Yn anffodus, mae atgyfeiriadau ysgolion cynradd ar gyfer meithrin i Flwyddyn 5 wedi cau dros dro, wrth i ni flaenoriaethu disgyblion cynradd presennol sy'n cael eu cwnsela a'r rhai sydd ar y rhestrau aros. Gall rhieni ac athrawon disgyblion Blwyddyn 6 barhau i atgyfeirio isod. Mae hwn yn fesur dros dro, y byddwn yn ei fonitro'n ofalus a lle rydym yn bwriadu cynnal adolygiad o'r sefyllfa ar ddiwedd yr hanner tymor hwn. 

Os ydych chi'n Rhiant i ddisgybl sy'n byw yng Nghasnewydd, gallwch hefyd gael mynediad at ein gwasanaeth cwnsela i Oedolion trwy'r ddolen hon. 
 
Mewn argyfwng ffoniwch Child-Line ar 0800 1111 neu’r Samariaid ar 116 123. Os hoffech drafod unrhyw un o'r uchod, cysylltwch â'r Rheolwr Gwasanaeth [email protected]

Gall rhieni, gwarcheidwaid a gweithwyr proffesiynol atgyfeirio plentyn at y Parth Siarad drwy ein ffurflen atgyfeirio ar-lein. Pan fydd y ffurflen atgyfeirio wedi'i chyflwyno, caiff ei hanfon yn uniongyrchol at therapydd y Parth Siarad. Yna bydd y therapydd yn asesu'r atgyfeiriad ac yn cysylltu â'r unigolyn sydd wedi gwneud yr atgyfeiriad o fewn 3 diwrnod gwaith. Bydd hyn i gadarnhau bod yr atgyfeiriad wedi’i dderbyn a rhoi amcangyfrif o'r amser aros am apwyntiad cychwynnol.  Cyn gwneud yr atgyfeiriad, sicrhewch eich bod wedi cael trafodaeth gyda'r plentyn a bod y plentyn yn cytuno i'r cwnsela.  

Gall plentyn gael hyd at 9 sesiwn o gwnsela gyda chwnselydd dan oruchwyliaeth yn ystod amser ysgol. Bydd sesiynau'n para tua 40 i 50 munud. Bydd y plentyn yn cael ei annog i weithio trwy ei bryderon gan ddefnyddio amrywiaeth o weithgareddau. Lle bo modd, mae'r broses hefyd yn ceisio cynorthwyo'r plentyn i leddfu gofid, adeiladu ar ei gryfderau ac o bosibl, i ddod o hyd i atebion i'w bryderon. 

Bydd apwyntiadau'n gyfrinachol oni bai ei bod yn dod yn amlwg bod eich plentyn neu rywun arall mewn perygl o niwed sylweddol. Yn yr achos hwn, rhoddir sicrwydd i'ch plentyn y bydd y penderfyniadau gorau yn cael eu gwneud ynghylch ei ddiogelwch neu ddiogelwch eraill. Os oes angen cymorth a chefnogaeth ychwanegol ar eich plentyn, bydd hyn yn cael ei drafod drwy gydol y sesiynau a bydd cyfraniad rhieni'n cael ei annog i ddod o hyd i'r opsiynau gorau i weddu i anghenion unigol y plentyn. Cynhelir pob sesiwn gwnsela mewn ystafelloedd preifat rhwng eich plentyn a'r cwnselydd yn unig. Er mwyn sicrhau bod arfer gorau yn cael ei ddilyn, mae cwnselwyr yn cael goruchwyliaeth glinigol reolaidd a rheolaeth llinell. Mae pob cwnselydd yn cael gwiriad diogelwch manylach blynyddol gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd Llywodraeth y DU.