Cymorth Ariannol
Cymorth i fyfyrwyr sy'n profi anawsterau ariannol.
Os hoffech chi gael cyngor ynglŷn ag a ydych chi’n gymwys, neu os hoffech chi drafod eich sefyllfa fel myfyriwr o’r Deyrnas Unedig neu fyfyriwr rhyngwladol, gwnewch apwyntiad gyda chynghorydd.
Efallai y bydd y tudalennau hyn hefyd yn ddefnyddiol i chi:
Sut i reoli eich arian
Cymorth costau byw
Myfyrwyr o’r DU
Gall y Gronfa Cymorth Myfyrwyr gynnig cymorth i fyfyrwyr o’r Deyrnas Unedig sy'n profi anawsterau ariannol. Nid yw wedi'i warantu ar gyfer unrhyw flwyddyn benodol nac am flwyddyn academaidd yn gyfan, ond os ydych chi'n profi anawsterau ariannol, gallwch wneud cais.
Caiff myfyrwyr sy'n cael problemau gyda'u cyllid statudol i fyfyrwyr – e.e. Cyllid Myfyrwyr neu'r GIG nad ydyn nhw wedi derbyn y taliad cyntaf ac sydd mewn caledi uniongyrchol o ganlyniad – eu cynghori i wneud apwyntiad gyda Chynghorydd Arian a Chymorth.
Rydym yn cynnig cymorth i Unigolion sy'n Gadael Gofal, os ydych chi wedi rhoi gwybod i ni eich bod chi'n Gadael Gofal, fe wnawn ni roi gwybod i chi sut i wneud cais am y fwrsariaeth.
Rydym yn cynnig cymorth i fyfyrwyr sy'n ofalwyr ac sydd angen cymorth ariannol. Rydym yn cydnabod bod gofalu yn aml yn achosi goblygiadau ariannol (er enghraifft, llai o amser ar gael i weithio am dâl a chostau teithio uwch). Os cawsoch chi’r Fwrsariaeth Gofalwyr y llynedd, bydd ffurflen wahanol yn cael ei hanfon atoch yn awtomatig.
Rydym yn cynnig cymorth i fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu rhieni neu sy'n ymddieithrio yn ystod eu hastudiaethau. Os cawsoch chi’r Fwrsariaeth Ymddieithrio y llynedd, bydd ffurflen wahanol yn cael ei hanfon atoch yn awtomatig.
Myfyrwyr Rhyngwladol
Gall Cronfa Argyfwng Myfyrwyr Rhyngwladol ddarparu cymorth dewisol i fyfyrwyr rhyngwladol cymwys sy'n astudio ar gampws PDC ac sy’n wynebu caledi ariannol oherwydd amgylchiadau annisgwyl sylweddol. Nid yw'r gronfa hon ar gael ar gyfer caledi oherwydd diffyg incwm.
Pob Myfyriwr
Mae'r cynllun bellach wedi cau i fyfyrwyr sy'n dechrau eu hastudiaethau ym Medi 2025.
Mae PDC yn cynnig cynllun gliniaduron i gynorthwyo myfyrwyr newydd israddedig ac ôl-raddedig amser llawn a fydd yn astudio ar gampws PDC am y tro cyntaf ym mlwyddyn academaidd 2025/26.
Mae'r Gronfa Caledi Digidol wedi'i dylunio i helpu myfyrwyr sy'n profi caledi ariannol ac na allan nhw fforddio prynu gliniadur.