Ynni
Mae lleihau ynni yn gost effeithiol ac yn dda i'r blaned
Er efallai nad dyma'r amser i newid darparwyr ynni, nid yw hynny'n golygu na fydd newidiadau bach yn gwneud gwahaniaeth mawr.
- Edrychwch ar ystod o adnoddau’r Arbenigwr Arbed Arian ynglŷn â lleihau costau ynni
- Mae gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni gyngor gwych ar effeithlonrwydd ynni wrth rentu cartref
- Mae Myfyrwyr yn Diffodd UCM yn cynnwys amrywiaeth o awgrymiadau i'r rhai sy'n byw mewn llety rhent
- Dadmerwch eich rhewgell – maent yn fwy effeithlon pan nad oes gormod o rew
- Mae gan Students Organising for Sustainability gyngor ymarferol iawn i fyfyrwyr sy'n rhentu
- Mae gan Achub y Myfyriwr awgrymiadau gwych ar gyfer arbed arian ar filiau ynni
Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi datgelu cymorth ariannol yn ddiweddar i helpu gyda chostau ynni cynyddol ac efallai y bydd grantiau i wneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni.
Os ydych chi’n dal i gael trafferth, cysylltwch â’ch darparwr i drafod eich sefyllfa a gweld a oes unrhyw gymorth ychwanegol y gallwch wneud cais amdano:
- Cynlluniau cymorth ariannol SSE | Cymorth y DU gyda Biliau
- Ymddiriedolaeth Ynni Nwy Prydain - Cyngor a chefnogaeth annibynnol - Nwy Prydain
- Cronfa Cymorth Cwsmeriaid EDF
Gallwch hefyd drefnu apwyntiad gyda chynghorydd i drafod eich sefyllfa ariannol.