Mae llawer o bobl yn cael pleidleisio ar gyfer comisiynwyr yr heddlu – felly pam mae cyn lleied yn gwneud?

5 Mai, 2021

Polling Station Sign.jpg

gan Sophie Chambers, Darlithydd mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, Prifysgol De Cymru

Mae'r cyhoedd yng Nghymru a Lloegr yn ethol comisiynwyr heddlu a throseddu yn eu hardaloedd heddlu lleol am y trydydd tro, yn  rhan o'r etholiadau sy'n cael eu cynnal ar 6 Mai. Y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu sy'n llywodraethu heddluoedd ac mae ganddynt ystod o gyfrifoldebau, gan gynnwys y pŵer i benodi a diswyddo prif gwnstabliaid, pennu cyllidebau blynyddol, gosod blaenoriaethau plismona lleol mewn cynllun heddlu a throseddu, a chomisiynu prosiectau cysylltiedig.

Sefydlwyd y rôl gan Ddeddf Cyfrifoldeb Cymdeithasol a Diwygio'r Heddlu 2011 a chynhaliwyd yr etholiadau cyntaf yn 2012. Y nod yw gwella atebolrwydd democrataidd dulliau llywodraethu'r heddlu drwy adael i bleidleiswyr ddewis pwy sy’n cyflawni’r swydd. Ond mae yna broblemau.

Yn etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu 2012, dim ond 15% a bleidleisiodd. Dyma'r lefel isaf o gyfranogiad mewn etholiadau nad ydynt yn rhai llywodraeth leol sydd wedi ei chofnodi erioed mewn adeg o heddwch yn y DU. Roedd yn ymddangos mai’r ffaith mai isel oedd ymwybyddiaeth pobl bod yr etholiadau'n digwydd o gwbl oedd y broblem yn rhannol.  Cynhaliwyd yr etholiad hefyd ym mis Tachwedd, a gall tywydd gwael arwain at lai o bobl yn pleidleisio.

Cynyddodd cyfranogiad i 20% yn etholiadau 2016, a gynhaliwyd ym mis Mai ar yr un diwrnod ag etholiadau eraill i gynghorau.  Ond mae honno hefyd yn ganran isel iawn. Mae hynny'n broblem oherwydd y syniad erioed oedd ethol pobl fyddai'n cynrychioli'r cyhoedd a'u barn – ac a fyddai'n cael eu dwyn i gyfrif yn y blwch pleidleisio. Mae'r nifer isel a bleidleisiodd yn etholiadau 2012 a 2016 yn awgrymu nad yw'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu a etholir wir yn  cynrychioli’r bobl.

Roedd diffyg amrywiaeth hefyd ymhlith ymgeiswyr Comisiynwyr Heddlu a Throseddu. Yn 2012, dim ond 18% oedd yn fenywod, ac roedd mwyafrif helaeth yr ymgeiswyr, 93%, yn wyn. Yn 2021, mae 23% o’r ymgeiswyr yn fenywod – gwelliant ond, o ystyried bod tua thraean o ASau a chynghorwyr yn fenywod, mae hyn yn dal i fod yn gynrychiolaeth isel. Gall hyn hefyd fod wedi cyfrannu at y nifer isel sydd wedi pleidleisio yn hanesyddol, gan y gall peidio â theimlo eu bod yn cael eu cynrychioli gan ymgeiswyr olygu nad yw pobl yn pleidleisio.

Pleidiau ac ymgeiswyr annibynnol

Gwnaeth Llafur a'r Ceidwadwyr yn dda yn 2012, ond roedd llwyddiant ymgeiswyr annibynnol (12 o 41) yn syndod i rai, o ystyried eu hanes mewn etholiadau lleol. Gall hyn ddangos elfen o amharodrwydd ymhlith y cyhoedd i wneud plismona’n rhywbeth gwleidyddol, a theimlad y gallai cynrychiolwyr pleidiau rhoi mwy o bwys ar fuddiannau eu plaid na’r cyhoedd.

Fodd bynnag, yn 2016, dim ond tair sedd a enillodd ymgeiswyr annibynnol, ill tri eisoes yn y swydd yn dilyn yr etholiadau blaenorol,  gyda'r rhan fwyaf o’r seddi eraill yn cael eu colli i'r Ceidwadwyr. Yn 2021, mae 25 o'r 166 o ymgeiswyr yn sefyll fel aelodau annibynnol.

Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Swydd Efrog Alan Billings yn siarad yn Neuadd y Dref Barnsley. Alamy

Mae ymlyniad pleidiol hefyd yn bwysig mewn perthynas â chraffu. Mae Paneli Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am graffu ar flaenoriaethau plismona lleol y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, ac maent yn cynnwys cynghorwyr lleol, ac aelodau annibynnol gaiff eu gwahodd i'r panel gan yr aelodau eraill. Fodd bynnag, os yw panel yn cael ei ddominyddu gan aelodau o'r un blaid wleidyddol â'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, gallant wyro tuag at gefnogi yn hytrach na chraffu.

Gwaethygir y math hwn o drefniant drwy gynnal etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ar yr un diwrnod ag etholiadau cynghorau lleol: gall y cyhoedd bleidleisio ar sail plaid yn unig, heb wybodaeth am yr ymgeiswyr na rôl y Comisiynydd. Ar y llaw arall, mewn meysydd lle mae gwahaniaethau o ran barn wleidyddol bleidiol, neu lle mae PCC annibynnol wedi'i ethol, gall dadlau pleidiol, fynd yn drech na chraffu teg.

Rôl amwys

Mae democratiaeth gyfranogol yn golygu y dylai'r cyhoedd gael cyfle i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, a dwyn y swyddogion etholedig i gyfrif, drwy gydol eu tymor.

Mae'r ffordd mae Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn ymgysylltu â'r cyhoedd yn amrywio'n fawr rhwng unigolion ac mae wedi newid dros y naw mlynedd diwethaf. Mae rhai Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn sefyll y tu allan i archfarchnadoedd, yn dosbarthu taflenni, neu'n cynnal digwyddiadau neuadd y dref i ateb cwestiynau’r cyhoedd lleol. Mae eraill yn ymgynghori â sefydliadau sy'n cynrychioli grwpiau penodol.

Mae rhai’n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn anaml. Mae eraill yn ddefnyddwyr toreithiog ac yn denu ymgysylltiad sylweddol, drwy ddefnyddio Facebook Live er enghraifft. Mae gan rai wefannau manwl sy’n cael eu diweddaru’n gyson.  Mae eraill yn cynnal gwefannau digon moel yr olwg, sy’n cynnwys dim llawer mwy na manylion ynghylch sut i ofyn am wybodaeth.

Mae rhai wedi creu swyddi ychwanegol i helpu gydag ymgysylltu, er nad yw hynny bob amser wedi bod yn llwyddiannus, fel yn achos y comisiynydd troseddau ieuenctid yng Nghaint – person ifanc 17 oed a ymddiswyddodd ar ôl chwe diwrnod pan ganfuwyd sylwadau hiliol a homoffobig ar eu cyfryngau cymdeithasol.

Cafodd deddf 2011 a greodd y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ei rhuthro drwy'r senedd, gan arwain at restr amwys o gyfrifoldebau yn hytrach na ffiniau penodol i’r swydd. Nid yw'r ffordd y mae Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn ymgysylltu â'r cyhoedd lleol ac yn ymgynghori â nhw wedi ei diffinio’n benodol gan y ddeddf ond mae gwneud hynny yn rhan hanfodol o'r rôl.

Mae gwella atebolrwydd democrataidd dulliau llywodraethu'r heddlu yn amhosibl heb wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r etholiadau a gwella ymgysylltiad â'r cyhoedd ar ôl eu hethol. Er mwyn osgoi loteri cod post, gellid cyflwyno safonau gofynnol ar gyfer ymgysylltu ac ymgynghori er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn cael digon o gyfle i arfer eu hawl ddemocrataidd.

Fodd bynnag, yn 2016, canfu pôl piniwn gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol mai dim ond 11% o bobl yn Lloegr ac 8% yng Nghymru oedd yn honni eu bod yn gwybod pwy oedd eu Comisiynydd. O'r rhai a ddywedodd eu bod yn gwybod, cafodd 10% yr enw'n anghywir. Felly, gwella gwelededd rôl y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yw'r lle amlwg i ddechrau.

Ailgyhoeddir yr erthygl hon o The Conversation o dan drwydded Creative Commons. Gellir darllen yr erthygl wreiddiol yma.