Find a Room: Hygyrchedd
Datganiad Hygyrchedd: Find a Room
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i:
findaroom.southwales.ac.uk
Mae'r wefan hon yn cael ei rheoli gan Brifysgol De Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb i'r testun fynd tu allan i’r sgrin
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglenni darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Cysylltwch â ni os oes gennych ymholiad am hygyrchedd gan gynnwys:
- Os ydych chi'n cael problemau gyda chyrchu gwybodaeth neu ddefnyddio'r wefan
- Os ydych yn dod o hyd i broblem hygyrchedd nad yw wedi'i rhestru ar y datganiad hwn
- Os oes gennych adborth cadarnhaol ar yr ystyriaethau hygyrchedd a wnaed.
Wrth gysylltu â ni, rhowch:
- Cyfeiriad gwe’r dudalen lle daethoch o hyd i'r broblem.
- Disgrifiad o'r broblem (ac a oedd hyn ar ffôn symudol neu fwrdd gwaith).
- Enw ac, os yn bosibl, fersiwn y porwr gwe sy'n cael ei ddefnyddio.
- Manylion o unrhyw dechnoleg gynorthwyol sy'n cael ei defnyddio (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin).
Ein manylion cyswllt yw:
E-bost: [email protected]
Cysylltu â ni
Rhoi Gwybod i ni am Broblemau Hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd i wella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.
Gweithdrefn Gorfodi
ae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni wyneb yn wyneb
Darganfyddwch sut i gysylltu â ni
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws Cydymffurfio
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1, safon AA, oherwydd yr achosion o ddiffyg cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys Anhygyrch
Rydym yn profi hygyrchedd ein gwefan yn ffurfiol yn rheolaidd yn erbyn safonau WCAG 2.1 AA.
Efallai na fydd rhai rhannau o'r wefan yn gweithio i bawb. Isod dyma faterion hysbys y mae angen i ni naill ai eu trwsio, na allwn eu trwsio, neu nad oes angen i ni eu trwsio ar hyn o bryd. Os dewch o hyd i rywbeth nad yw'n gweithio ac nad yw ar y rhestr, cofiwch gysylltu â ni.
Hygyrchedd Digidol
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth ynghylch hygyrchedd y wefan hon neu ein cyhoeddiadau, neu os ydych chi'n profi unrhyw anhawster, cysylltwch â ni.
[email protected]