Llety ar ein Campws Pontypridd
Yma, bydd gennych le i ganolbwyntio a gorwelion i'w harchwilio.
Gweld ein hopsiynau llety Ymweld â ni Archwilio Pontypridd LletyMae cymuned amrywiol a chyfeillgar wrth galon ein campws ym Mhontypridd. Mae popeth sydd angen arnoch yn y dref cymoedd gyfeillgar hon.
Gwarant Llety
Mae croeso i bawb ym Mhrifysgol De Cymru, ac rydym yn cynnig Llety Gwarantedig i fyfyrwyr newydd sy'n dechrau yn y Brifysgol.
LLETY MYFYRWYR YM MONTYPRIDD
Mae gennym amrywiaeth o opsiynau llety a’n nod yw cefnogi eich dewisiadau personol mewn perthynas â hygyrchedd, iaith Gymraeg, un rhyw, di-alcohol a fflatiau tawelYstafelloed Hygyrch
Mae gennym amrywiaeth o ystafelloedd hygyrch, yn Llys Morgannwg a Neuadd y Mynydd, wedi’u dylunio ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn. Os hoffech chi ddod i ymweld â ni ymlaen llaw i gael tawelwch meddwl, cysylltwch â ni.
Cysylltwch â niBywyd Preswylydd
Mae tîm Bywyd Preswylwyr yma i sicrhau eich bod yn cael y profiad myfyriwr gorau posibl. Byddwch yn gallu cymryd rhan mewn dosbarthiadau celf a choginio, gweithdai byw'n iach, a gweithgareddau adloniant.
Canllaw Llety
Mae ein Canllaw Llety yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddod o hyd i'ch cartref oddi cartref. O'r opsiynau llety amrywiol ar draws ein lleoliadau i ddarganfod beth sydd angen i chi ei bacio, mae'r holl wybodaeth yma i chi. Mae eich arian yn mynd ymhellach yma hefyd. Rydym yn falch o fod yn un o ddarparwyr llety prifysgol mwyaf cystadleuol o ran pris yn Ne-orllewin Lloegr a Chymru.
Gweld neu lawrlwytho'r canllaw