mae eich amserlen neu ofynion academaidd yn effeithio ar eich arferion crefyddol, cysylltwch â'r Gaplaniaeth.

Rydym hefyd yn credu y dylai pawb gael y rhyddid i archwilio ond rydym yn eich annog i ystyried y ffaith nad yw rhai grwpiau crefyddol yn chwarae mor deg ag eraill.  Dylech ystyried y rhybudd iechyd crefyddol wrth ymuno â grwpiau newydd.

 

Cyfleusterau Gweddïo

Mae’n wastad lle yn y Tŷ Cwrdd ar gyfer gweddïo, naill ai yn unigol neu mewn grwpiau.  Mae croeso i chi alw heibio a gofyn am ystafell, neu archebwch ymlaen llaw ar gyfer gweithgaredd grŵp.

Mae matiau gweddïo ar gael yng Nglyn-taf ac yn y Tŷ Cwrdd.

Dylai unrhyw un sy'n defnyddio'r cyfleusterau hyn barchu defnyddwyr eraill a'u hangen am le i weddïo. Os bydd sesiynau’n gwrthdaro o ran amseru, peidiwch â tharfu ar y rhai sydd eisoes yn defnyddio'r ystafell at ddibenion gweddïo. Dylech ymgynghori â Chaplan Prifysgol De Cymru gydag unrhyw ymholiadau.

Os ydych yn dymuno cael lle i weddïo yn yr Atriwm, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, neu Goleg Merthyr, cysylltwch â'r Gaplaniaeth.

I gael gwybodaeth am addoldai gwahanol grefyddau yn yr ardal, cysylltu â’r gaplaniaeth.