Mynediad a Newidiadau i Gyfrif TG
Wedi anghofio eich cyfrinair neu eisiau gwneud eich cyfrif yn fwy diogel. Beth bynnag y rheswm, mae creu cyfrinair newydd yn syml.
Sefydlu Dilysu Aml-Ffactor (MFA)
Rydym wedi cynyddu diogelwch ar eich cyfrif TG myfyriwr PDC. Mae hyn yn cynnwys galluogi Ailosod Cyfrinair Hunanwasanaeth (SSPR) a Dilysiad Aml-Ffactor (MFA) gan ddarparu amddiffyniad ychwanegol i'ch cyfrif TG a data personol rhag ymdrechion gwe-rwydo a bygythiadau seiber.
Ar ôl i chi dderbyn eich e-bost cofrestru, gall gymryd hyd at 48 awr i’r e-bost sy’n cynnwys manylion eich cyfrif TG Prifysgol gael ei anfon.
Bydd e-bost manylion eich cyfrif yn cael ei anfon o [email protected]. Gwiriwch eich ffolder Sothach neu Sbam os na allwch ei weld yn eich blwch derbyn.
Os nad ydych wedi derbyn yr e-bost hwn ar ôl 48 awr, cysylltwch â thîm cymorth cofrestru’r Gofrestrfa Academaidd, a fydd yn gallu gwirio eich Cofnod Myfyriwr:
E-bost: [email protected]
Ffôn Cofrestru: 01443 483348 (dewiswch yr opsiwn am gymorth gyda chofrestru ar-lein)
Os ydych wedi derbyn eich e-bost cyfrif TG ond yn cael problemau gyda’ch cyfrinair dros dro, cysylltwch â Cymorth TG a bydd aelod o’r tîm yn hapus i’ch cynorthwyo.
Os ydych wedi astudio gyda ni o’r blaen, bydd eich cyfeiriad e-bost prifysgol yn aros yr un fath. Fodd bynnag, byddwch yn dal i gael e-bost sefydlu cyfrif TG gan [email protected]. Gwiriwch eich ffolder Sothach neu Sbam os na allwch ei weld yn eich blwch derbyn.
Os nad ydych wedi derbyn yr e-bost sefydlu cyfrif TG hwn 48 awr ar ôl eich e-bost cofrestru, cysylltwch â thîm cymorth cofrestru’r Gofrestrfa Academaidd, a fydd yn gallu gwirio eich Cofnod Myfyriwr:
E-bost: [email protected]
Ffôn Cofrestru: 01443 483348 (dewiswch yr opsiwn am gymorth gyda chofrestru ar-lein)
Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair, cyfeiriwch at yr adran 'Sut ydw i’n ailosod fy nghyfrinair?' ymhellach i lawr y dudalen hon. Gallwch hefyd ddod o hyd i arweiniad ar ddiweddaru eich manylion MFA, gan gynnwys beth i’w wneud os ydych wedi newid eich dyfais symudol neu’ch rhif ffôn.
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, cysylltwch â Cymorth TG a bydd aelod o’r tîm yn hapus i’ch cynorthwyo.
I gael mynediad parhaus at eich rhaglenni, apwyntiadau a chyfrifon PDC, RHAID i chi gwblhau gweithdrefn sefydlu untro.
Bydd y broses sefydlu untro hon yn cychwyn yn awtomatig pan fyddwch yn mewngofnodi i'ch cyfrif neu unrhyw raglenni Microsoft am y tro cyntaf.
Mae hyn yn holl bwysig ac ni fydd unrhyw un o'r prosesau eraill a ddisgrifir yma ar gael nes bod y broses gofrestru hon wedi'i chwblhau.
Cliciwch yma i Ysgogi Eich Cyfrif
Bydd angen i chi ddefnyddio'ch cyfeiriad e-bost a'ch cyfrinair dros dro a ddarparwyd yn eich e-bost ymrestru.
Cyfeiriad e-bost: [email protected]
Cyfrinair: (Bydd hwn yn cynnwys 16 nod os nad ydych wedi’i osod o'r blaen)
Mae Dilysu Aml-Ffactor (MFA) yn cryfhau diogelwch mewngofnodi trwy ofyn am ail ddarn o wybodaeth ar ben eich cyfrinair. Mae hwn fel arfer yn god dros dro a anfonir i'ch dyfais, sy'n cael ei nodi wedyn pan fyddwch yn mewngofnodi i gadarnhau mai chi yw'r person sy'n mewngofnodi.
Mae'r rhan fwyaf o gyfrifon banc, e-bost a chyfryngau cymdeithasol ar-lein bellach yn cynnig Dilysiad Aml-Ffactor fel amddiffyniad ychwanegol ar gyfer eich cyfrifon a diogelwch data.
Mae'r weithdrefn sefydlu yn cynnwys ychwanegu dau o'r canlynol: eich rhif ffôn symudol, cyfeiriad e-bost personol neu gwblhau set o gwestiynau diogelwch.
Gellir cwblhau’r broses sefydlu MFA ar unrhyw ddyfais ond argymhellwn eich bod yn defnyddio naill ai ap Microsoft Authentication neu Google Authenticator, sydd i'w gael yn eich siop apiau symudol.
Eich cyfrinair:
- Rhaid iddo gynnwys 16 nod
- Rhaid cynnwys priflythrennau a llythrennau bach ac o leiaf un rhif
- NI ddylai fod yn gyfrinair cyfrif prifysgol diweddar
Os ydych chi'n cael problemau mewngofnodi cysylltwch â'r tîm cymorth TG.
Wrth ddefnyddio systemau a dyfeisiau'r Brifysgol, chi sy'n gyfrifol am bopeth sy'n digwydd tra byddwch wedi mewngofnodi. Mae hynny'n golygu na ddylech adael cyfrifiadur personol wedi'i fewngofnodi wrth adael y ddesg. Mae hefyd yn golygu bod yn rhaid i chi ddewis cyfrineiriau diogel a'u newid yn rheolaidd.
Dyma ychydig o gyngor da ar y pethau i'w gwneud a'r pethau na ddylid eu gwneud o ran dewis cyfrinair.
Y pethau i’w gwneud
- Argymhellir eich bod yn defnyddio ymadroddion cofiadwy i'ch helpu i gofio'ch cyfrinair. Er enghraifft, mae “Enw morwynol fy mam yw Zebedee mae hi’n 91” yn cynhyrchu “EmfmyZmh91” (Sylwer: Ni ddylid defnyddio’r enghraifft ddilys hon, mae er gwybodaeth yn unig.)
- Argymhellir defnyddio o leiaf dau rif mewn cyfrinair
- Pan fyddwch yn newid eich cyfrinair cydnabyddir y gall hyn gael ei wneud ar frys a'ch arwain at ddewis cyfrineiriau ansicr. Awgrymir bod defnyddio ymadrodd cofiadwy gyda rhifau yn eich galluogi i newid un elfen e.e. y rhif, gan gadw gweddill y cyfrinair yn gyfan a'i wneud yn symlach i'w gofio. Dylech nodi bod y dull hwn ychydig yn llai sicr na dewis ymadrodd cofiadwy hollol wahanol.
Y pethau na ddylid eu gwneud
- Peidiwch â defnyddio geiriau o’r geiriadur
- Peidiwch â defnyddio amnewidiadau o eiriau a rhifau o’r geiriadur
- Peidiwch â defnyddio enwau sy'n gysylltiedig â'ch amgylchiadau
- Peidiwch byth ag ysgrifennu eich cyfrinair ar bapur
- Peidiwch â dewis ymadroddion adnabyddus ar gyfer eich ymadrodd cofiadwy
Os ydych chi wedi sefydlu MFA a’ch bod wedi anghofio'ch cyfrinair, adferwch eich cyfrif trwy fynd i'n canllaw ar Ailosod eich cyfrinair.
Gwyliwch y fideo: Diweddaru eich Dilysiad Aml-Ffactor (MFA)
Cyn cael gwared ar eich hen ffôn, bydd angen i chi ei ddefnyddio i ddilysu mynediad i'ch Tudalen diogelwch Microsoft.
Ynghyd â phrifysgolion eraill, rydym wedi sylwi ar fygythiad cynyddol gan ymdrechion gwe-rwydo ac ymosodiadau seiber. Mae cyflwyno MFA yn rhan o fenter i fynd i’r afael â’r materion hyn ac i’ch helpu i ddiogelu mynediad i’ch cyfrifon a data.
Oes, rydym yn eich cynghori i newid eich trefniant MFA a derbyn eich cod drwy ap Microsoft Authenticator, o leiaf am y cyfnod o amser rydych i ffwrdd.
Oes. Dilynwch y broses a argymhellir gennym i sefydlu MFA gan ddefnyddio ap Microsoft Authenticator. Yn lle dewis 'defnyddio cod dilysu’ (use verification code), dewiswch 'derbyn hysbysiadau ar gyfer dilysu’ (receive notifications for verification). Y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw tapio 'cymeradwyo' (approve) pan ddaw'r cais dilysu drwodd i'ch ap, yn hytrach na theipio cod.
Os ydych chi'n cael trafferth cael mynediad i'ch cyfrif Prifysgol, efallai y bydd y camau ar ein tudalen gwe ‘datrys problemau’ yn eich cynorthwyo i fewngofnodi eto.
Pan fyddwch yn gadael Prifysgol De Cymru, bydd eich cyfrif TG PDC yn cael ei ddad-ysgogi.
Os ydych yn gadael oherwydd eich bod yn graddio, bydd eich cyfrif yn cael ei ddad-ysgogi 120 diwrnod ar ôl dyddiad gorffen eich cwrs. Os byddwch yn gadael am unrhyw reswm arall, mae’n bosib y bydd eich cyfrif yn cael ei ddad-ysgogi'n gynt neu'n syth.
Bydd hyn yn effeithio ar eich gallu i gael mynediad at lawer o wasanaethau PDC a gall hefyd arwain at ganlyniadau sy'n cynnwys gwasanaethau trydydd parti.
Er mwyn lleihau problemau posibl, ystyriwch yn ofalus eich defnydd o'ch cyfrif TG PDC cyn iddo gau, a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol tra bod gennych fynediad i'ch cyfrif o hyd.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am faterion nad ydynt wedi'u rhestru yma neu ar ein tudalen statws, gallwch gysylltu â’r Tîm Cymorth TG
Darllenwch ein Polisïau a Rheoliadau TG Cyfredol