Mae Prifysgol De Cymru yn gymuned aml-ddiwylliannol ac aml-ffydd. Mae'r cymysgedd cryf hwn o bobl o wahanol gefndiroedd yn gwneud y Brifysgol yn lle cyffrous i fyw ynddo.

Mae byw ochr yn ochr â phobl sy'n wahanol, dysgu gwerthfawrogi amrywiaeth a chynnig parch ac urddas i'r rhai sydd o'n cwmpas yn gymaint o ran o'r broses ddysgu yn y Brifysgol â'r cwrs rydych wedi ymrestru arno. Credwn fod datblygu fel person cyfan yn cynnig sylfaen i adeiladu arni ar gyfer y dyfodol.

Mae eich amser fel myfyriwr yn amser delfrydol i roi cynnig ar syniadau newydd, cwrdd â phobl o wahanol ddiwylliannau, credoau crefyddol ac athroniaethau.

Yng Nghymru rydym yn byw mewn cymdeithas sy'n mwynhau rhyddid i lefaru a rhyddid crefyddol.  Mae gan bawb yr hawl i fynegi eu credoau, ac mae hyn yn naturiol yn golygu'r hawl i geisio troi pobl eraill atynt. Wedi'r cyfan, os ydych chi'n credu rhywbeth yn gryf, ac mae'n gwneud gwahaniaeth mawr yn eich bywyd, yn naturiol rydych chi eisiau ei rannu gydag eraill.

Er hynny, mae rhai grwpiau nad ydynt yn chwarae'n deg.  Maent yn targedu pobl sy’n agored i niwed ac yn unig, sydd wedi drysu gan fywyd mewn cymuned newydd, sy’n hiraethu am adref neu'n mynd drwy ryw fath o argyfwng personol.  Maent yn dangos llawer o garedigrwydd a chyfeillgarwch tuag atynt a gallent eu tynnu oddi wrth eu teulu, eu ffrindiau a strwythurau cymorth eraill nes eu bod yn rhydd i ddominyddu bywydau pobl.  Byddent yn gwneud unrhyw beth i gael dylanwad dros eraill.  Mae'r grwpiau hyn yn beryglus - gallent eich arwain i garchar emosiynol y byddech yn ei chael hi'n anodd dianc ohono.

Felly, gwrandewch ar bob math o bobl a byddwch yn barod i ddysgu a newid eich meddwl.  Ond cofiwch bob amser mai chi sy’n berchen ar eich meddwl.  Eich bywyd chi ydyw ac nid oes gan neb yr hawl i'ch dominyddu.

Beirniadwyd rhai mudiadau crefyddol am eu harddulliau recriwtio cryf neu am arferion eraill y disgwylir i ddilynwyr gydymffurfio â nhw.  Am y rheswm hwn, cynghorwn unrhyw fyfyriwr sy'n ystyried ymuno â grŵp o'r fath i gysylltu â ni.

Arwyddion diamau

Os nad ydych chi'n siŵr sut i adnabod grŵp sy'n wahanol i'w hymddangosiad, fel arfer bydd rai neu bob un o'r arwyddion canlynol yn berthnasol:

  • Arweinydd sy'n honni bod ganddo ddealltwriaeth unigryw o Dduw, neu hyd yn oed mai Duw ydyw.
  • Absenoldeb llwyr unrhyw amheuaeth: mae amheuaeth a chwestiynu yn rhan naturiol o ffydd iach.
  • Ateb syml i bob cwestiwn: mae pobl wirioneddol ysbrydol yn sylweddoli nad yw bywyd yn syml; mae cymuned grefyddol iach yn un lle mae gan bobl yr un gwerthoedd sylfaenol ond eu bod yn barod i anghytuno ar faterion o ddydd i ddydd.
  • Cymuned sy'n ymddangos yn berffaith, lle mae pawb yn cytuno ac yn gwneud yr hyn y mae eu harweinydd yn dweud wrthynt am ei wneud yn siriol: faint bynnag o ffydd sydd gennych, nid yw bywyd go iawn yn debyg i hynny!
  • "Cariad" sydyn: mae'r holl grefyddau mawr yn siarad o blaid cariad, ond mae perthynas go iawn yn cymryd amser i dyfu. Gall fod gymhellion cudd gan bobl sy'n eich bombardio â geiriau teg ac anwyldeb cyn gynted ag y byddant yn cwrdd â chi.
  • System egwyddori: gochelwch rhag pobl sy'n eich gwahodd i ddod i ffwrdd i "gynhadledd", "gweithdy" neu "encilfan", ond nad sy’n esbonio'n union beth yw ei bwrpas.
  • Cyfrinachedd: mae crefydd iach yn sgwrsio am ddirgelion (pethau nad yw'r un ohonom yn gallu eu deall), nid cyfrinachau (pethau a ddatgelwyd i rai ac nid i eraill).
  • Gwahanu pobl oddi wrth eu bywyd a'u perthnasoedd arferol: gochelwch rhag unrhyw grŵp sy'n ceisio eich troi yn erbyn eich teulu a'u gweld nhw fel eich teulu yn lle hynny.
  • Rheolaeth lwyr dros fywydau aelodau: mae gan bob un ohonom y rhyddid, a'r cyfrifoldeb, i wneud ein penderfyniadau ein hunain; gochelwch rhag unrhyw grŵp sy'n dweud wrthych ba waith y dylech ei wneud, ble y dylech fyw, ac yn y blaen.
  • Gofynion afresymol: os ydyn nhw am i chi roi eu gweithgareddau cyn popeth arall bob amser, rhoi rheolaeth ariannol iddynt, gwneud gwaith afresymol o galed am ddim cyflog, neu roi’r gorau i’ch cwrs gradd er mwyn yr "achos", dywedwch NA.  Mae'n debygol y byddent yn gwneud i chi deimlo'n euog, yn enwedig os ydyn nhw wedi bod yn garedig iawn i chi.  Ond parhewch i ddweud NA.

Ydych chi'n agored i niwed?

Mae bron pawb yn mynd trwy adegau pan fyddan nhw'n teimlo'n unig, yn ddryslyd, neu'n dyheu am fywyd newydd sy'n haws na'r un presennol.  Gall hyn fod yn fwy tebygol o ddigwydd tra byddwch yn fyfyriwr nag ar adegau eraill yn ystod eich oes.

Pan fyddwch yn teimlo fel y gallech yn hawdd fod yn darged ar gyfer un o'r grwpiau dinistriol hyn, cysylltwch â rhywun y gallwch ymddiried ynddo yn lle, fel:

  • Cyfaill y gellir ymddiried ynddo
  • Eich tiwtor academaidd neu diwtor neuadd
  • Rhiant
  • Rhywun o wasanaeth cwnsela'r Brifysgol
  • Clerigwr neu Gaplan yr ydych yn ei adnabod sydd wedi'i gydnabod yn briodol.

Os nad ydych mewn argyfwng eich hun, ond eich bod yn adnabod rhywun sydd mewn argyfwng, gofalwch amdanynt a cheisiwch eu cysylltu â rhywun y gellir ymddiried ynddo i helpu.