Llety Casnewydd

Mae Pentref Myfyrwyr Casnewydd mewn lleoliad godidog, gan edrych dros Afon Wysg, dim ond pum munud ar droed o'r campws. Yn gyfoethog o ran diwylliant, traddodiad ac iaith, mae'r ddinas groesawgar hon yn dathlu cymuned ac amrywiaeth.

Dewisiadau ystafell
Side view of the building entrance to the Newport Student Village

Dinas ar gynnydd

Mae dewis byw yng Nghasnewydd yn golygu y bydd gennych chi rywbeth i'w wneud bob amser. Mae'r ddinas fechan, groesawgar hon yn llawn busnesau newydd a busnesau sy'n tyfu, gan gynnwys ei marchnad dan do boblogaidd, sy’n rhoi teimlad ffres a chyffrous iddi.

Digon i'w weld a'i wneud

O amgueddfeydd a hanes Rhufeinig i wlyptiroedd ysblennydd, mae gan Gasnewydd rywbeth i bawb. Ymlaciwch gyda ffrindiau dros ddiod neu mwynhewch noson allan yn y theatr.

Byth ymhell o'r bwrlwm

Mae ein campws yng nghanol y ddinas, gyda lleoliadau eraill dim ond 30 munud i ffwrdd. Ewch i Gaerdydd am gerddoriaeth fyw neu mwynhewch ddihangfa heddychlon ym Mhontypridd.


student-25

Gwarant Llety

Mae croeso i bawb ym Mhrifysgol De Cymru, ac rydym yn cynnig Llety Gwarantedig i fyfyrwyr newydd sy'n dechrau yn y Brifysgol.


A student sat on beanbags in the accommodation hub.

Canllaw Llety

Mae gan ein Canllaw Llety yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddod o hyd i'ch cartref oddi cartref. O'r gwahanol opsiynau llety ar draws ein lleoliadau i ddarganfod beth sydd angen i chi ei bacio, rydym wedi rhoi sylw i chi.