Myfyrwyr PDC yng Ngrŵp Colegau NPTC
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/09-logos/logo-nptc-1-1340X584.jpg)
Dylai'r dudalen hon ddarparu'r holl ddolenni sydd eu hangen arnoch ar gyfer Prifysgol De Cymru a'ch Coleg Partner. Mae hefyd yn rhestru cyfrifoldebau a chysylltiadau'r ddau sefydliad.
PDC
UniLearn (Blackboard)
Amgylchedd Dysgu Rhithwir PDC.
Llyfrgell PDC
Cyrchwch Adnoddau Llyfrgell PDC.
Cyfeirnodi
Mae'r rhan fwyaf o gyrsiau PDC yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr ddefnyddio Arddull Cyfeirnodi Harvard. Sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â'r Canllawiau Cyfeirnodi ar gyfer eich cwrs.
Ymrestru gyda PDC
Rhaid i bob myfyriwr PDC ymrestru (cofrestru) gyda Phrifysgol De Cymru. Gallwch wneud hyn ar-lein.
Canlyniadau Diwedd Blwyddyn
Bydd angen eich rhif adnabod myfyriwr PDC a'ch cyfrinair PDC arnoch i gael mynediad i'ch canlyniadau.
Amgylchiadau Esgusodol
Os yw rhywbeth annisgwyl yn effeithio ar eich gallu i lwyddo mewn asesiad, gallwch wneud cais am amgylchiadau esgusodol.
Apeliadau Academaidd
Os ydych chi'n credu bod rhywun wedi gwneud gwall gyda’r marc a gofnodwyd ar gyfer eich gwaith, neu os bu afreoleidd-dra yn y cyfarwyddiadau ysgrifenedig neu’r dull o drin arholiadau, gallwch wneud Apêl Academaidd.
Gwaith Achos Myfyrwyr
Canllaw cryno i reoliadau a gweithdrefnau’r brifysgol ar gyfer gwaith achos myfyrwyr.
Ardaloedd Cynghori PDC
Gall Ardaloedd Cynghori PDC helpu gydag ymholiadau am apeliadau, amgylchiadau esgusodol a materion academaidd eraill.
Gyrfaoedd PDC
Gallwch gyrchu amrywiaeth lawn o wasanaethau a chefnogaeth gyrfaoedd.
Adnoddau Sgiliau Astudio
Cyrchwch ganllawiau ac adnoddau Sgiliau Astudio PDC. I gael cymorth sgiliau astudio gyda thiwtor, cysylltwch â'ch coleg.
Rheoliadau a Pholisïau PDC
Mae rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau PDC yn nodi'r rheolau a'r disgwyliadau y mae disgwyl i'r Brifysgol a'i myfyrwyr gadw atynt.
Ailosod eich cyfrinair PDC
Os ydych wedi anghofio'ch cyfrinair, neu os yw wedi dod i ben, gallwch ei ailosod ar-lein.
Eich Cyfrif E-bost PDC
Fel myfyriwr PDC, mae gennych gyfrif Office 365 sy'n cynnwys Outlook Mail, Calendr Outlook, storfa ar-lein OneDrive, rhaglenni Office a mwy.
Graddio PDC
Darganfyddwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am ein Seremonïau Graddio.
PDC
Undeb Myfyrwyr PDC
Mae Undeb y Myfyrwyr yno i gynrychioli eich buddiannau.
Cynrychiolwyr Cwrs
Canllawiau Undeb Myfyrwyr PDC ar gyfer Cynrychiolwyr Cwrs.
PDC – Ein Cyfrifoldebau
Fel myfyriwr ar un o'n cyrsiau, dyma beth fyddwn ni'n ei wneud i chi:
- Ni sy’n achredu eich cwrs, felly mae ein polisïau academaidd yn berthnasol. Mae hynny'n cynnwys:
- Amgylchiadau Esgusodol a pholisi Addasrwydd i Sefyll
- Torri ar draws Astudiaethau
- Cwynion ac apeliadau academaidd
- Mae PDC yn delio â sicrhau ansawdd y cwrs, ac yn delio ag ail farcio, arholwyr allanol a byrddau dyfarnu (sy'n pennu graddau terfynol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd).
- Gallwch gyrchu adnoddau ein llyfrgell.
- Mae gan bob myfyriwr cofrestredig gyfrif TG PDC. Mae hyn yn cynnwys cyfeiriad e-bost myfyriwr a storfa cwmwl trwy Microsoft 365.
- Rheolir eich canlyniadau diwedd blwyddyn gennym ni.
- Pan fyddwch wedi cwblhau eich astudiaethau, gallwch raddio yn un o'n seremonïau graddio
Grŵp Colegau NPTC- Ein Cyfrifoldebau
Cyfrifoldebau’r Coleg yw:
- Recriwtio myfyrwyr yn unol â pholisi derbyn y Coleg a manyleb y rhaglen.
- Cofrestru myfyrwyr yn y Colegau a chyfeirio cofrestriadau gyda'r Brifysgol.
- Ymgymryd â'r addysgu a'r dysgu ar y rhaglenni.
- Bod y cyntaf i farcio gwaith myfyrwyr.
- Rhoi adborth i fyfyrwyr ar eu Gwaith.
- Darparu mynediad at adnoddau llyfrgell a TG drwy Lyfrgell y Coleg a’r Ganolfan Adnoddau Dysgu.
- Hwyluso mynediad i adnoddau VLE Prifysgol De Cymru, UniLife ac adnoddau’r brifysgol.
- Delio â chwynion nad ydynt yn academaidd eu natur.
- Cynghori, arwain a chefnogi myfyrwyr drwy diwtorialau, Cymorth Sgiliau Astudio a / neu'r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr.
- Casglu ffioedd dysgu sy'n gysylltiedig â'r rhaglen.
- Cadarnhau eich cofrestriad a'ch presenoldeb gyda'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr.
Cysylltiadau
PDC: E-bostiwch [email protected]
Coleg Partner: Oes gennych chi unrhyw gwestiwn am wasanaethau Grŵp Colegau NPTC? Gofynnwch i'ch Tiwtoriaid Rhaglen a byddant yn eich cynghori! Gallwch ddod o hyd i'w manylion cyswllt ar y dudalen ‘Ynglŷn â’ch cwrs’.