Rhingyll ar genhadaeth i ychwanegu cymhwyster Cyfrifeg at ei arfdy
13 Ebrill, 2021
Mae Adam Marriss, o Lincoln, yn astudio ar gyfer cymhwyster Cyfrifeg proffesiynol ACCA yn PDC. Mae'r cwrs yn caniatáu i Adam ennill DipHE mewn Cyfrifeg Broffesiynol ochr yn ochr â'i bapurau ACCA gyda'r opsiwn o gyfuno ACCA ag MSc mewn Cyfrifeg Broffesiynol yn ddiweddarach yn ei astudiaethau.
Mae wedi rhannu ei brofiad o oresgyn rhwystrau i addysg, i godi ymwybyddiaeth o'r rhwystrau hynny sy'n wynebu plant personél y Lluoedd Arfog, sydd draean yn llai tebygol o symud ymlaen i addysg uwch na'u cyfoedion.
Ar ôl gweithio ei ffordd i fyny'r rhengoedd, mae Adam bellach yn gwasanaethu yn y Fyddin Brydeinig fel Rhingyll yn 29ain Catrawd Commando Magnelau Brenhinol. Fodd bynnag, nid yw ei lwybr addysgol bob amser wedi bod yn llyfn.
Yn 15 oed, cafodd Adam ei wahardd o'r ysgol uwchradd am ymddygiad gwael. Newidiodd ysgol a sefyll ei arholiadau TGAU. Er, trwy ei gyfaddefiad ei hun, dylai fod wedi gwneud yn well: “Fe wnes i basio TGAU gyda graddau C ond bach iawn o adolygu gwnes i. Wnes i ddim symud ymlaen i sefyll Safon Uwch, a dyna mae'n debyg oedd fy rhwystr mwyaf i addysg uwch. Fi oedd yn llwyr gyfrifol am hynny.
“Ymunais â’r Fyddin yn 16 oed a mynychu Coleg Sylfaen Harrogate. Nawr, 12 mlynedd yn ddiweddarach, rwy'n caru fy swydd ac wedi bod ar ymarferion ledled y byd. Pan gefais fy nyrchafu i Is-Fagnelwr, cyflawnais BTEC ym maes telathrebu. Rhoddodd hyn y 120 pwynt UCAS yr oeddwn eu hangen i symud ymlaen i'r cwrs."
Oherwydd y pandemig, mae Adam wedi gallu mynychu’r cwrs o bell a pharhau i gael ei gyflogi gan y Fyddin: “Rwy’n angerddol am rifau ac yn aml yn helpu fy ffrindiau gyda’u cyllid, fel ffurflenni treth, morgeisi, a chardiau credyd. Fe wnes i gais am grant, a ddarparwyd gan y Fyddin, i gofrestru ar yr HND mewn Cyfrifeg yn PDC. A bod yn onest, mae wedi agor fy llygaid mewn gwirionedd. Mae wedi gwneud i mi sylweddoli y gallwn fod wedi astudio yn y brifysgol yn gynharach mewn bywyd. Rwy'n mwynhau dysgu eto yn fawr.”
Mae Adam yn byw yn Plymouth gyda'i wraig, pedwar llys-blentyn, a dau o blant.
“Mae astudio yn PDC yn bendant wedi fy ysbrydoli i helpu fy mhlant i wneud y gorau y gallant. Gallaf weld llwybr i'r brifysgol ar eu cyfer, yn hytrach na phan oeddwn yn fy arddegau, roeddwn i'n teimlo nad oeddwn i'n perthyn yn y brifysgol. Dyma’r rheswm rydw i eisiau annog Plant Milwyr i gredu ynddynt eu hunain, trwy siarad am fy mhrofiadau."