‘Hoffwn i fod yn gwisgo hidlydd nawr’: pam fod y cyn-lasoed angen mwy o gymorth emosiynol i ymdrin â chyfryngau cymdeithasol
10 Rhagfyr, 2020
Claire Pescott, Uwch Ddarlithydd Addysg, Prifysgol De Cymru
Mae llawer o blant wyth i 12 oed nawr yn ddefnyddwyr mawr o gyfryngau cymdeithasol megis Instagram a Snapchat – er bod y rhan fwyaf o blatfformau’n disgwyl i ddefnyddwyr fod yn 13 neu’n hŷn. Serch hynny, mae’r pryder am ddefnydd pobl ifanc o gyfryngau cymdeithasol yn dueddol o ganolbwyntio ar bobl hŷn yn eu harddegau neu oedolion ifanc – yn hytrach na’r grŵp cyn eu harddegau neu “cyn-lasoed” – ac mae’n canolbwyntio’n ar faterion penodol megis seiberfwlio neu secstio.
Gwnaeth fy ymchwil newydd archwilio canfyddiad y cyn-lasoed o gyfryngau cymdeithasol a’r materion sy’n eu hwynebu wrth ymgysylltu â’r platfformau hyn. Mae’n datgelu, er bod plant yn ymwybodol o beryglon megis ysglyfaethwyr ar-lein, gall yr hyn mae rhieni ac ysgolion yn dysgu i’r cyn-lasoed anwybyddu effaith emosiynol cyfryngau cymdeithasol.
Hunaniaeth ar-lein
Mae’r oedran rhwng wyth a 12 oed yn gyfnod allweddol i ddatblygiad cymdeithasol ac emosiynol i blant. Yn y cyfnod hwn, maent yn dechrau chwilio am rwydweithiau cymdeithasol y tu hwnt i’w rhieni, gyda mwy o bwrpas a phwysigrwydd i berthnasoedd cymheiriaid.
Wrth iddynt ddechrau chwilio’u ffordd drwy’r byd digidol, cymdeithasol, mae’r cyn-lasoed yn dechrau creu eu hunaniaeth ar-lein ac maent yn agored i amgylchiadau gwahanol i’r rhai y maent yn debygol o ddod ar eu traws wrth gymdeithasu mewn bywyd go iawn. Efallai na fydd ganddynt arweiniad yn y maes hwn. Nid yw rhieni ac athrawon bob amser yn “frodorion digidol” ac efallai nad ydynt yn gyffyrddus ac yn hyderus wrth chwilio’u ffordd drwy’r byd ar-lein. Gall hyn olygu nad ydynt yn gymwys i ddiogelu gweithgaredd digidol y cyn-lasoed.
Digwyddodd fy ymchwil mewn pedair ysgol gynradd yn ardal de Cymru, gyda phlant deg ac 11 oed. O’r 40 plentyn oedd yn ymwneud â’m hastudiaeth, nododd 38 fod ganddynt gyfrifon cyfryngau cymdeithasol, sy’n awgrymu efallai fod y niferoedd o blant cyn-lasoed sy’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn uwch na’r hyn a dybiwyd cyn hynny. Er enghraifft, roedd adroddiad am ymchwil Ofcom a wnaed yn 2019 yn nodi mai ond 21% o blant wyth i 11 oed oedd gan broffil ar gyfryngau cymdeithasol.
Rhannwyd y plant i wyth grŵp ffocws gyda phum plentyn ymhob un. Defnyddiais amrywiaeth o weithgareddau rhyngweithiol i ysgogi trafodaeth. Roedd pob grŵp yn hyderus wrth ddiffinio beth yw cyfryngau cymdeithasol: cafwyd atebion tebyg gan lawer megis “yn dechnegol rydych yn cyfathrebu gyda phobl eraill” ac “achos chi’n gallu siarad arno fe”.
Bu’r plant yn trafod y defnydd o emojis i gyfathrebu ar-lein, ac roeddent yn ymwybodol y gallai defnyddio’r symbolau hyn achosi problemau. Dywedodd un cyfrannwr: “Gallant fod yn dwyllodrus am nad ydych wastad yn gweld wyneb rhywun a dydych chi ddim yn gweld sut maen nhw’n teimlo.”
Siaradodd eraill am emojis aubergine ac eirin gwlanog yn cael eu defnyddio fel symbolau anweddus, ac roeddent yn ymwybodol nad oedd y rhain yn addas ar gyfer eu hoedran. Gallai hyn awgrymu eu bod yn ymgysylltu mewn mannau, ac yn cael sgyrsiau, a allai fod yn anaddas ar eu cyfer.
Dangosodd yr astudiaeth hefyd fod rhieni ac athrawon wedi llwyddo i drosglwyddo negeseuon am e-ddiogelwch i’r cyn-lasoed, yn arbennig ynghylch risgiau hysbys fel ysglyfaethwyr ar-lein.
Mewn chwech o’r wyth grŵp ffocws, cyfeiriodd y plant yn benodol at “gynnig abwyd (catfishing)” – hudo rhywun i berthynas drwy bersona ffug ar-lein. “Gallai dyn 70 oed fynd a chael cyfrif fel pe bai’n 15,” eglurodd un cyfrannwr.
Ymwybyddiaeth o niwed
Roedd y plant yn gallu siarad am amrywiol strategaethau roeddent yn eu defnyddio i amddiffyn eu hunain ar-lein. Roedd y rhain yn cynnwys gosodiadau preifatrwydd, peidio cael tynnu’u llun yn gwisgo gwisg ysgol, bod yn ffrindiau yn unig gyda phobl roeddent yn eu hadnabod mewn bywyd go iawn a defnyddio “modd rhith (ghost mode)” ar Snapchat – gan ddiffodd dangosydd eu lleoliad.
Siaradodd rhai plant am eu rhieni’n cadw llygad ar eu defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol drwy fod yn ffrindiau gyda nhw ar apiau cyfryngau cymdeithasol, neu drwy wirio eu negeseuon preifat.
Serch hynny, roedd y canlyniadau oedd yn achosi’r pryder mwyaf yn yr ymchwil hwn yn ymwneud â’r trafodaethau ynghylch y defnydd o hidlyddion Snapchat – troshaenau digidol dros ffotograffau. Roedd rhaniad amlwg ar sail rhyw. Roedd bechgyn yn trafod y modd roeddent yn defnyddio hidlyddion i gael hwyl ac adloniant, tra bo’r merched mewn saith o’r wyth grŵp ffocws yn gwneud sylwadau fod hidlyddion Snapchat yn cael eu defnyddio’n aml i “wneud i chi edrych yn dlysach” ac i wella’ch pryd a gwedd.
Soniodd y cyn-lasoed am ddefnyddio hidlyddion i gyfuchlinio a gwneud esgyrn eich bochau’n fwy amlwg, yn ogystal â gwneud eich croen i’w weld yn berffaith. Dywedodd un plentyn nad yn unig er mwyn eich teimlad o hunan-werth y byddech yn newid eich pryd a gwedd, ond “i wneud pobl i gymryd diddordeb ynddynt”, sy’n dangos fod poblogrwydd ar-lein yn ymwneud â phryd a gwedd yn hytrach na phersonoliaeth. “Hoffwn i fod yn gwisgo hidlydd nawr,” meddai un ferch.
Fe wnaeth y merched yn yr astudiaeth ddangos ymwybyddiaeth o faterion ynghylch delweddau o’r corff gan gydnabod y gallai’r rhain wneud drwg i’w hunan-barch. Er hynny, mae gwersi yn yr ysgol yn dueddol o ganolbwyntio ar risg corfforol wrth sôn am e-ddiogelwch yn hytrach na materion emosiynol.
Mae’n amlwg fod rhai negeseuon am ddiogelwch y cyfryngau cymdeithasol yn cyrraedd y cyn-lasoed. Serch hynny, gall cymdeithasu mewn byd digidol fod yn beryglus mewn nifer o ffyrdd – ac mae’n bosibl fod gwybodaeth am bynciau sy’n effeithio ar blant yn cael ei anwybyddu. Yn benodol, gall ffotograffau sydd wedi’u newid ddylanwadu ar y modd y mae plant yn ystyried eu hunain a gall hyn gael effaith ar ddelwedd eu corff.
Mae fy ymchwil yn awgrymu fod angen i blant ysgolion cynradd gael eu dysgu am ddiogelwch emosiynol wrth ymwneud â’r cyfryngau cymdeithasol. A bod angen i safbwyntiau plant gael eu cynnwys yn y cwricwlwm digidol, er mwyn iddo ganolbwyntio ar y materion sydd wirioneddol yn eu heffeithio ac nid y rhai y mae oedolion yn credu sydd bwysicaf.
Mae'r erthygl hon wedi'i hailgyhoeddi o ‘The Conversation’ o dan drwydded Comin Creu. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.