Oed ysmygu: dyma’r effaith y gallai codi oed ysmygu i 21 ei chael yn Lloegr

16 Mehefin, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Cigarette_smoking_2000x72jpg.jpg

gan Ray Higginson, Athro Cysylltiol, Gwyddorau Bywyd

Ysmygu yw un o brif achosion marwolaethau y gellid eu hatal yn y DU – yn gyfrifol am bron 100,000 o farwolaethau bob blwyddyn. Yn Lloegr yn unig, achosodd ysmygu bron 75,000 o farwolaethau yn 2020. Yn economaidd, amcangyfrifir bod ysmygu yn costio £19 biliwn y flwyddyn i’r economi  – gyda materion iechyd sy'n gysylltiedig ag ysmygu yn costio tua £6 biliwn y flwyddyn i'r GIG. O ystyried y baich sylweddol a achosir gan ysmygu, nid yw'n syndod bod llywodraeth y DU am wneud Lloegr yn ddi-fwg erbyn 2030.  Mae Cymru  a’r  Alban hefyd wedi cyflwyno polisïau tebyg.

Mae adolygiad annibynnol a gyhoeddwyd yn ddiweddar bellach wedi amlinellu 15 o ymyriadau pwysig sydd eu hangen i helpu i gyflawni'r nod hwn. Mae rhai o'r argymhellion hyn yn cynnwys hyrwyddo e-sigaréts fel dewis amgen i sigaréts a chynyddu trethi ar gynhyrchion tybaco. Mae'r adroddiad hefyd yn argymell codi'r oedran y gall person brynu sigaréts o 18 i 21 oed – yna codi’r  oedran gan flwyddyn bob blwyddyn wedi hynny.

Nid Lloegr fyddai'r wlad gyntaf i godi'r oedran y gall person brynu cynhyrchion tybaco yn gyfreithiol mewn ymgais i fynd i'r afael ag ysmygu. Yn 2019, cyflwynodd yr Unol Daleithiau ddeddfwriaeth a newidiodd yr isafswm oedran y gallai person brynu cynhyrchion tybaco o 18 i 21. Yn 2021, Seland Newydd oedd y wlad gyntaf yn y byd i weithredu polisi "cenhedlaeth ddi-dybaco", gan wahardd gwerthu tybaco i unrhyw un a anwyd ar ôl 2008.

Er ei bod yn rhy gynnar hyd yn hyn i wybod pa effaith mae gwaharddiad newydd Seland Newydd ar ysmygu wedi'i chael ar gyfraddau, pan godon nhw’r oedran cyfreithiol i brynu tybaco yn flaenorol, gostyngodd cyfraddau ysmygu ym mhob pob grŵp oedran o 18.2% o'r boblogaeth yn 2012 i 13.4% yn 2020. Yn yr Unol Daleithiau, gostyngodd nifer yr ysmygwyr hefyd ar ôl i'r oedran prynu isaf gael ei godi.

Nid dyma fyddai'r tro cyntaf i'r DU gynyddu'r oedran cyfreithiol ar gyfer prynu sigaréts. Pan gynyddodd oedran gwerthu o 16 i 18 yn 2007, bu gostyngiad yng nghyfraddau ysmygu ieuenctid. O ystyried yr effaith y gall codi oedran ysmygu ei chael ar gyfraddau ysmygu cyffredinol, mae'n gwneud synnwyr i'r DU ddefnyddio'r strategaeth hon eto.

Yn 2019, dywedodd tua 15% o bobl ifanc 18 i 20 oed eu bod wedi ysmygu. Yn Lloegr, mae hynny'n golygu tua 364,000 o bobl. Er mai dim ond ffracsiwn o'r boblogaeth yw hyn, mae ymchwil yn dangos mai po gynharaf y bydd person yn dechrau ysmygu, y mwyaf tebygol y bydd yn dod yn ddibynnol  ac yn datblygu problemau iechyd yn gysylltiedig ag ysmygu. Byddai codi'r oedran cyfreithiol yn helpu i leihau'r tebygolrwydd y bydd rhywun yn mynd yn gaeth i nicotin ac yn datblygu problemau iechyd yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae ymchwil hefyd yn awgrymu y gall codi'r oedran ysmygu cyfreithiol atal oedolion ifanc sy'n ysmygu rhag trosglwyddo i fod yn ysmygwyr hirdymor.

Mae tystiolaeth hefyd yn dangos bod y rhan fwyaf o ysmygwyr sy'n dechrau'n gynnar mewn bywyd yn fwy tebygol o farw'n gynamserol o achosion sy'n gysylltiedig ag ysmygu – fel canser yr ysgyfaint. Ond po gynharaf y bydd ysmygwr yn rhoi'r gorau iddi, y lleiaf tebygol y bydd hyn yn digwydd. Byddai codi'r oedran ysmygu i 21 (a phob blwyddyn wedi hynny) yn atal mwy o bobl ifanc rhag dod yn ysmygwyr, ond byddai hefyd yn atal nifer y bobl sy'n dioddef o broblemau iechyd sy'n gysylltiedig ag ysmygu.

Manteision iechyd i bawb

Mae rhai pobl sy’n feirniadol o'r argymhelliad i godi oedran gwerthu sigaréts o 18 i 21 ac yna gan flwyddyn bob blwyddyn yn aml yn disgrifio hyn fel rhywbeth sy’n "torri hawliau sifil". Yn aml, mae pobl yn dadlau y bydd gwahardd ysmygu sigaréts yn arwain yn y pen draw at wahardd sylweddau niweidiol eraill – fel alcohol, neu fwydydd siwgr uchel. Ond mae ymchwil yn glir, er y gall fod lefelau yfed diogel o alcohol a defnyddio siwgr nid oes lefel ddiogel o ysmygu.

Mae pob sigarét a gaiff ei ysmygu yn niweidio bron pob organ a system yn y corff. Gall mwg ail-law a thrydydd llaw (bod ger arwynebau sydd wedi dod i gysylltiad â mwg sigaréts, fel dodrefn) hefyd achosi niwed difrifol i iechyd, hyd yn oed i'r rhai nad ydynt yn ysmygu sigaréts – gan gynnwys canserau'r croen ac oedi wrth i glwyfau wella. Byddai rhoi camau ar waith i leihau nifer y bobl yn Lloegr sy'n ysmygu yn arwain at fanteision iechyd mawr i ysmygwyr a phobl nad ydynt yn ysmygu fel ei gilydd.

Er bod cyfraddau ysmygu eisoes yn gostwng yn y DU, mae'n dal i fod yn un o'r pethau sy’n achosi’r rhan fwyaf o farwolaethau y gellid eu hatal. Er ei bod yn annhebygol y bydd cynyddu'r oedran ysmygu yn ddigon ar ei ben ei hun i helpu'r DU i ddod yn ddi-fwg erbyn 2030, bydd cyfuno hyn â mesurau eraill yn seiliedig ar dystiolaeth (megis cyfyngu ble y gall pobl ysmygu a chodi cost tybaco) yn allweddol i gyflawni hyn.