Llenwi'r mudandod: cynhadledd yn ail-ddychmygu hanesion diwylliant Cymru
29 Hydref, 2021
Sut mae ffuglen hanesyddol wedi llunio'r ffordd rydyn ni'n meddwl am ein hunaniaeth genedlaethol? Nod cynhadledd dan arweiniad Prifysgol De Cymru (PDC) yw archwilio hynny, gyda chymorth y nofelwyr Cymreig amlwg Catrin Collier ac Angharad Tomos.
Cynhelir y digwyddiad ar-lein, o'r enw Dychmygu Hanes: Cymru mewn Ffuglen aFfaith, ar 12 a 13 Tachwedd a bydd yn archwilio rhai o'r naratif hanesyddol, p'un a yw'n ffuglen, ffilmiau neu raglenni teledu, yn seiliedig ar 'ffaith', sydd wedi llunio barn ar Gymru a'i chymunedau - ond sydd yn aml yn rhannol, yn ddarniog neu'n cael eu hystumio gan fuddiannau breintiedig penodol.
Fel rhan o'r prif drafodaethau panel, bydd y nofelydd Catrin Collier, a anwyd ym Mhontypridd, sy'n adnabyddus am ei gweithiau hanesyddol, yn archwilio stori John Hughes, a anwyd ym Merthyr, a'r ddinas a sefydlodd yn yr Wcrain, a ysbrydolodd ei thrioleg, The Tsar's Dragons yn ogystal â’r gyfres deledu dair rhan Hughesovka and the New Russia.
Bydd y cyd-awdur Cymreig ac actifydd iaith amlwg, Angharad Tomos, yn trafod ei nofel Y Castell Siwgr, sy'n adrodd hanes y cysylltiadau trawsatlantig rhwng castell Penrhyn a phlanhigfeydd Jamaica.
Dywedodd yr Athro Diana Wallace, Athro Saesneg yn PDC a chadeirydd pwyllgor trefnu’r gynhadledd: “Mae ffuglen hanesyddol yn hynod boblogaidd, ac yn aml mae’n siapio sut rydyn ni’n meddwl am ein hanes cenedlaethol mewn ffyrdd pwysig.
"Mae sut rydyn ni'n dychmygu ffigwr fel Owain Glyndŵr, er enghraifft, yn aml yn dibynnu ar fersiynau ffuglennol fel Shakespeare. Yr un mor bwysig yw y gall ffuglen hanesyddol ein helpu i lenwi'r mudandod yn y cofnod hanesyddol. Gall ein helpu i ail-ddychmygu gorffennol anghofiedig a rhoi llais i bobl, fel caethweision, menywod a'r dosbarthiadau gweithiol, na chofnodwyd eu hanes ar bapur."
Bydd y gynhadledd rithwir ddeuddydd yn cynnwys sesiynau ysgrifennu creadigol rhyngweithiol yn ogystal â dangosiadau ffilm a chyflwyniadau. Mae arddangosfa yn Oriel y Bont, ar Gampws Trefforest PDC, hefyd yn rhan o’r digwyddiad a bydd ar gael i’w weld rhwng 1 Tachwedd a 17 Rhagfyr.
Mae'r paentiadau, gosodiadau, ffotograffau, cerfluniau, storïau a ffilmiau sy'n cael eu harddangos, a ddewiswyd o Gasgliad Amgueddfa Gwaith Celf PDC, yn ogystal â gweithiau ar fenthyg o gasgliadau, artistiaid neu awduron eraill, i gyd i raddau mwy neu lai yn annibynadwy. Maent yn datgelu’r broses ‘ffuglennu’ a ddefnyddiwn naill ai i adlewyrchu neu ailosod hunaniaethau cenedlaethol a phersonol yn yr ymgais i gael ein hanesion wedi eu hadrodd a’u hailadrodd.
Mae cofrestru ar gyfer Dychmygu Hanes: Cymru mewn Ffuglen a Ffaith yn rhad ac am ddim ac mae mwy o fanylion ar gael ar Eventbrite.
Cefnogir y digwyddiad yn garedig gan Brifysgol De Cymru, Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Archif Menywod Cymru/Women’s Archive Wales, a Llafur: Cymdeithas Hanes Pobl Cymru.