Rhaglen Bywyd Preswyl
Mae’r tîm Bywyd Preswylwyr yma i sicrhau eich bod yn cael y profiad myfyriwr gorau posibl a’ch ysbrydoli i wneud y gorau o’ch amser yma ym Mhrifysgol De Cymru.
Archwilio Pontypridd Llety Pontypridd/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/02-accommodation/23-pontypridd-accommodation/accommodation-kitchen.png)
Mae llawer o bethau’n digwydd – o ddosbarthiadau celf i weithdai byw’n iach.
Wrth fyw mewn neuaddau preswyl ar gampws Trefforest PDC, byddwch yn rhan o gymuned gefnogol sy'n croesawu pawb. Mae PDC wedi datblygu ei rhaglen Bywyd Preswyl ei hun sy'n anelu at roi cyfleoedd i breswylwyr dyfu, cysylltu a datblygu ystod o sgiliau yn ystod eu hamser yn y neuaddau preswyl. Mae'r tîm Bywyd Preswyl yma i sicrhau eich bod yn cael y profiad myfyrwyr gorau posibl ac i’ch ysbrydoli i wneud y gorau o'ch amser yma yn PDC.
Mae'r tîm yn ymroddedig i wneud y newid i fywyd prifysgol mor hwyliog a rhwydd â phosibl i chi, wrth eich helpu i greu perthnasoedd cadarnhaol gyda'ch cyd-fyfyrwyr wrth ddysgu rhywbeth newydd ar hyd y ffordd.
Ynghyd â'r tîm Bywyd Preswyl, byddwch hefyd yn cael mynediad i ardal gymdeithasol ddynodedig, Yr Hwb, lle mae llawer o'r gweithgareddau Bywyd Preswyl yn cael eu cynnal a lle gallwch ddod i gymdeithasu gyda'ch cyd-letywyr a phreswylwyr eraill y neuaddau.
Mae'r math o ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal fel rhan o raglen Bywyd Preswyl yn cynnwys dosbarthiadau coginio, celf a chrefft, gweithgareddau diwylliannol, gweithdai byw'n iach, gemau a gweithgareddau adloniant, sy'n anelu at wella eich profiad yn ystod eich amser yn neuaddau preswyl y myfyrwyr.
Rydym hefyd yn darparu sesiynau galw heibio rheolaidd lle gall myfyrwyr ddod i siarad â'r tîm am unrhyw beth y maent yn poeni amdano, unrhyw broblem sydd ganddynt wrth fyw yn y neuaddau preswyl neu gyda'u profiad prifysgol ehangach.
Y tîm bywyd preswyl
Caiff eich rhaglen ResiLife ei rheoli gan eich Cydlynydd Bywyd Preswyl, ynghyd â'r pwyllgor cymdeithasol a fydd yn trefnu a chynnal gweithgareddau ac yn rhoi cyngor a chymorth i chi.
Rydym bob amser yn ceisio datblygu ac ehangu ein rhaglen felly os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer digwyddiad, cysylltwch â'ch Cydlynydd yn [email protected] gan ein bod bob amser yn hapus i glywed eich adborth a'ch awgrymiadau.