Sut y gall olrhain symptomau'r menopos roi mwy o reolaeth i fenywod dros eu hiechyd
22 Awst, 2023
Gall y menopos achosi mwy o symptomau na phyliau o wres yn unig. Ac efallai y bydd rhai o'ch symptomau a'ch adweithiau o ganlyniad i'r menopos, hyd yn oed os ydych chi'n dal i gael mislif. Mae ymchwil yn dangos y gall cadw golwg ar y symptomau hynny helpu i'w lliniaru.
Weithiau mae pobl yn siarad am y menopos fel pe bai'n ddigwyddiad unigol sy'n digwydd pan fyddwch chi yn eich 50au cynnar, sef yr amser cyfartalog i gael eich mislif olaf. Ond mae'r menopos yn gyffredinol yn ymestyn rhwng 45 a 55 oed. A bydd rhai menywod yn profi menopos "meddygol" cynharach oherwydd llawdriniaeth i gael gwared ar y groth neu'r ofarïau.
Mae'r menopos yn aml yn digwydd ar un o adegau prysuraf bywyd. Efallai bod gennych chi blant yn eu harddegau gartref neu'n cefnogi plant sy'n oedolion, bod gennych chi rieni oedrannus, eich bod yn gyflogedig a bod gennych fywyd cymdeithasol gwych. Os ydych chi'n teimlo'n flinedig, yn boeth ac yn ffwdanus, yn groendenau ac yn methu cysgu'n dda, efallai y cewch eich temtio i feddwl ei fod oherwydd nad ydych byth yn cael munud o heddwch. Ond dyna pam mae monitro symptomau yn bwysig.
Yn ddiweddar, profodd fy nhîm effeithiau olrhain symptomau ac emosiynau yn ystod y menopos. Gofynnom i fenywod raddio 30 o symptomau corfforol ac 20 o symptomau emosiynol o'r menopos.
Roedd y symptomau corfforol a seicolegol yn cynnwys methu canolbwyntio, problemau gyda threulio bwyd, straen a chroen yn cosi, yn ogystal â'r symptomau amlwg fel pyliau o wres a chwysu gyda'r nos. Roedd menywod yn olrhain emosiynau cadarnhaol fel hapusrwydd a bodlonrwydd, ac emosiynau negyddol fel teimlo'n drist, ynysig ac yn ddig.
Roedd dau grŵp o ferched yn yr astudiaeth hon. Cofnododd un grŵp eu symptomau a'u hemosiynau bob dydd am bythefnos. Cofnododd y grŵp arall eu symptomau a'u hemosiynau unwaith ar ddechrau'r pythefnos ac unwaith ar y diwedd.
Dangosodd y canlyniadau fod y menywod a oedd yn monitro eu symptomau a'u hemosiynau bob dydd yn adrodd llawer llai o emosiynau, symptomau corfforol ac unigrwydd negyddol ar ddiwedd y pythefnos nag ar y dechrau, o'i gymharu â'r grŵp arall.
Yn ogystal â hyn, er bod sgoriau unigrwydd y grŵp a oedd yn monitro bob dydd yn is na'r grŵp arall, dywedodd menywod yn y ddau grŵp fod bod yn yr astudiaeth a meddwl am symptomau yn eu helpu i deimlo'n llai unig. Yn syml, roedd gwybod bod menywod eraill yn cael profiadau tebyg yn ymddangos i helpu.
Dywedodd un cyfranogwr: "Rwy'n teimlo'n fwy normal bod menywod eraill yn gwneud yr un arolwg ac mae'n debyg eu bod yn profi problemau tebyg, yn enwedig y rhai emosiynol a meddyliol."
Pam fod monitro symptomau'n helpu?
Un rheswm pam y gallai olrhain helpu yw y gall graddio symptomau eich helpu i sylwi ar newidiadau a phatrymau o ran sut rydych chi'n teimlo. Gall hyn eich annog i ofyn am help.
Rheswm arall yw y gallai sylwi ar newidiadau mewn symptomau eich helpu i gysylltu'r newid â'r hyn rydych chi wedi bod yn ei wneud. Er enghraifft, edrych a yw'r symptomau'n cynyddu ar ôl bwyta rhai bwydydd neu'n well ar ôl ymarfer corff. Gallai hyn olygu eich bod yn newid eich ymddygiad mewn ffyrdd sy'n gwella eich symptomau.
Mae llawer o symptomau menopos yn cael eu galw'n symptomau "amhenodol." Mae hyn oherwydd y gallant hefyd fod yn symptomau problemau iechyd meddwl, thyroid neu broblemau'r galon. Mae'n bwysig peidio â meddwl fod y symptomau yn gysylltiedig â’r menopos “yn unig”. Dylech bob amser siarad â'ch meddyg os ydych chi'n poeni am eich iechyd.
Peth da arall am fonitro symptomau yw y gallwch gymryd gwybodaeth am ba mor aml rydych chi'n profi symptomau a pha mor ddrwg ydyn nhw i'ch apwyntiad gyda’r meddyg. Gall hyn helpu'r meddyg i benderfynu beth yw'r broblem.
Mae gwefannau fel Health and Her a Balance yn cynnig offer monitro symptomau a all eich helpu i olrhain yr hyn sy'n digwydd i'ch iechyd corfforol ac emosiynol. Mae yna nifer o apiau y gallwch eu defnyddio ar eich ffôn hefyd. Neu efallai y byddai'n well gennych nodi symptomau a pha mor ddrwg ydyn nhw mewn llyfr nodiadau bob dydd.
Ailgyhoeddir yr erthygl hon o The Conversation o dan drwydded Creative Commons. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.