Cyngor i addolwyr

Mae'r Gaplaniaeth i Brifysgol De Cymru yn darparu'r wybodaeth isod yn ddidwyll, ond mae'n cynghori unrhyw un sy'n ymweld â chymuned addoli anghyfarwydd am y tro cyntaf i ddarllen ein Rhybudd Iechyd Crefyddol.

Yr Undeb Cristnogol

Ceir grŵp myfyrwyr Undeb Cristnogol, sy'n cwrdd yn wythnosol ar gampws Trefforest ac o'i amgylch.  Fel grŵp maent yn ceisio cefnogi ei gilydd a datblygu eu ffydd trwy weddi, addoliad ac astudiaeth Feiblaidd. Eu nod yw bod yn dystion ffyddlon i genhadaeth Iesu o rannu newyddion da i'r byd.

Mae'r Undeb Cristnogol yn rhedeg yn annibynnol o Brifysgol De Cymru a bob blwyddyn mae ei haelodau yn ethol Pwyllgor newydd i'w dywys ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol.

Ewch i dudalen Facebook yr Undeb Cristnogol

Y Gymrodoriaeth Gristnogol Tsieineaidd

Ewch i wefan y Gymrodoriaeth Gristnogol Tsieineaidd.

Y Gymdeithas Islamaidd

Ewch i dudalen Facebook y Gymdeithas Islamaidd.

Grwpiau Ffydd Eraill

Mae'r grwpiau canlynol hefyd yn ymgynnull yn Y Tŷ Cwrdd:

  • Wells of Salvation
  • Cymrodoriaeth Christian Heir
  • Believers Love World Campus Ministry

Gellir cael mwy o fanylion am y grwpiau hyn gan y Gaplaniaeth.