Arlwyo ar gyfer gwahanol grefyddau - bwyta yn y Brifysgol

Mae Gwasanaethau Lletygarwch yn ymdrechu i ddiwallu anghenion pob cwsmer ac yn darparu ar gyfer gwahanol ddietau a chrefyddau.

 

Beth yr ydym yn ei wneud tuag at arlwyo ar gyfer gwahanol grefyddau?

  • Mae brechdanau halal a llysieuol ar gael yn Stilts, Crawshays a’r Zone.  Os ydych yn ymwelydd rheolaidd ag un o'n mannau arlwyo ac am sicrhau bod yna gynnyrch halal, gofynnwch i'r goruchwylydd gadw un i chi.
  • Mae’r holl gyw iâr a ddefnyddir mewn prydau poeth yn Stilts a'r Zone yn halal.
  • Mae’r cyw iâr a ddefnyddir yn y tortilas poeth wedi'u llenwi yn Crawshays yn halal.
  • Mae holl staff y Gwasanaethau Arlwyo yn cael eu hyfforddi i ddeall y dietau sydd eu hangen ar wahanol grefyddau i helpu i wella ein gwasanaeth i chi.

Mae'r rheolwyr arlwyo ar ddyletswydd yn hapus i gyfarfod a thrafod unrhyw geisiadau arbennig a byddant yn cynghori os gellir darparu ar gyfer y rhain. Gofynnwch am Paula neu Ian yng Nghwrt Bwyd Stilts.