Ysgol Haf PDC i gynnig blas ar fywyd prifysgol

15 Gorffennaf, 2021

Atrium Cardiff campus

Bydd Ysgol Haf gyntaf Prifysgol De Cymru (PDC) yn cael ei chynnal ym mis Awst eleni, gyda digwyddiad dau ddiwrnod yn cynnig cipolwg gwerthfawr i fyfyrwyr ysgol a choleg ar fywyd yn y brifysgol.

Bydd y digwyddiad ar y campws, ac yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher 25 a dydd Iau 26 Awst 2021. Bydd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr Blwyddyn 12 gael profiad o astudio ar lefel prifysgol drwy raglenni addysg uwch rhyngweithiol a sesiynau cynghori ar gyfer gwahanol bynciau penodol.  Mae'r ysgol haf yn rhad ac am ddim i'w mynychu, a bydd costau teithio myfyrwyr yn cael eu had-dalu gan PDC.

Bydd myfyrwyr sy'n mynychu'r ysgol haf, ac yna'n cofrestru ar gwrs gradd israddedig llawn amser tair neu bedair blynedd ym mis Medi 2022, yn gymwys i wneud cais am Fwrsariaeth Ysgol Haf PDC. Mae'r fwrsariaeth yn werth £500 a gellir ei gwario ar dechnoleg a deunyddiau'n gysylltiedig â'r cwrs.

Meini prawf cymhwysedd
Mae lleoedd yn gyfyngedig a byddant yn cael eu dyrannu i fyfyrwyr ysgol blwyddyn 12 a cholegau o grwpiau a dangynrychiolir sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd yn unol â  Chynllun Ffioedd a Mynediad 2020-21.

Bydd y ceisiadau'n cau ar ddydd Gwener 16 Gorffennaf. I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at [email protected].

I wneud cais, ewch i southwales.ac.uk/about/schools-and-colleges/virtual-summer-school.