Cyfleusterau Gweddïo Islamaidd ar y Campws
Mae Prifysgol De Cymru yn darparu ystafelloedd gweddïo Islamaidd ym Mloc H ar brif gampws Trefforest i aelodau staff a myfyrwyr Mwslimaidd eu defnyddio. Ceir ystafelloedd gweddïo ar gyfer dynion a menywod, a chyfleusterau ymolchi priodol. Defnyddir y cyfleusterau hyn ar gyfer gweddïau dyddiol a phregethau ar ddydd Gwener.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r Gymdeithas Islamaidd drwy eu tudalen Facebook, tudalen Cymdeithasau Undeb y Myfyrwyr neu cysylltwch â'r Gaplaniaeth.