Cysylltwch â'r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr
Cysylltwch â ni am gyngor ar arian
Archebwch Apwyntiad
Gwiriwch ein hargaeledd ac archebwch o ddydd Llun i ddydd Gwener 10am-4pm
- Mae apwyntiadau yn 30 munud.
- Rydym yn cadw rhai apwyntiadau yn ôl i'w harchebu bob dydd (o 9am).
- Mae apwyntiadau ar gael yn bersonol, trwy Teams neu dros y ffôn.
- Gall galwadau ddod o rif sydd wedi’i ‘atal’, felly gwnewch yn siŵr y bydd eich gosodiadau ffôn yn eu derbyn a rhowch rif cyswllt yn y nodiadau.
- Sicrhewch fod eich gwaith papur Cyllid Myfyrwyr neu eich rhif cyfeirnod cwsmer yn barod – gyda chyfrineiriau ac atebion cyfrinachol, er mwyn gallu cael mynediad i'ch cyfrif cyllid myfyrwyr ar-lein.
Sylwch efallai y bydd angen i chi hefyd sefydlu 'hawl i rannu' ar eich cyfrif cyllid myfyrwyr, fel y gallwn siarad â'ch darparwr i helpu i ddatrys problemau, heb i chi fod yn bresennol.
Os oes angen help arnoch i lenwi ffurflen Cronfa Cymorth i Fyfyrwyr, byddai’n fuddiol petaech wedi llenwi’r hyn a allwch o’r ffurflen a bod gennych eich holl waith papur perthnasol – megis:
- Gwybodaeth Cyllid Myfyrwyr.
- cyfriflenni banc 2 fis cyfredol ar gyfer pob cyfrif sydd gennych chi (a'ch partner, os ydych yn byw fel cwpl) yn eich enw(au).
- unrhyw wybodaeth ychwanegol y gofynnir amdani ar restr wirio'r ffurflen.
Cysylltu
Ymholiadau cyffredinol
01443 483778 (Dydd Llun i ddydd Gwener 9am-canol dydd)
[email protected]
Ysgoloriaethau
[email protected]
Cronfa Cymorth i Fyfyrwyr
[email protected]
Ardal Gynghori Ar-lein
Ardal Gynghori Ar-lein