Cyfarchion a Chyngor y Gaplaniaeth ar gyfer Ramadan
Annwyl Brodyr a Chwiorydd
A Salaam alaikum
Mae’r Gaplaniaeth yn dymuno Ramadan bendigedig i chi a’ch anwyliaid, gobeithiwn y bydd yn llawn heddwch, llonyddwch a hapusrwydd.
Ramadan Mubarak
Rydym wedi atodi rhywfaint o wybodaeth isod i'ch helpu yn ystod Ramadan. Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon.
Astudio yn ystod Ramadan
Cynghorir Staff a Myfyrwyr yn gryf i godi unrhyw bryderon gyda’r Brifysgol (fel arfer drwy gysylltu â’r Gaplaniaeth neu arweinydd eich cwrs) cyn gynted â phosibl, fel y gall y Brifysgol archwilio'r posibilrwydd o addasiadau rhesymol.
Cymorth y Brifysgol i fyfyrwyr Mwslimaidd sy'n astudio yn ystod Ramadan
Mae'r Gaplaniaeth yma i'ch helpu a'ch cynghori. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw bryderon.
Bydd dechrau Ramadan yn digwydd yn ystod y tymor yn 2024.
Er bod y Brifysgol yn cydnabod pwysigrwydd ymprydio crefyddol, yn unol â Rheoliadau Amgylchiadau Esgusodol y Brifysgol, ni fyddai ymprydio yn cael ei ystyried yn rheswm dros hawlio amgylchiadau esgusodol. Fodd bynnag, mae'r Brifysgol wedi ystyried yn ofalus pa addasiadau y gellir eu gwneud i gefnogi myfyrwyr sy'n ymprydio.
Mae'r Brifysgol yn cynnig y cyngor canlynol i fyfyrwyr i'w helpu i gyflawni ar eu gorau wrth astudio yn ystod Ramadan. Mae'n bwysig bod myfyrwyr sy'n cymryd rhan mewn Ramadan yn ystyried yr effaith y gallai ei chael ar eu hastudiaeth. Cynghorir myfyrwyr i ystyried, os ydynt yn ymprydio, y ffordd orau i ofalu amdanynt eu hunain.
Gall y pwyntiau canlynol fod yn ddefnyddiol ar gyfer hyn:
- Meddyliwch ymlaen llaw a chynlluniwch amserlenni i sicrhau bod gennych gydbwysedd gweddïo/gwaith effeithiol. Paratowch y noson gynt trwy ymarfer y diwrnod o'ch blaen yn feddyliol a nodwch feysydd a allai achosi anawsterau. Meddyliwch am ffyrdd i oresgyn yr anawsterau hynny bob dydd.
- Sicrhewch eich bod yn bwyta yn ‘suhur/sehri’ ac yn bwyta bwydydd llawn egni sy’n rhyddhau’n araf. Canolbwyntiwch ar fwydydd sy'n llawn protein a charbohydradau cymhleth, ffrwythau a llysiau, a digon o ddŵr.
- Sicrhewch fod gennych fwyd ar gyfer Iftar. Bwytewch bryd iach, cytbwys gyda digon o ddŵr. Ar hyn o bryd mae'r Tŷ Cwrdd ar agor ac yn darparu prydau poeth ar yr adeg hon trwy gydol Ramadan.
- Cadwch allan o'r haul a chyfyngwch ar weithgarwch corfforol nad sy'n hanfodol.
- Sicrhewch eich bod wedi gorffwys yn dda - gall hyn olygu cael noson gynnar trwy gysgu ar ôl gweddi Isha.
- Os ydych chi'n teimlo'n flinedig neu'n bigog, adnewyddwch eich 'wudu' (defod ymolchi).
Mae’r GIG yn darparu gwybodaeth am gadw’n iach yn ystod Ramadan:
http://www.nhs.uk/Livewell/Healthyramadan/Pages/fastingandhealth.aspx
Cymorth Ychwanegol
- Mae cyfleusterau gweddïo ar gael, a rhoddir cyhoeddusrwydd iddynt, ym mhob campws yn ystod Ramadan;
- Mae cymorth a chyngor gan y Gaplaniaeth ar gael i staff a myfyrwyr ar bob agwedd ar ymarfer eich ffydd wrth astudio yn y Brifysgol.
Vaughan Rees ac Imam Faisal.
Y Gaplaniaeth
[email protected]
01443654060
Gweddi Gyntaf yn y Prynhawn (Dhuhr):
Ar hyn o bryd – Rhwng 12.30pm-2.30pm. Dylai'r weddi gymryd uchafswm o 15 munud a chael ei gwneud unrhyw bryd yn ystod y cyfnod hwn.
Amser Haf Prydain - Rhwng 1:30pm - 3:00pm. Dylai'r weddi gymryd uchafswm o 15 munud a chael ei gwneud unrhyw bryd yn ystod y cyfnod hwn.
Gweddi Hwyr yn y Prynhawn (Asr):
Ar hyn o bryd – Rhwng 3.30pm – 5pm. Dylai'r weddi gymryd uchafswm o 15 munud a chael ei gwneud unrhyw bryd yn ystod y cyfnod hwn.
Amser Haf Prydeinig - Rhwng 5pm-6.15pm. Dylai'r weddi gymryd uchafswm o 15 munud a chael ei gwneud unrhyw bryd yn ystod y cyfnod hwn.
Hwyrol Weddi (Maghrib):
Hwyrol Weddi (Maghrib) (gweler yr amseroedd isod). Yn ystod Ramadan, mae'n bwysig bod myfyrwyr yn rhydd i fynychu'r weddi hon ac am weddill y noson fel y gallant dorri ympryd a mynychu'r Iftar ac yna mynychu Gweddi Taraweeh (amseroedd isod). O ganlyniad, bydd darlithoedd yn y nos yn ystod Ramadan yn broblematig.
Dydd Llun 11 Mawrth (6:14pm)
Sylwch y bydd amseriadau gweddi Maghrib yn newid yn ddyddiol, gan gynyddu 2 funud bob dydd. Dylid gweddïo o fewn y 15 munud cyntaf oherwydd ei amserlen fer. Dyma'r amserau dydd Llun er gwybodaeth:
Dydd Llun 18 Mawrth (6:26pm)
Dydd Llun 25 Mawrth (6:38pm)
AMSER HAF PRYDAIN
Dydd Llun 1 Ebrill (7:49pm)
Dydd Llun 8 Ebrill (8:01pm)
Hwyrol Weddi: Gweddi Isha a Taraweeh
8:00pm am un awr a hanner.
Amser Haf Prydain (yn dechrau 31 Mawrth):
Hwyrol Weddi: Gweddi Isha a Taraweeh
9:00pm am un awr a hanner.